Main content
Sam Robinson, Bardd Mis Mawrth
"Cysga di"
Cysga di fy mhlentyn tlws, dwi wedi cau a chloi’r drws.
Na fy nghariad, nid bomiau, dim ond taran.
Cei gysgu tan y bore heno.
Ac yn y bore bydd dŵr yn y bwcedi.
Cei yfed a ’molchi dy wyneb
a chawn fwyta, dwi’n addo.
Na, ’mond taran cariad, ’mond taran.
Dwi’n gwybod mae’n anodd,
ond paid â bod ofn dy freuddwydion.
Cofia di hwyl y cynhaeaf â’r machlud
yn chwarae mefus ar y dail,
a chei gysgu tan y bore.
Cyn hir, cei chwarae yn yr olewyddlan eto,
cawn ganu efo’r coed, cawn chwerthin eto.
Na fy nghariad, ni ddeuant yn ôl,
ond ni af innau, dwi’n addo.
Cysga di fy mhlentyn tlws,
Cei gysgu tan —
Sam Robinson
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Catrin Haf Jones yn cyflwyno
Mwy o glipiau Dros Ginio
![]()
Cyfrol am bêl-droed a'r Rhyfel Oer
Hyd: 04:05
![]()
Beth yw dyfodol teledu llinol?
Hyd: 03:57






