Main content
Mae’n ddrwg gennym, ‘dyw’r clip yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Chwilio (Dydd Bydd Hapus, 23 Ionawr)

Chwilio
(Dydd Bydd Hapus, 23 Ionawr)

O Ionawr a’i ddyffrynnoedd
awn â chanfod cyfrinach enfys,
un a’i odre’n chwardd o belydrau,
a hanfod ein gwynfyd
i’w gael yn ei gawg aur.

Ohono tynnwn
heulwen o lawenydd,
un pelydryn fel perl,
yn dlws yng nghledr dy law;
hwn yw Taliesin ein hinon,
a phob addewid o hyd yn newid,
yn pefrio hyn o aeaf.

Yn flodau gardd, yn chwarddiad,
yn her cyhyrau,
yn chwarae mân, yn gytgan, yn gôr,
yn sgwrs araf y dafarn,
yn eiriau ar gerdded,
yn gymuned,
yn gerdd.

Ac awn,
ymadawn â’r cawg aur,
ond daliwn yn dynn am belydryn bach,
gan wybod
nad yw’r hanfod wrth droed yr enfys.

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...