ABERHAFREN: Cân ysgafn 'Siopa dillad'
ABERHAFREN: Cân ysgafn 'Siopa dillad'
Am reswm wna’i byth ddallt yn iawn, mi gefais i pwy ddydd
y job o fynd ag Anti Dee i siopa yng Nghaerdydd.
“So what?” mi’ch clywaf chithau’n dweud, ond wedyn triwch chi
ddweud hynny ar ôl awr neu ddwy yng nghwmni Anti Dee.
Ac felly, lawr i’r dre â ni, myfinnau’n actio’r gwas:
trwy flowsus a thrwy shŵs a sgerts, mi aeth hi mewn a mas,
a cherdded wnâi yn ôl a mlaen (fel rhywun angen bog)
wrth agor pob rhyw gyrten a throi ataf ym mhob ffrog
cyn gwneud rhyw dwyrls fel tasai ar y catwalk ym Mharis;
yr hen golomen wirion, dyna oll feddyliwn i.
Fel hyn y bu am hydoedd: trio gwasgod, trio bra
(pan welais ei mynyddoedd, y mae’n wir, ebychais “Na!”).
Mewn tipyn, daeth i stop a dweud – roedd hyn ar ôl pump awr –
“Na ni di trio popeth, awn ni nôl i’w prynu nawr”.
Y fi wrth gwrs yn bortar: ar bob braich roedd pedair sach,
a saith ar fy nwy ysgwydd – ro’n i’n gwywo’n ara bach.
O’r diwedd, troi am adre a ffarwelio – am ryddhad –
mi glywyd fy ochenaid i mewn cae ym mhen draw’r wlad.
Ond wedyn y drychineb: heddiw’r bore daeth phone call.
Mae’n galw’r wythnos nesa er mwyn mynd â’r cyfan nôl.
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 27/04/2014 - Aberhafren yn erbyn Tanygroes
![]()
TANYGROES: Cân ysgafn 'Siopa dillad'
Hyd: 01:45
![]()
ABERHAFREN: Englyn 'Gwanwyn'
Hyd: 00:09
![]()
TANYGROES: Englyn 'Gwanwyn'
Hyd: 00:09








