Main content
ABERHAFREN: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cychwyn ac yn gorffen â'r un gair
I Wynedd un diweddydd
ar ei farch trwy’r Gymru fydd
dan glog y daeth swyddog sir.
Pwyntiodd ar hyd y pentir
efo bys fel gwn twelf bôr
ac angau lond ei gyngor
yna dweud, “wyth mil o dai
o fudd i’ch daear fyddai”.
Am reid yr aeth sawl gwleidydd -
ar eu hôl roedd tyweirch rhydd,
rhyw bwt o bader, a bedd
ar ei hanner i Wynedd.
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 27/04/2014 - Aberhafren yn erbyn Tanygroes
![]()
TANYGROES: Cân ysgafn 'Siopa dillad'
Hyd: 01:45
![]()
ABERHAFREN: Englyn 'Gwanwyn'
Hyd: 00:09
![]()
TANYGROES: Englyn 'Gwanwyn'
Hyd: 00:09








