Main content

Rhodri Llywelyn yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Y panel chwaraeon sef Ffion Eluned Owen a Gruff McKee fydd yn pwyso a mesur digwyddiadau'r penwythnos o ran y meysydd chwarae;

Ac wrth i astudiaeth ddatgan bod plant yn aros yn eu llofftydd, y cymdeithasegydd Rhian Hodges fydd yn ystyried be sy'n digwydd i'r uned deuluol;

A chyda Efrog Newydd wedi'w henwi'n ddiweddar fel un o ddinasoedd atyniadol y byd, Sioned Wyn Morgan sy'n ystyried be sydd mor apelgar am fyw mewn dinas, a hithau wedi treulio cyfnodau yn byw yn Efrog Newydd, Hong Kong a Llundain.

29 o ddyddiau ar ôl i wrando

1 awr

Darllediad diwethaf

Heddiw13:00