Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

30/08/2026

Mari Lovgreen sydd nôl i Chwalu Pen y podlediwr fideo Emma Pritchard a’r actor dawnus Owain Arthur. Actor Owain Arthur and Vodcaster Emma Pritchard are this week's guests.

Mari Lovgreen fydd yn herio criw o banelwyr i feddwl am ddau beth ar yr un pryd mewn sioe gwis llawn hwyl a ffeithiau difyr a dibwrpas. Yn y bennod yma, yr actor Owain Arthur (The Lord of the Rings: The Rings of Power) a’r ddylanwadwraig o bodlediadau fideo Rhwydwaith Menywod Cymru, Emma Parry Pritchard, fydd yn ymuno â’r capteiniaid Arwel ‘Pod’ Roberts a Melanie Owen – ond a fydd wybodaeth gyffredinol Emma yn creu argraff ar ei phartner heddiw?

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Sul 30 Awst 202616:00

Darllediad

  • Sul 30 Awst 202616:00