Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Rhodri Llywelyn yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Y panel chwaraeon sy'n barod i drafod y diweddara o fyd y campau, a chraffu ar berfformiad Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, yr holl gyffro o Gwpan y Byd, a'r digwyddiadau yn Wimbledon;

A hithau'n 30 mlynedd ers i grwpiau fel y Super Furry Animals a Catatonia droi i g anu yn y Saesneg, sgwrs gyda Iestyn George oedd yn newyddiadurwr ar y pryd gyda chylchgrawn yr NME;

A'r biolegydd morol, Dr Huw Griffiths, sy'n gweithio i'r British Antarctic Survey sy'n esbonio sut y gall effeithiau newid hinsawdd fygwth safle llongddrylliad yr "Endurance", a pham bod angen ei ddiogelu?

Dyddiad Rhyddhau:

1 awr

Ar y Radio

Dydd Llun Nesaf13:00

Darllediad

  • Dydd Llun Nesaf13:00