Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Tractorau Siôn a Siân a Gwobr Bob Fron Felen

Sgwrs gyda John Lewis o Henfynyw ger Aberaeron am daith elusennol dau dractor clasurol, er budd elusen cancr. John Lewis from Aberaeron chats about a charity classic tractor run.

Sgwrs gyda John Lewis o Henfynyw ger Aberaeron, Cadeirydd Grŵp Cardi Cranks am daith elusennol dau dractor clasurol - Siôn a Siân. Fe fydd y ddau dractor yn teithio o Gaernarfon i Gaerdydd er mwyn codi arian at Ymchwil Cancr Cymru - y ddau dractor yn mynd ar hyd llwybrau gwahanol.

Hefyd, Lois Cernyw sy'n cyfarfod â Bob Williams, Fferm Fron Felen yn Henllan ger Dinbych, ar ôl iddo ennill gwobr go arbennig yn ddiweddar am ei waith gyda Defaid Cheviot Tiroedd y Gogledd.

A gwobr arall i fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, gan fod Rhian Griffiths o Landdewi Brefi wedi ennill gwobr nodedig iawn gan Gymdeithas The Farmers' Club.

Richard Davies sydd â'r newyddion diweddaraf o'r sector cynhyrchu llaeth, a Chyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, Tegwen Morris sy'n adolygu'r wasg wledig.

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Yfory07:00

Darllediadau

  • Yfory07:00
  • Yfory15:30