
Ffilmiau Madfabulous ac Effi o Blaenau
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen hon mae Manon yn cael cwmni y cynhyrchydd a’r sgwennwr Dafydd Llewelyn sydd yn rhannu ei argraffiadau o ffilm 'Madfabulous', ffilm sydd yn seiliedig ar stori wir ac yn dilyn hanes Henry Paget, pumed Marciws Sir Fôn wrth iddo gyrraedd yr ynys i hawlio ei etifeddiaeth.
Ac yn sgil y ffilm yma mae Manon hefyd yn cael cwmni y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd Llŷr Morus, yr awdur Ruth Richards a’r cyn-athrawes ddrama Lowri Cynan i drafod sut mae mynd ati i gyflwyno straeon hanesyddol mewn ffyrdd creadigol.
Ac i barhau ym myd y ffilmiau, mae'r cynhyrchydd Branwen Cennard yn trafod ei chysylltiad hi hefo’r ffilm 'Effi o Blaenau', ac mae awdur gwreiddiol y ddrama lwyfan, 'Iphigenia in Splott', Gary Owen yn ymuno i sgwrsio am egin y gwaith creadigol.
Ar y Radio
Rhagor o benodau
Darllediadau
- Yfory13:00BBC Radio Cymru
- Dydd Llun18:00BBC Radio Cymru