Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Iwan Teifion Davies

Beti George yn holi Iwan Teifion Davies, Cyfarwyddwr Cerdd ac arweinydd. Beti George interviews Iwan Teifion Davies, Welsh conductor and Artistic Director of Aberystwyth Musicfest.

Beti George sydd yn holi Iwan Teifion Davies, arweinydd cerddorol a phianydd o Gymru sy’n ffigwr amlwg ym myd cerddoriaeth glasurol a’r opera yng Nghymru a thu hwnt.
Fe ddaw yn wreiddiol o Landudoch a fe oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i'r Brifysgol. Fe aeth i Goleg Emmanuel yng Nghaergrawnt i astudio gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg. Mae bellach yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Aberystwyth ers 2021, ac mae’n arwain cerddorfa Philomusica of Aberystwyth. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig Musicfest Aberystwyth ers 2023 ac yn Bennaeth Cerdd ar Ŵyl Ryngwladol Buxton yn Swydd Derby.
Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân, gan gynnwys un gan Cat Stevens.

Dyddiad Rhyddhau:

56 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul18:00

Darllediadau

  • Dydd Sul18:00
  • Dydd Iau Nesaf18:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad