
Ffermwr yn cael ei urddo i'r Orsedd
Sgwrs gyda'r ffermwr o Langyndeyrn, Hugh Williams, fydd yn cael ei urddo i Orsedd Cymru yn ystod wythnos Eisteddfod y Garreg Las eleni. Farmer Hugh Williams chats about his life.
Sgwrs gyda'r ffermwr o Langyndeyrn, Hugh Williams, fydd yn cael ei urddo i Orsedd Cymru yn ystod wythnos Eisteddfod y Garreg Las eleni. Bu Hugh yn rhan o ymgyrch bwysig yn hanes Cymru, i atal Llangyndeyrn a'r ardal rhag cael ei foddi.
Hefyd, Terwyn Davies sy'n sgwrsio gyda Dr Christine Jones, cyn Ddeon Addysg a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am Arolwg Tafodieithoedd Dyfed - casgliad o sgyrsiau gyda phobl cymunedau cefn gwlad gorllewin Cymru yn ystod yr Wythdegau, a phwysigrwydd y casgliad erbyn heddiw.
Richard Davies sydd â'r newyddion diweddaraf o'r sector cynhyrchu llaeth, a sgwrs hefyd gyda Sara Elan Jones, aelod newydd o dîm Troi'r Tir a'r Bwletin Amaeth ar Radio Cymru.
Ar y Radio
Rhagor o benodau
Nesaf
Darllediadau
- Dydd Sul07:00BBC Radio Cymru
- Dydd Sul15:30BBC Radio Cymru