29/03/2026
Gydag adweithyddion niwclear bach yn dod i Ynys Môn, dyma hanes dadgomisiynu Wylfa a Thrawsfynydd. Bydd gwyddonwyr sydd yn gyn-weithwyr o'r ddau safle yn sôn am hanes ynni niwclear
Gydag adweithyddion niwclear bach yn dod i Ynys Môn, dyma hanes dadgomisiynu Wylfa a Thrawsfynydd.
Gwyddonwyr sydd yn gyn-weithwyr o'r ddau safle, Dr Hywel Madog Jones a Dr John Idris Jones sy'n sôn am hanes ynni niwclear a'r broses.
Sgwrs gyda dau wyddonydd sydd yn arwain ar ddadgomisiynu, Angharad Rayner a Ffion Morris, ynghyd ag un arall, Dr Debbie Jones, sydd yn gweithio i MSparc wrth baratoi Ynys Môn at ddyfodiad yr adweithyddion newydd.
Yr adweithydd niwclear cyntaf yng Nghymru oedd Trawsfynydd - adweithydd Magnox. Wedyn daeth un arall yn yr Wylfa. Daeth hyn â swyddi i wyddonwyr, peirianwyr a thechnegwyr yn yr ardaloedd. Yn eu plith Dr John Idris Jones o Ynys Môn a oedd wedi astudio ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe ac a dreuliodd ei yrfa yn Wylfa, a Dr Hywel Madog Jones o Ddyffryn Nantlle , ffisegydd o Brifysgol Manceinion a weithiodd yn Atomfa Trawsfynydd am ddegawdau.
Mae dwy ferch wedi llwyddo i gyrraedd swyddi uchel yn yr NRS, Nuclear Restoration Services ( Magnox yw yr hen enw). Mae Ffion Morris, cemegydd o Brifysgol Manceinion yn arwain ar ddadgomisiynu Wylfa, a hi sydd yn mynd â ni i weld yr hen dyrbeini - ac mor agos i'r hen adweithyddion ag oedd yn bosib.
Wedyn Angharad Rayner, a wnaeth astudio ffiseg ym Manceinion ac Abertawe, ac a ddaeth yn brif reolwr yn Nhrawsfynydd - cyn mynd ymlaen i fod yn gyfarwyddwr yn adran iechyd a diogelwch ac ansawdd i'r NRS sydd yn golygu bod hi yn teithio ar hyd y Deyrnas Unedig yn ymweld ag adweithyddion sydd yn cael eu dadgomisiynu.
Rydym yn clywed oddi wrth y ddwy am eu gwaith ac am eu teimladau am y ddau bwerdy. Bydd Dr Debbie Jones yn y rhaglen hefyd. Mae hi'n gweithio i MSparc yn paratoi yr Ynys at dderbyn y 3 adweithydd SMR newydd maes o law.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Dydd Sul16:00BBC Radio Cymru
