Main content

Deli newydd Caerfyrddin, cyfrol newydd yr Hambons, a llety Maes Celt yng Nghribyn

Matthew Rees o Gaerfyrddin sy'n sôn am gartref newydd siop deli y teulu ynghanol y dref. Matthew Rees from Carmarthen talks about his deli's new home in Carmarthen town centre.

Matthew Rees o gwmni cigyddion Albert Rees yng Nghaerfyrddin sy'n sôn am gartref newydd siop deli y teulu ynghanol y dref. Megan Williams aeth draw i glywed yr hanes.

Hefyd, Terwyn Davies yn sgwrsio gydag Endaf Griffiths, awdur y gyfrol newydd i bobl ifanc - Yr Hambons: Dirgelwch y Defaid, sydd newydd ei chyhoeddi i annog plant o gefn gwlad i ddarllen mwy.

A Nicola Davies, perchennog tai crwn newydd Maes Celt yng Nghribyn, Dyffryn Aeron sy'n sôn am ddenu ymwelwyr i'r ardal, a chysylltiad y tir gydag Oes y Celtiaid.

Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Paul Williams o Nebo ger Llanrwst sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.

28 o ddyddiau ar ôl i wrando

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Dydd Sul15:30

Darllediadau

  • Dydd Sul07:00
  • Dydd Sul15:30