Main content

Ledi'r Wyrcws, nofel Saesneg gyntaf Jerry Hunter, cynhyrchiad newydd o Under Milk Wood a'r artist print Elin Crawley

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru.

Ar y rhaglen heddiw mae Manon yn pigo draw i Theatr Clwyd i gyfarfod â chast eu cynhyrchiad mawr newydd nhw o 'Under MIlk Wood' gan Dylan Thomas.

Hefyd mae yn cael sgwrs hefo'r artist Elin Crowley o Fro Ddyfi.

Mae Jerry Hunter ar fin cyhoeddi ei nofel Saesneg gynta', 'An Atheist Christian Gunslinger', ac mae yn galw heibio'r stiwdio i'w thrafod.

Ac yna i gloi, mae ymweliad hefyd â Theatr Twm o'r Nant yn Ninbych lle mae cast drama lwyfan gyntaf Jerry, sef 'Ledi'r Wyrcws' yn cael ei pherfformio.

15 o ddyddiau ar ôl i wrando

56 o funudau

Darllediadau

  • Sul 15 Maw 202613:00
  • Llun 16 Maw 202618:00