Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y Fuwch

Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen arbennig gyda'r fuwch yn ganolbwynt i'r cyfan. Terwyn Davies presents a programme all about the cow.

Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen arbennig gyda'r fuwch yn ganolbwynt i'r cyfan.

Teifi Davies o Sarnau sy'n sôn am gadw bridiau prin yng Ngheredigion - y Gwartheg Hynafol Cymreig.

Hefyd, Manon Rhys Parry o Ynys Môn sy'n sgwrsio am ei gwaith yn prynu gwartheg eidion ar gyfer y gadwyn fwyd.

Matthew Jones o ardal Nantgaredig ger Caerfyrddin sy'n sôn sut y mae'n ychwanegu at werth y llaeth ar y fferm drwy gynnal peiriant gwerthu llaeth ar y fferm, a hefyd yn cynnal rownd laeth yn yr ardal.

A Siôr Mostyn Jones o Lanfairfechan yn sôn am ei gwmni Only Cow, cwmni sy'n cynhyrchu balm ar gyfer y croen wedi'i wneud o fraster cig eidion.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 22 Chwef 202615:30

Darllediadau

  • Sul 22 Chwef 202607:00
  • Sul 22 Chwef 202615:30