Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Jennifer Jones yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Mae eleni'n Flwyddyn Cenedlaethol Darllen, ac wrth i ymgyrch genedlaethol gael ei lawnsio i annog mwy o bobl o bob oed i fwynhau darllen mewn sawl ffurf, Adam Pearce a Heledd Hulson sy'n ymuno i drafod.

Pam ein bod ni'n cael ein darbwyllo gymaint gan ddamcaniaethau cynllwyn, ac i ba raddau mae'r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol bellach yn ffordd o ledaenu'r syniadaeth yn ehangach? Dyfrig Davies sy'n cynnig atebion.

Ac Elin Wyn Williams sy'n esbonio pa eitemau fydd yn ein basged siopa yn ystod 2026 a beth sy'n dylanwadu ar chwaeth pobl?

1 awr

Darllediad diwethaf

Maw 24 Chwef 202613:00