Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Modrwy Gobaith

Cân yng nghwmni Elgan Llŷr Thomas a Trystan Llŷr Griffiths; Tesni Calennig wedi creu modrwy gobaith a Dr Dylan Foster Evans wedi cyfieithu llyfr. A warm welcome with Shân Cothi.

Mae Elgan Llŷr Thomas a Trystan Llŷr Griffiths wedi bod yn recordio trefniant arbennig o Suo Gân a Rho im yr Hedd gyda'r arian yn mynd at elusen sy'n agos iawn at eu calonnau. David Doidge sy'n cyfeilio i'r ddau ac Elgan ei hun sydd wedi trefnu'r gân.

Mae'r artist Tesni Calennig o Garndolbenmaen wedi bod yn creu gemwaith - sy' wedi ei ysbrydoli gan gerdd Casi Wyn, "Modrwy Gobaith". Mae'r modrwyau wedi eu gwneud o arian gyda'r garreg Labrodorite yn y canol – sy’n cynrychioli glas y GIG.

Mae’r cyfnod yma wedi bod yn galed i blant ac yn galed iawn i rieni esbonio beth sydd yn digwydd ond nawr mae plant ledled Cymru wedi cael y cyfle i drafod a deall effaith Covid-19 wedi i staff Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, gyfieithu stori am y pandemig i’r Gymraeg. “Ti yw fy Arwres: sut y gall plant frwydro yn erbyn Covid-19!” yw enw’r llyfr a Dr Dylan Foster Evans o'r Brifysgol sydd yn esbonio mwy.

1 awr, 56 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 16 Meh 202011:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Suo Gan a Rho Im Yr Hedd

    Elgan Llyr Thomas a Trystan Llyr Griffiths

  • The Llanelli Male Choir

    Dashenka

    • Music of Wales - Classic Collection.
    • Sain.
  • Salem Caernarfon

    O Tyrd I'n Gwaredu Iesu Da

  • Elen-Haf Taylor

    Chdi A Fi

  • Huw Chiswell

    Nos Sul A Baglan Bay

    • Rhywun Yn Gadael.
    • Sain.
  • Bronwen

    Curiad Coll

    • Can I Gymru 2017.
  • José Carreras

    En Aranjuez Con Tu Amor

  • Morus Elfryn & Nerw

    Merigorownd

  • Aneurin Barnard

    Ar Noson Fel Hon

    • Can I Gymru 2004.

Darllediad

  • Maw 16 Meh 202011:00