Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Celfyddyd y pwll glo a'r chwarel

Rhaglen yn edrych ar sut mae'r pwll glo a'r chwarel wedi ysgogi darnau o gelfyddyd. A look at how coal mines and quarries have inspired artists, photographers and poets.

Rhaglen yn edrych ar sut mae'r pwll glo a'r chwarel wedi ysgogi darnau o gelfyddyd.

Ar ymweliad ag arddangosfa Merched Chwarel yn Storiel, Bangor, mae Nia yn cael sgwrs gyda'r artist Jwls Williams.

Yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, mae Carwyn Rhys Jones yn egluro sut mae ffotograffau a ffilm fer yn cofnodi hanes pum chwarelwr.

Y bardd Caryl Bryn sy'n edrych ar sut mae'r pwll a'r chwarel wedi ysbrydoli beirdd dros yr oesoedd, wrth i'r artist Mike Jones egluro fel y mae glowyr a gweithwyr Cwm Tawe wedi ei ysgogi ar hyd ei yrfa. Mae'n sgwrsio â Nia yn ei stiwdio yn ei gartref ym Mhontardawe.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 11 Awst 201917:00

Darllediadau

  • Mer 1 Mai 201912:30
  • Sul 5 Mai 201917:00
  • Sul 11 Awst 201917:00