Brwydr y Bandiau 2018
Unwaith eto eleni, mae Maes B a Radio Cymru’n cydweithio i lansio un o uchafbwyntiau’r Sîn Roc Gymraeg – cystadleuaeth Brwydr y Bandiau, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod ym mis Awst.

Dyma gyfle i fandiau ifanc newydd gael profiad o berfformio yn y Sîn, a’r gobaith yw y byddan nhw’n parhau i gigio a chyfansoddi yn y Gymraeg yn y dyfodol.
Allfa ddaeth i’r brig yn 2017, ac mae’r band wedi bod yn brysur yn gigio ers hynny, ac wedi’u cadarnhau ar lein-yp Gwyl Focus Wales, Wrecsam yn ddiweddar.
Chroma oedd enillwyr y gystadleuaeth yn 2016, ac mae’r band wedi mynd o nerth i nerth dros y flwyddyn ddiwethaf, gan berfformio yng ngwyliau Leeds a Reading, yn ogystal â’r Eisteddfod, yn ystod yr haf eleni.
Y dyddiad cau yw 16 Chwefror, gyda chyfres o rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal o amgylch Cymru yn ystod y gwanwyn, a’r rownd derfynol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ar 8 Awst y flwyddyn nesaf.
Bydd y band buddugol yn cael eu gwahodd i berfformio set ym Maes B, a bydd cyfle hefyd i berfformio sesiwn ar Radio Cymru. Yn ogystal, bydd y band yn cael eu ffilmio ar gyfer rhaglen Ochr 1, S4C ac yn cael eu cynnwys yng nghylchgrawn Y Selar. Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn gwobr ariannol o £1,000.
Bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol hefyd yn rhan o gynllun mentora a drefnir gan Radio Cymru, a fydd yn gyfle i’r cerddorion ifanc gael cyngor a chymorth gan rai sy’n amlwg ac sydd â phrofiad o weithio yn y Sîn.
Gellir cofrestru drwy wefan Maes B, www.maesb.com, a dyma lle y ceir yr amodau a’r rheolau i gyd hefyd ar gyfer y gystadleuaeth.
![]()
Allfa - Enillwyr 2017
Alffa, enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2017.
![]()
Chroma – Datod
Cân fyw gan enillwyr Brwydr y Bandiau 2016.
![]()
Oriel yr enillwyr
Oriel luniau o gyn-enillwyr Brwydr y Bandiau, yn cynnwys Chroma, Ar Goll Mewn Cemeg, Y Ffug, Nebiwla a Siân Miriam.
![]()
Bandiau’r brwydrau
Sgyrsiau a proffeiliau o rhai o’r grwpiau sydd wedi cymryd rhan.
![]()
Brwydr y Bandiau
Rhagor o glipiau, fideos ac orielau Brwydr y Bandiau.









