Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC: Recriwtio Cyfarwyddwr y Corws
Ar ôl bron i ddeng mlynedd ar hugain fel Cyfarwyddwr Corws gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, bydd Adrian Partington yn ymddeol o’i rôl gyda’r Corws yn nhymor 2027/28. Mae hwn yn gyfle unigryw i arweinydd corawl profiadol, brwdfrydig ac ysbrydoledig gymryd yr awenau a chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gynnal a datblygu enw da Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC ymhellach fel corws symffonig o’r radd flaenaf.
Bydd deiliad y swydd yn paratoi’r corws ar gyfer perfformiadau, darllediadau a recordiadau, ac yn helpu i siapio cyfeiriad artistig Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn y dyfodol.Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o gyfarwyddo corysau neu grwpiau lleisiol, sy’n gallu cynllunio a darparu ymarferion wythnosol difyr sy’n galluogi’r corws i gyflwyno perfformiadau o ansawdd proffesiynol, yn ogystal â chefnogi twf y corws a datblygu ei aelodaeth. Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Corws a fydd â gwybodaeth helaeth am repertoire corawl symffonig a hyfforddiant lleisiol, ac a fydd â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf. Bydd yn datblygu proffil y Corws mewn ffordd ysbrydoledig, ddiddorol a chreadigol.
Bydd Cyfarwyddwr y Corws yn cysylltu’n uniongyrchol â’r tîm artistig yng Ngherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC i siapio’r cyfraniad corawl at allbwn artistig y Gerddorfa mewn cyngherddau ac mewn darllediadau.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Mawrth 29 Medi am 16:00
I gael gwybodaeth lawn am y swydd a sut mae gwneud cais, darllenwch ein pecyn recriwtio.



