'Ciwio ar fynydd? Dim peryg!' - y ddadl ar gopa'r Wyddfa

Mae ymwelwyr â'r Wyddfa yn cael eu hannog i barchu pobl eraill trwy ymuno â'r ciw i gyrraedd y copa yn hytrach na'i anwybyddu.

Mae fideos diweddar ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dangos sawl ffrae rhwng pobl sy'n aros mewn rhes ac unigolion sy'n eu pasio i flaen y ciw.

Fe gyhoeddodd ddyn o Fanceinion y fideo yma ohono'n cael ei heclo wrth iddo fynd heibio'r ciw.

Yn y fideo mae Marc Screeton yn dweud: "Dychmygwch giwio ar fynydd? Dim peryg!"

Darllenwch fwy am y stori yma.