Ymchwiliad yn dilyn niwed gan gerbyd i domen gladdu Oes yr Efydd

Mae traciau teiars yn amlygu ble y cafodd cerbyd ei yrru ar domen gladdu Mynydd Hiraethog
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio i ddifrod sydd wedi ei achosi i domen gladdu o Oes yr Efydd wedi i rywun yrru cerbydau drosti.
Mae marciau teiars i'w gweld yn amlwg ar y domen 4,000 mlwydd oed ar Fynydd Hiraethog ger Llansannan, yn Sir Conwy.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod y safle "yn rhan o'n treftadaeth a dylid ei barchu".
Mae Cadw, y corff sy'n gofalu am henebion Cymru, yn annog pobl "i aros ar lwybrau a ffyrdd penodedig" yng nghefn gwlad.

Mae yna nifer o garneddau neu domenni claddu Oes yr Efydd ar draws Cymru.
Fe gawson nhw eu codi o oddeutu 2,000 Cyn Crist ymlaen i gladdu unigolion a grwpiau o bobl.
Mae'r carneddau mewn mannau uchel - yn aml gyda golygfeydd godidog o'u cwmpas.

Mae'r Cwnstabl Dave Allen o Dîm Troseddau Cefn Gwlad y gogledd yn ymchwilio i'r difrod ar Fynydd Hiraethog
Fe gysylltodd ffermwr lleol â Thîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru i roi gwybod iddyn nhw am y difrod ar Fynydd Hiraethog.
Mae'r Cwnstabl Dave Allen o'r tîm yn apelio am fwy o wybodaeth all fod o gymorth i ymchwiliad y llu.
Mae angen gwarchod y domen gladdu, meddai, yn unol â Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
"Mae wedi bod yma ers amser maith," dywedodd. "Megis gwarchodwyr y safle ydan ni - mae angen i ni ei warchod ar gyfer y cenedlaethau i ddod hefyd".
Mae'r safle ar bwys ffordd is-ffordd ger Llansannan ar Fynydd Hiraethog ac yn gymharol anghysbell.
Mae'r ymchwiliad, medd y Cwnstabl Allen, yn heriol yn sgil diffyg CCTV a thystiolaeth fforensig.
"Os welodd unrhyw un unrhyw beth, fe allai'r peth lleiaf o bosib ddod â ni gam ymlaen yn yr ymchwiliad."

Mae difrod wedi ei achosi i'r gwair ar frig y domen gan deiars cerbydau
Mae Cadw yn cydweithio â'r heddlu i geisio cadarnhau beth ddigwyddodd.
Dywedodd Jeff Spencer, un o wardeiniaid henebion maes Cadw: "Os ydy'r safleoedd yma'n cael eu difrodi neu eu dinistrio, mae'n amhosib i'w hadfer yn gyfan gwbl fel ag yr oedden nhw.
"Mae gwybodaeth a deunydd sy'n dyddio o filoedd o ganrifoedd yn cael ei golli am byth."

Mae'r cerddwyr yma - Nancy a John Thirsk, a Colin ac Anne Darlington - yn dweud bod angen arwyddbost fel bod pawb yn ymwybodol o arwyddocâd y safle
Aeth Colin ac Anne Darlington, o Gyffordd Llandudno, heibio'r domen gladdu wrth ddilyn Taith Pererin Gogledd Cymru.
Dywedodd Colin: "Mae'r bobol hyn sy'n hoffi gyrru oddi ar y ffordd yn mynd i weld hwnna a meddwl 'o, dyna dwmpath bach neis i fynd i fyny drosto'.
"Mae jest yn sefyll yna ar gyfer hynny i ryw raddau, yn dyw e? A dydyn nhw ddim yn sylweddoli beth ydy o."
Awgrymodd Anne: "Pe tai arwydd yna yn ei nodi fel safle archaeolegol - ella na fyddai'n cadw pawb draw ond yn atal rhai."
Dywedodd cerddwr arall, Nancy Thirsk i Ddyserth, yn Sir Ddinbych: "Fyddai'r rhan fwyaf o bobol ddim yn 'nabod hwnna fel tomen gladdu, na fysen?
"Felly oni bai bod yna well arwyddo, dydy o ddim wir yn deg i feirniadu'r sawl a wnaeth hynny."
Cerrig sarn 'o bwys cenedlaethol' wedi eu fandaleiddio
- Cyhoeddwyd8 Medi 2025
'Diffyg parch' - pryder am ddifrod troseddol i safleoedd hanesyddol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2025
Fandaliaid yn achosi difrod i gylch cerrig hanesyddol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2025
Dywedodd y Cwnstabl Dave Allen mai ei brif nod yw addysgu pobl yn yr ardal ynghylch arwyddocâd henebion a'r angen i'w gwarchod.
"Os rydych am fynd allan a mwynhau golygfeydd godidog gogledd Cymru, cymerwch olwg ar wefan Cadw am bethau y dylech chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.