'Dydy pobl ddim yn meddwl bod ailgylchu'n rhan o'u swydd'

biniau ailgylchu mewn swyddfa yng Nghasnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Ers 2024, mae gofyn i fusnesau yng Nghymru ddidoli eu gwastraff i'r un categorïau ailgylchu ag y mae disgwyl i gartrefi eu gwneud

GanIolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dal "tipyn o le i wella" pan mae'n dod at ein harferion ailgylchu yn y gweithle o'i gymharu ag adref, yn ôl un arbenigwr.

Daw hynny wrth i ffigyrau awgrymu mai dim ond 61% o bobl yng Nghymru sy'n ailgylchu'n aml yn y gwaith, gydag un o bob pump yn dweud nad ydyn nhw'n cofio gweld cyfleusterau priodol.

Mae darparu mwy o finiau, a labelu pethau'n gliriach i weithwyr a chwsmeriaid, yn bethau y gall busnesau eu gwneud i wella'r sefyllfa, yn ôl elusen lleihau gwastraff WRAP.

Ond yn ôl un busnes yng Nghaerdydd, mae'r ddeddfwriaeth ar ailgylchu yn y gweithle gafodd ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn 2024 wedi golygu cost cymharol uwch i fusnesau bach.

Yng nghaffi Canna Deli yn Nhreganna, Caerdydd, mae gofod cyfyng y gegin yn golygu mai dim ond dau fin sydd yno – un i wastraff cyffredinol, a'r llall ar gyfer ailgylchu.

Mae staff wedyn yn gorfod ailddidoli'r nwyddau ailgylchu yn y biniau tu ôl i'r caffi, tra bod rhaid talu "pris go sylweddol" i'r cyngor hefyd i gasglu'r gwastraff, yn ôl y perchennog.

"Mae'n amhosib cael chwech bin gwahanol yn y caffi," meddai Tomos Roberts.

"Dydy o ddim y broses orau [gorfod gwahanu'r gwastraff ailgylchu eto], ond mae o beth sy'n gweithio i ni yn fan 'na, a 'dan ni'n dilyn y canllawiau.

"Mae o'n gostus hefyd. Mae lot o bobl yn meddwl os ti'n talu cyfraddau busnes, bod dy finiau'n cael eu casglu fel maen nhw efo'ch tŷ, ond dydy o ddim yn cyfro hynny.

"Felly o ran busnes bach mae o'n lot mwy o waith, a lot mwy o arian."

Tomos Roberts, perchennog Canna Deli yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r gofod cyfyng yn y caffi ddim yn caniatáu lle iddyn nhw allu rhoi bin unigol i bob math o wastraff ailgylchu, meddai Tomos Roberts

Mae Tomos yn teimlo bod arferion ailgylchu pobl yn well adref nag ydyn nhw yn y gwaith, ac yn cyfaddef bod angen iddo fod yn "llym ar y staff" weithiau i'w hatgoffa.

"Os 'sa ti'n gofyn i'r staff dwi'n aml yn deud 'meddyliwch am y dolffins', ac wedyn mae 'na rywbeth yn clicio," meddai.

"Achos os ti ddim yn ailgylchu'n iawn adre, ti sy'n cael y ffein. Os ti ddim yn ailgylchu'n iawn yn y gwaith, dim ti yn bersonol sy'n cael y ffein.

"Mae 'na lot fawr o wledydd yn dy dalu di i ailgylchu – 'swn i'n licio gweld rhywbeth fel 'na yn dod i rym yn y wlad yma."

biniau y tu ol i gaffi Canna Deli yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i staff y caffi ailddidoli'r gwastraff ailgylchu i'r biniau yn y cefn - proses lafurus sy'n tynnu oddi wrth eu gwaith dydd i ddydd, ac hefyd yn annifyr mewn tywydd gwael

Mae rhai gweithwyr a busnesau'n sicr yn ei chael hi'n anoddach nag eraill i addasu i'r newid.

Yn ôl arolwg blynyddol WRAP mae 94% o bobl yng Nghymru'n dweud eu bod nhw'n ailgylchu adref, ond dim ond 61% sy'n gwneud hynny "yn gyson yn y gwaith", a'r ganran yn disgyn i lai na hanner ar gyfer myfyrwyr coleg neu brifysgol.

Dim ond 30% o bobl oedd yn dweud bod llawer o gyfleusterau ailgylchu yn eu gweithle nhw, er gwaetha'r rheolau newydd, tra bod 20% yn dweud nad oedden nhw'n cofio gweld rhai o gwbl.

"Mae e dal yn rhywbeth cymharol newydd i gael biniau ailgylchu pan 'dyn ni tu allan i'r cartref," meddai Angela Spiteri, uwch-reolwr marchnata WRAP.

Angela Spiteri, uwch reolwr marchnata gyda WRAP
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfleusterau anghyson neu arwyddion dryslyd ar finiau ymhlith y pethau gall rhai busnesau wella arno er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl ailgylchu'n gywir yn y gwaith, yn ôl Angela Spiteri

"Mae'n gam positif iawn i'r cyfeiriad cywir yng Nghymru, ond dyw e ddim yn berffaith ac mae llawer o bethau y gallwn ni wneud i wella.

"Yn y bôn mae angen i bobl feddwl am eiliad cyn rhoi eu gwastraff mewn bin ailgylchu.

"Ac mae cyfrifoldeb ar fusnesau i sicrhau bod hynny'n bosib, a darparu'r biniau a'r cyfleusterau cywir i bobl er mwyn gwneud hynny'n haws."

Dydy hynny ddim wastad yn bodoli mewn swyddfeydd neu mannau cyhoeddus, fodd bynnag, a hynny'n destun rhwystredigaeth i rai.

"Dwi'n ceisio ailgylchu fel y dylaswn, ac mae hynny'n haws i'w wneud adref," meddai Peredur Wyn Powell o Gaerdydd.

"Mae'n anos gwneud hynny mewn mannau cyhoeddus onibai bod y cyfleusterau yno'n barod i chi wneud hynny."

canolfan ailgylchu Cyngor Bro Morgannwg yn Y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd Cyngor Bro Morgannwg ganolfan ailgylchu newydd yn Y Barri yn 2022, oedd yn barod i dderbyn maint uwch o wastraff ailgylchu oherwydd y ddeddfwriaeth oedd yn cael ei pharatoi gan Lywodraeth Cymru

Mae Chris Pascoe o Ynys y Barri yn gweithio mewn siop trwsio beiciau, ac yn dweud ei fod yn rhan o'u hyfforddiant fel staff i "ddefnyddio'r bin mewn ffordd addas".

"Dwi'n eitha' brwdfrydig [i ailgylchu] gartref ac yn y gwaith, 'dyn ni methu para fel cymdeithas i daflu popeth yn y bin," meddai.

Yn ôl Natalie James o'r Barri, mae hi hefyd yn tueddu i ailgylchu "tua'r un peth" yn y gwaith a gartref.

"Dwi'n gweithio mewn ysbyty, felly mae ganddon ni'r categorïau ailgylchu ym mhobman, mae'n rhaid i ni ei wneud e," meddai.

Lori ailgylchu yn cyrraedd canolfan ailgylchu Cyngor Bro Morgannwg yn Y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan ailgylchu yn Y Barri yn delio gyda gwastraff ailgylchu cartref, yn ogystal â gwastraff ailgylchu rhai o fusnesau'r ardal sy'n talu am wasanaeth y cyngor - ond gall cwmnïau hefyd ddefnyddio darparwyr preifat

Er bod gofyn bellach i fusnesau yng Nghymru ddidoli eu gwastraff i chwe chategori – fel rydyn ni'n ei wneud adref – mae trefniadau casglu'n gallu amrywio o ardal i ardal.

Mae busnesau ym Mro Morgannwg yn gallu defnyddio gwasanaethau cyngor neu breifat, ac mae'r awdurdod lleol wedi gweld "safon uwch o ailgylchu" yn digwydd ers cyflwyno'r newid.

"Rydyn ni wedi cael ymateb gwych gan fusnesau'r sir," meddai'r swyddog prosiect gwastraff, Carys Stephens.

"Yn amlwg rydych chi am gael rhai sy'n feirniadol, ac yn poeni am y gost a'r ymdrech ychwanegol mae'n ei gymryd i sortio'r ailgylchu.

"Ond rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn ers cwpl o flynyddoedd bellach, ac mae'r rhan fwyaf o bobl jyst yn dod i arfer."

Carys Stephens, swyddog prosiect gwastraff Cyngor Bro Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Gall busnesau leihau faint o wastraff cyffredinol maen nhw'n ei gynhyrchu yn sylweddol drwy gael gwared ar finiau personol mewn swyddfeydd, a chynnig biniau ailgylchu cymunedol yn lle, meddai Carys Stephens

Mae cyfraddau Cymru ar gyfer ailgylchu yn y gweithle yn "weddol uchel", yn ôl yr ymgynghorydd Rebecca Colley-Jones, ond "mae dal tipyn o le i wella".

"Mae'n system newydd, felly wrth gwrs fod 'na gyfnod o setlo lawr," meddai.

"Dwi'n siŵr wnawn ni weld y 61% yna'n dechrau codi yn y dyfodol.

"Yn aml maen nhw'n fusnesau twristiaeth neu letygarwch, felly maen nhw hefyd yn gorfod trio addysgu'r cwsmeriaid o ran be i 'neud."

Fe allai unigolion hefyd gymryd ychydig mwy o gyfrifoldeb, meddai.

sbwriel metel yng nghanolfan ailgylchu Cyngor Bro Morgannwg yn Y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynghorau fel Bro Morgannwg yn cynnig tair 'haen' o wasanaeth casglu i fusnesau, yn dibynnu ar eu maint, a faint o wastraff ailgylchu maen nhw'n ei gynhyrchu

"Pan 'dan ni adra, ni sy'n gyfrifol am y gwastraff, weithiau fyddwch chi'n teimlo pwysau gan eich cymdogion chi i ailgylchu'n iawn – dydy hynny ddim o reidrwydd yn wir yn y gwaith.

"Pan mae pobl yn mynd i'r gwaith maen nhw yno i weithio, dydyn nhw ddim o reidrwydd yn meddwl bod ailgylchu yn rhan o'u swydd nhw.

"Felly mae angen cael pobl i ddeall bod diwylliant y gweithle'n bwysig hefyd, ac arferion Cymru fel gwlad. Ni ydy'r ail wlad orau yn y byd am ailgylchu."

Ychwanegodd Ms Colley-Jones fod newidiadau'n debygol o fod wedi ychwanegu at gostau rhai busnesau, gan gyfaddef bod trefniadau casglu amrywiol rhwng ardaloedd hefyd yn gallu bod yn "ddryslyd".

"Mi fydd hynny'n arwain at gyfnod o setlo lawr cyn y gwelwn ni'r canlyniadau gorau."

Dim erlyniad eto

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n monitro cydymffurfiaeth ar ran Llywodraeth Cymru, nad oedd unrhyw weithle wedi cael eu herlyn eto am beidio â dilyn y rheoliadau newydd.

Dywedodd llefarydd fod 56% o fusnesau wedi bod yn dilyn y rheolau yn nwy flynedd gynta'r cynllun, a'u bod wedi cynnig "cyngor a chefnogaeth" i'r rheiny oedd heb gydymffurfio, a bod y rhan fwyaf o'r rheiny "wedi cymryd camau" i wella.

Ychwanegodd: "Ers Ebrill eleni rydym wedi dechrau ailasesu busnesau blaenoriaeth oedd ddim yn cydymffurfio o'r blaen.

"Mae'r busnesau blaenoriaeth yn cynnwys y rheiny ble roedd problemau difrifol, a chwmnïau mawr ym meysydd gwasanaethau bwyd a manwerthu.

"O ganlyniad i'r ailymweliadau eleni, rydym wedi cyhoeddi 14 llythyr Cyngor ac Arweiniad Ffurfiol, 11 llythyr Rhybudd, ac yn y broses o gyhoeddi Cosb Ariannol Newidiol."

Pynciau cysylltiedig