Merch, 17, 'methu gweld dyfodol' tan iddi ganfod therapi celf

Cafodd Elain Walker gyfnod anodd yn yr ysgol uwchradd tan iddi ddechrau ymgymryd â therapi celf
- Cyhoeddwyd
Mae merch 17 oed yn dweud nad oedd hi'n gallu gweld "dyfodol" yn yr ysgol, a'i bod wedi dioddef iechyd meddwl "gwael" tan iddi ddechrau ymgymryd â therapi celf.
Fe ddywedodd Elain Walker, sydd newydd gwblhau cwrs Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai, mai drwy gelf yn unig yr oedd hi'n gallu mynegi ei theimladau yn ystod y cyfnod tywyll hwnnw.
Erbyn hyn mae Elain wedi goresgyn ei heriau ac yn awyddus i fod yn therapydd celf ei hun.
Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd, mae therapi celf yn "fath o seicotherapi sy'n defnyddio cyfryngau celf fel prif ddull mynegiant a chyfathrebu".
Teimlad 'unig iawn'
Mewn sgwrs fe eglurodd Elain iddi brofi cyfnod heriol yn yr ysgol, am nad oedd hi'n teimlo'n gyfforddus.
"Doeddwn i ddim yn mwynhau unrhyw bwnc, oni bai am fy ngwersi celf - ac roeddwn i'n lwcus iawn o gael athrawes oedd mor neis ac understanding," meddai.
"Roedd presenoldeb fi'n isel iawn - ac roedd hynny'n arwain at ddadlau rhwng Mam a fi.
"Oedd o'n deimlad unig iawn... a confusing. Pan fydde rhywun yn gofyn imi be oedd yn bod, doeddwn i'm yn gwybod! A doeddwn i'm yn gwybod sut i siarad am sut oeddwn i'n teimlo.
"'Nes i wedyn ddechrau cael art therapy yn yr ysgol - ac yn syth bin roedd celf yn ffordd dda i mi ddod ag emosiynau fi allan.
"Bydde hi [y therapydd] yn gofyn i mi wneud lluniau... ac yn gofyn i mi ddisgrifio'r awyrgylch oeddwn i'n ei brofi drwy liwiau," ychwanegodd Elain.
Eisiau helpu pobl 'sydd wedi teimlo fel fi'
Nos Iau 25 Mehefin, derbyniodd Elain y Wobr Gelf yn noson wobrwyo'r Coleg, fel cydnabyddiaeth o'i datblygiad a'i chynnydd wrth ymgymryd â chwrs Celf a Dylunio lefel 3 Coleg Menai.
Erbyn hyn, mae Elain wedi derbyn cynnig diamod i astudio Celf yn y Brifysgol yn yr hydref, gyda'r nod yn y pen draw i fod yn therapydd celf ei hun.
"Dwi eisiau helpu pobl eraill sy'n ei gweld hi'n reit anodd i siarad am sut y maen nhw'n teimlo - pan nad ydyn nhw eu hunain yn gwybod sut y maen nhw'n teimlo.
"Mae celf wedi bod yn ffordd really da imi gyfleu fy union deimladau - boed hynny drwy liwio, paentio, lliwiau, neu farciau paent.
"Dwi eisiau helpu pobl sydd wedi teimlo fel fi," meddai.
- Ffynhonnell y llun, Elain Walker

1 o 7
Yn ôl Cymdeithas Therapyddion Celf Prydain (British Association of Art Therapists), pan fydd plant yn profi heriau cymdeithasol, emosiynol neu feddyliol, gall fod yn anodd iddyn nhw fynegi'n union sut y maen nhw'n teimlo.
Drwy ymgymryd â therapi celf, mae modd iddyn nhw gyfleu eu hunion deimladau drwy gyfrwng sydd efallai'n fwy cyfarwydd iddyn nhw yn yr ysgol.
Fis Ionawr eleni roedd yna ymchwiliad i effaith economaidd y celfyddydau ar y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar lefel genedlaethol am y tro cyntaf.
Roedd yr adroddiad yn edrych ar y manteision ariannol i iechyd a lles wrth ymgysylltu â'r celfyddydau yng Nghymru.
Yn ôl canfyddiadau adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru byddai modd i 5% o apwyntiadau iechyd meddwl meddyg teulu ar gyfer oedolion arbed £17m y flwyddyn petaen nhw'n ymgysylltu â'r celfyddydau.
Mae'r adroddiad yn nodi hefyd y gellid creu "budd iechyd meddwl a lles blynyddol o £9.5m" petai rhaglenni celfyddydau yn cyrraedd 5% o bobl ifanc.
Yn ôl data gan Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, mae gan aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru lai o fynediad at therapyddion celf o'i gymharu â Lloegr.
Mae'r data'n awgrymu bod un therapydd i bob 11,383 o bobl yn Lloegr, tra yng Nghymru mae un therapydd i bob 14,558 o bobl.

Mae Megan Alys Thomas yn brif ymarferydd therapiwtig ar gyfer pobl ifanc yng Nghyngor Caerffili
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Megan Thomas, Prif Ymarferydd Therapiwtig Cyngor Caerffili, bod ymchwil yn dangos bod galw cynyddol am therapi o'r fath.
"Y brif her, yn fy mhrofiad i, yw nad yw pob gwasanaeth yn deall yn llawn rôl therapydd [ym maes y celfyddydau] na'r manteision," meddai.
"Gall gefnogi pobl o bob oed, o fabanod i bobl hŷn, ac mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd ag anghenion emosiynol, cymdeithasol, cyfathrebu, ac iechyd meddwl."
Dywedodd Megan y gall mynediad at wasanaethau fod yn anghyson.
"O ran y dyfodol, rwy'n gobeithio gweld mwy o fuddsoddiad yn y maes a mwy o swyddi yng Nghymru," meddai.
Ychwanegodd yr hoffai ei weld yn dod yn rhan "fwy sefydledig o dimau aml-ddisgyblaethol mewn ysgolion, y GIG a gwasanaethau cymunedol."
Dywedodd Llywodraeth Cymru:
"Mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, gan gynnwys therapïau celf, cerddoriaeth a drama, yn rhan graidd o dimau aml-ddisgyblaethol sy'n gweithio o fewn y GIG, gwasanaethau cymunedol a'r trydydd sector i gynnig arbenigedd therapiwtig arbenigol i blant ac oedolion.
"Bydd strategaeth gweithlu gynhwysfawr hirdymor ar gyfer GIG Cymru yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref mewn partneriaeth â staff, undebau a byrddau iechyd. Mae'r amserlen hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wneud hyn yn gywir cyn gynted â phosibl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin

- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2025






