Seiclwr o Bowys yn drydydd mewn ras feics ultra ar draws Ffrainc

- Cyhoeddwyd
Mae seiclwr o Bowys wedi dod yn drydydd mewn ras feics enfawr ar draws Ffrainc.
Na, nid y Tour de France, ond Race Across France, lle mae'n rhaid beicio 2,500km mewn 10 diwrnod neu lai.
Ac fe lwyddodd Rhydian Morris o Ffordun i gwblhau'r ras ultra mewn pum diwrnod a 22 awr, a hynny mewn tymheredd o 40 gradd rai dyddiau.

Roedd rhaid gorffen y 2,500km mewn llai na 10 diwrnod - llwyddodd Rhydian i orffen y ras mewn pum diwrnod a 22 awr
Roedd y ras yn mynd o dde-orllewin y wlad yn Hendaye, tua'r gogledd i ddinas Orléans, ac yn ôl i lawr i'r arfordir yn y de-ddwyrain, gan orffen yn Mandelieu-la-Napolue.
Digon o olygfeydd gogoneddus, wrth gwrs, ond hefyd digon o fynyddoedd i'w dringo.
"Oedd y ddau ddiwrnod cyntaf ddim rhy ddrwg o ran yr elevation," eglurodd Rhydian, "ond unwaith 'naeth hi ddod at yr Alpau, roedd rhaid i ni 'neud y Grand Columbier, sef un o'r mynyddoedd enwog yn y Tour de France.
"Yr un mwya' oedd Mont Ventoux, ac roedd hynny rhyw 2,200km i fewn i'r ras, felly erbyn hynny, doedd gen i'm llawer o egni ar ôl! Ond mi es i fyny yn y diwedd!"
"Ges i’r pedair awr cynta' yn cysgu o dan goeden!"
Rhydian Morris yn trafod ei lwyddiant ar y beic ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru
Roedd rhaid cymryd saib o bedair awr bob rhyw 36 awr o feicio, eglurodd ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, ond fo oedd yn dewis pryd a lle roedd am orffwyso.
Penderfynodd ei fod am wthio ei hun i gwblhau'r ras mewn cyn lleied o amser â phosib, felly roedd y pellteroedd roedd yn eu teithio bob dydd yn enfawr, a'i gwsg yn brin iawn.
"O'dd o'n flinedig, bendant!
"'Nes i ryw 580km y diwrnod cynta', 700km yr ail ddiwrnod, 400km y trydydd, 300km y pedwerydd, a 520km y pumed.
"Ges i'r pedair awr cynta' yn cysgu o dan goeden! Ond ar ôl tua'r trydydd diwrnod, chi'n dechrau arfer efo ddim llawer o gwsg, a rili mae o i gyd yn y pen, 'swn i'n ddeud.
"Mae pawb 'di blino erbyn hynny, so jest seiclo'n ara' deg a chario 'mlaen gymaint â gallech chi."

Mae Rhydian bellach yn byw yn yr Alpau; yn hyfforddi sgïo yn ystod y gaeaf, ac yn canolbwyntio ar ei seiclo yn ystod yr haf, sy'n gamp poblogaidd yn Ffrainc, wrth gwrs.
Roedd 250 o feicwyr wedi cymryd rhan yn y ras yma eleni, a nifer eraill wedi gwneud rasys pellteroedd byrrach.
Felly beth yw'r apêl i wneud y fath her?
"Dwi'm yn gwybod. Nes i drio flwyddyn diwetha', a stopio ar ôl rhyw 1,400km – roedd fy mhenglin i 'di sort of explodio. Felly roedd o'n teimlo fel rhyw fath o unfinished business.
"Dwi'n enjoio bod ar y beic, ac o'n i jest isho gweld faint dwi'n gallu ei 'neud rili.

Mae Rhydian yn gweld golygfeydd anhygoel o gefn ei feic yn ddyddiol
"Ar y funud, dwi'n canolbwyntio ar fy seiclo, mae gen i gwpl o ddigwyddiadau eraill yn dod i fyny dros yr haf; mae'n fywyd reit neis!
"Lle dwi'n byw, mae'r Tour de France yn dod drwodd bob rhyw flwyddyn neu ddwy, felly mae'n gamp poblogaidd yn fan hyn. Mae'r ffyrdd yn neis, mae 'na lot o Cols jest i'r beics, so mae'n braf gallu seiclo fan hyn bob diwrnod – ac mae'r tywydd wastad yn dda fama."
Dim ond gobeithio y gawn ni dywydd yr un mor braf pan y bydd y Tour de France yn dechrau yn Y Trallwng – milltir sgwâr Rhydian – y flwyddyn nesa'!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd15 Ionawr

- Cyhoeddwyd29 Hydref 2023

- Cyhoeddwyd8 Ionawr
