'Mae lot o ddynion yn dioddef yn ddistaw' - y tîm pêl-droed sy'n cefnogi ei gilydd

Aelodau tîm pêl-droed yn ardal Bangor sy'n cael ei redeg gan y mudiad iechyd MenTribe
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r haul fachlud dros y Fenai, mae grŵp o ddynion yn mynd benben â'i gilydd tra'n chwarae pêl-droed.
Mae'r chwys yn diferu a'r taclo'n ffyrnig, ond tra bo cystadlu yn erbyn ei gilydd yw'r nod ar y cae, cefnogi ei gilydd yw'r amcan oddi arno.
"Helpu iechyd meddwl yw'r peth pwysicaf," medd Ellis Vaughan Roberts o Lanfairpwll - aelod hynaf y tîm yn 65 mlwydd oed.
"Mae'r hogia' yn cael awr allan o'u bywydau sy'n ddigon anodd. Ma' nhw'n cael mwynhad a phleser o siarad 'efo'i gilydd.
"Ma' lot o ddynion yn dioddef yn ddistaw bach."
'Does 'na ddim pressure'
Fe gafodd y tîm ei sefydlu gan MenTribe - menter sy'n trefnu cyfres o weithgareddau awyr agored a heriau corfforol er mwyn caniatáu i ddynion ddod ynghyd a siarad yn agored.
Mae gan amryw o'r dynion sydd yma broblemau iechyd amrywiol - o gamddefnydd sylweddau i iselder a gorbryder.
Problemau iechyd meddwl ar ôl gadael y fyddin ysgogodd Christy Pritchard, i sefydlu'r fenter.

Christy Pritchard wnaeth sefydlu MenTribe ar ôl gadael y fyddin
"O'n i yn y fyddin am saith mlynedd ac yn Afghanistan yn 2011 fel rhan o IED search team [tîm chwilio am ffrwydron].
"Ar ôl dod adre yn 2021, o'n i angen help ond doeddwn i ddim yn gwybod lle i fynd a phwy i siarad hefo.
"O'dd pawb yn deud wrtha'i: 'Ti'n siŵr ti'n ok?' ac ar y dechre roeddwn i'n dweud: 'Ie, ie' a trio bod yn macho. Ond roeddwn i'n yfed ac roedd gen i anxiety.
"O'n i'n eistedd adref a meddwl 'Dwi'n ddyn gwahanol nawr a dwi ddim yn licio pwy dwi 'di tyfu fewn iddo fo'. Ar ôl sylweddoli nad oedd 'na help rownd Bangor 'nes i sefydlu MenTribe er mwyn i ni allu cynnig help.
"Es i therapi ond doedd therapi ddim i fi... dwi ddim yn licio eistedd lawr a siarad am fy nheimladau.
"O'n i'n teimlo dan bwysau mewn therapi a dyna pam mae MenTribe yn llwyddiant oherwydd does 'na ddim pressure."

MenTribe - menter sy'n trefnu cyfres o weithgareddau awyr agored a heriau corfforol er mwyn caniatáu i ddynion ddod ynghyd a siarad yn agored
Mae arbenigwyr yn aml yn cyfeirio at ddiffyg cefnogaeth ac amharodrwydd rhai dynion i ofyn am gymorth fel rhai o'r rhesymau pam fod dynion, ar y cyfan, yn marw'n iau na menywod.
A'r rhybudd clir mewn adroddiad newydd gan elusen dynion Movember yw bod llawer gormod o ddynion yng Nghymru yn marw yn gynt nag y dylen nhw.
Mae'r adroddiad yn dangos fod mwy na un o bob tri dyn yng Nghymru yn marw yn gynnar, gyda bron i 7,000 o ddynion yn 2024 yn unig yn marw cyn cyrraedd 75 oed.
Mae'r gyfradd o fenywod sy'n marw cyn yr oedran hwn dipyn yn llai - 28%.
Beth sy'n lladd dynion?
O'r 6,793 o ddynion, yn 2024, a fu farw cyn eu pen-blwydd yn 75:
Clefyd y galon oedd y prif achos o farwolaeth cynamserol, gan achosi 1,011 o farwolaethau - wedyn damweiniau, canser yr ysgyfaint, clefydau'r ysgyfaint, a sirosis a chlefydau'r afu.
Bu 307 o ddynion o dan 75 farw trwy hunanladdiad gyda 77% o'r holl farwolaethau hunanladdiad yn 2024/25 yn ddynion.
Roedd 311 o farwolaethau cynamserol ymhlith dynion yn gysylltiedig â sirosis a chlefydau eraill yr afu, a 241 o farwolaethau oherwydd gwenwyno damweiniol.
Daearyddiaeth ac amddifadedd
Mae lle mae dyn yn byw hefyd yn cael dylanwad.
Mae'r gyfradd marwolaeth gynamserol ym Mlaenau Gwent tua 60% yn uwch nag ym Mhowys, tra gall dynion yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ddisgwyl byw 7.5 mlynedd yn llai na'r rhai mewn cymunedau llai difreintiedig.
Mae'r dadansoddiad hefyd yn awgrymu bod cost y pum prif achos o farwolaeth gynamserol dynion yn £1.4bn y flwyddyn.

Yr Athro Jonathan Scourfield - arbennigwr mewn gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
Yn ôl yr Athro Johnathan Scourfield o Brifysgol Caerdydd, mae wnelo sawl rheswm biolegol a chymdeithasol â pham fod dynion yn wynebu heriau penodol.
"Mae yna rai agweddau o wrywdod a disgwyliadau cymdeithas o ddynion a bechgyn sy'n cysylltu â iechyd gwael," meddai.
"Cymryd risgiau, er enghraifft, yn arbennig dynion ifanc - y syniad o 'fyw ar yr ymyl'. Maen nhw'n llawer mwy tebygol o gael eu hanafu neu neu yn marw mewn damweiniau.
"Hefyd y disgwyliad i fod yn gryf yn gorfforol. Mewn ffordd mae'n beth da i ymarfer corff ond mae'r syniadau o gael y siâp corff delfrydol yn gallu achosi pwysau seicolegol ar ddynion - yr un peth gyda menywod wrth gwrs.
"Ma' 'na hefyd ddisgwyliad [i fod] yn gryf yn feddyliol, o fod yn gallu sefyll ar eich ben eich hun heb ddibynnu ar bobl. Mae hyn yn gallu achosi problemau pan ma' dyn yn stryglo gyda bywyd bob dydd heb allu estyn mas i bobl.
"Mae rhai dynion wedyn yn anwybyddu pwysigrwydd cysylltiadau cymdeithasol. Falle maen nhw'n canolbwyntio ar gwaith. A wedyn, os yn weddw neu wedi ymddeol, maen nhw'n stryglo gyda unigrwydd a weithiau unigrwydd eithafol.
"Ac yn ola', deiet. Mae deiet yn bwysig, achos mae rhai bwydydd iach sy' ddim yn cael eu gweld fel rhywbeth gwrywaidd - ffrwythau a llysiau, er enghraifft. Ond mae rhywbeth fel yfed gormod yn cael ei ddisgwyl o ddynion, sy'n achosi problemau."
Mae'r Athro Scourfield hefyd yn dadlau, er gwaethaf tranc y diwydiannau mawr, fod yr hen ddelweddau o fod yn "ddyn caled" yn parhau i'r genhedlaeth iau drwy ddylanwadwyr ar gyfryngau cymdeithasol.
Cynllun Iechyd Dynion
Mae'r adroddiad yn galw am lunio cynllun iechyd i ddynion, i gydfynd â'r cynllun iechyd cenedlaethol i fenywod gafodd ei gyhoeddi yn Rhagfyr 2024.
O wneud hynny fe fyddai Cymru'n dilyn esiampl amryw o wledydd, gan gynnwys Iwerddon, Awstralia, Brasil a Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu fod strategaethau sydd eisioes yn bodoli i atal hunanladdiad, gwella iechyd meddwl a gofal canser yn rhoi sylw i'r heriau sy'n wynebu dynion yn benodol.
Dywedodd llefarydd: "Rydym eisoes yn mynd i'r afael â iechyd dynion trwy ganolbwyntio ar fesurau ataliol a mynediad cynnar, gan annog dynion i geisio cael cymorth ar gyfer materion iechyd corfforol ac iechyd meddwl cyn iddynt gyrraedd pwynt argyfwng, gan gynnwys cefnogaeth iechyd meddwl a gwella'r defnydd o sgrinio canser."

Mae'r cyn-bêl-droediwr rhyngwladol John Hartson yn cefnogi'r alwad am gynllun iechyd cenedlaethol i ddynion
Mae arwr pêl-droed Cymru John Hartson yn cefnogi'r alwad am ddatblygu cynllun iechyd dynion cenedlaethol, ar ôl wynebu mwy na'i siar o heriau iechyd.
Pan yn bêl-droediwr proffesiynol roedd yn gaeth i gamblo, ac yn gwario miloedd o bunnoedd bob wythnos.
"O'n i ddim mo'yn help am ugain mlynedd... o'n i'n addict, ti'mod? O'n i ddim mo'yn help.
"A ma' lot o bobl sydd yn addicts yn bobl anodd i ddelio gyda... ma' rhaid iddyn nhw mo'yn newid.
"Nawr, rwy'n 17 blwyddyn heb gael bet o gwbl."
Yn ddiweddarach, yng Ngorffennaf 2009, fe fu'n rhaid i John gael llawdriniaeth frys ar ei ymennydd ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod canser oedd ar ei geilliau wedi ymledu i'w ysgyfaint ac ymennyddd.
"O'n i'n eitha' ignorant achos pryd o'n i'n cael lwmp fach ar un o testicles fi oedd e wedi spread-io mewn i tiwmor.
"A o'n i ddim wedi dweud unrhyw beth wrth neb. O'n i'n gwybod subconsciously falle bydd rywbeth lawr yna... oedd e wedi spread-io i'r lungs a mewn i'r ymennydd ac o'n i mewn trwbl wedyn ar un stage.
"O'n i ddim wedi siarad i unrhyw un, a mae mor bwysig. Os 'dan ni'n gallu cael pobl i siarad mwy drwy bethau fel men's groups ma' hwnna'n bwysig hefyd."
Yn ogystal collodd John ei frawd i hunanladdiad ac o ganlyniad mae'n galw am waith i ddeall pam fod y cyfraddau mor uchel mewn dynion.
"Fi'n nabod pobl sy'n cymryd bywyd nhw ac o'n i'n siarad gyda nhw y dydd cynt a oedd popeth yn teimlo yn fine. Sut 'dach chi'n gwybod beth mae pobl yn mynd i wneud? Ond mae'n rhaid taclo fe.
Mae Sefydliad John Hartson wedi codi £1.75m i nifer o fentrau sy'n gwella iechyd, yn cynnwys rhai sy'n rhoi cefnogaeth i ddynion.
Mae'n credu'n gryf y dylai'r llywodraeth gefnogi cynllun iechyd penodol i ddynion i gydfynd â'r cynllun i fenywod sydd eisioes yn bodoli.
"Wrth gwrs mae'n syniad da, achos beth yw'r gwahaniaeth rhwng menywod neu dynion?
"Felly ni cael rhywun o'r government i ddod gyda ni... a helpu ni allan, achos mae eisie fe."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.