Gwasanaeth bws newydd i gysylltu gogledd a de Cymru

Bws Traws CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
GanMari Grug
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae teithio rhwng gogledd a de Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus yn gallu bod yn daith hir – ac i rai, mae mynd drwy Loegr yn gyflymach.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd gwasanaeth newydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin yn cynnig dewis cyflymach pan fydd yn dechrau rhedeg yn yr hydref.

Yn ôl y llywodraeth, bydd y gwasanaeth yn torri dros awr oddi ar amseroedd teithio presennol.

Bydd y daith yn cymryd rhwng pedair awr a hanner a phum awr a ni fydd teithwyr dros 60 yn cael teithio am ddim.

Bydd bysiau yn rhedeg bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin, gan alw yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron.

Mae'r cynnig yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mwy integredig, gyda thocynnau symlach a chydlynu agosach rhwng gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd.

Dai Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dai Humphreys y byddai'n "dda cael bws hwyrach"

Yn Nolgellau, dywedodd teithwyr eu bod yn croesawu'r cynllun, ond bod rhai yn cwestiynu pa mor effeithiol fyddai'r gwasanaeth.

Dydy Dai Humphreys ddim yn dreifio, ac mae'n defnyddio llawer iawn ar y rhwydwaith fysiau lleol.

Meddai: "Mae'n cymryd hir i fynd trwy'r pentrefi bach a bob man, mae'n cymryd lot hirach na mynd mewn car, byse direct route yn rili handi.

"Dim ond stopio mewn llefydd mawr fel Aberystwyth, Abertawe, Caernarfon ac osgoi stopio yn y pentrefi bach.

"Hefyd, mae'r bysys yn gorffen yn rhy gynnar i bobl, byddai'n dda cael bws hwyrach."

Paul Hill
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Hill o'r farn bod "angen bysiau yn fwy aml a mwy o yrwyr i'w gefnogi"

Ag yntau'n teithio ar fws yn rheolaidd, dywedodd Paul Hill y byddai'n defnyddio'r llwybr newydd i ymweld â'i ferch, ond mae'n cwestiynu a fyddai eraill.

"Dydw i ddim yn meddwl y bydd yn gweithio oherwydd does dim digon o footfall, pobl i deithio ar y bysiau mewn gwirionedd, er mwyn iddo fod yn hyfyw.

"Mae angen iddo fod yn broffidiol.

"Ydy'r seilwaith yma i gefnogi hyn? Mae angen bysiau yn fwy aml a mwy o yrwyr i'w gefnogi. Oes digon o arian yno?"

Beryl Norgrove
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Beryl Norgrove y byddai cael llwybr newydd yn "syniad ardderchog"

Fe ddywedodd Beryl Norgrove fod cynyddu'r llwybrau bws yn gorfod bod yn beth da.

"Syniad ardderchog, dim pawb sydd yn gyrru ac mae mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus lot haws.

"Does dim trên fan'ma chwaith wedyn mae gwella'r rhwydwaith mewn llefydd fel hyn yn syniad da iawn.

"Mae gena i deulu yn byw yn y de felly mi fyddai'n ei ddefnyddio fo'n sicr. Mae'n gyfleus, dwi'n meddwl bod y gwasanaeth yn dda iawn."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper, fod y gwasanaeth yn rhan o ymrwymiad y llywodraeth i wella cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru.

"Fe wnaethon ni addo yn ein cynllun 100 diwrnod y bydden ni'n paratoi i lansio gwasanaeth coets newydd yn cysylltu gogledd a de Cymru, ac rwy'n falch o gadarnhau bod y cynlluniau ar y gweill i'w gyflwyno yn yr hydref," meddai.

Ychwanegodd fod llawer o gymunedau gwledig wedi bod heb drafnidiaeth gyhoeddus ddigonol ers blynyddoedd.

'Creu cysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy'

Bydd y gwasanaeth yn cysylltu â gwasanaethau trên ym Mangor, Porthmadog a Chaerfyrddin, gyda'r nod o wneud teithiau ymlaen yn haws.

Mae Trafnidiaeth Cymru'n datblygu'r gwasanaeth, a fydd yn rhan o'r hyn sy'n cael ei alw'n Rwydwaith T – cynllun Llywodraeth Cymru i uno gwasanaethau bysiau a threnau yn well.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr gweithredol Trafnidiaeth Cymru, Lee Robinson, fod y llwybr wedi'i gynllunio ar sail ymchwil i batrymau teithio.

"Drwy gysylltu trefi a chymunedau allweddol ar hyd arfordir y gorllewin, rydyn ni'n creu cysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy ar gyfer gwaith, addysg a hamdden," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud y gallai'r gwasanaeth wneud teithio i gyrchfannau fel Eryri, Pen Llŷn a Bae Ceredigion yn haws i ymwelwyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.