Pryder yn tyfu am glefyd y tafod glas wedi i achosion 'ffrwydro'

Defaid mewn caeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r feirws yn cael effaith ar ddefaid, gwartheg, anifeiliaid cnoi cil eraill fel ceirw a geifr, a chamelidau fel lamas ac alpacas.

GanGarry Owen
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae pryder yn cynyddu am beryglon clefyd y tafod glas, wrth i ffermwyr gael rhybudd i fod ar eu gwyliadwriaeth am symptomau yn eu hanifeiliaid, ac i siarad â'u milfeddyg am frechu.

Yn ôl swyddog polisi Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Elin Jenkins, mae nifer yr achosion wedi "ffrwydro" ym Mhrydain yn yr wythnosau diwethaf.

Mae'r sefyllfa ar ei waethaf yng Ngwlad yr Haf a gorllewin Lloegr, ond mae pryder mawr ar ochr yma'r ffin hefyd.

"Mae yna achosion hefyd yng Nghymru, yn y de ac mewn ardaloedd fel Ceredigion a gogledd Powys," meddai Ms Jenkins.

"Mae hyn yn gonsyrn mawr i ni."

Elin Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hwn yn rhywbeth i gymryd o ddifri'," meddai Elin Jenkins o'r FUW

Yn ystod tymor 2026/27 mae nifer yr achosion ym Mhrydain wedi codi i 517, gyda 15 achos yng Nghymru, 496 yn Lloegr a chwech yn Yr Alban.

Does dim achosion wedi eu cofnodi yng Ngogledd Iwerddon.

Wrth i nifer yr achosion godi, mae'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn trefnu cyfres o gyfarfodydd i godi ymwybyddiaeth am y tafod glas.

Bydd un o'r rheiny yn cael ei gynnal ym mart Caerfyrddin ddydd Mercher nesaf.

Dywed Dr Mandy Nevel, pennaeth lles ac iechyd anifeiliaid AHDB eu bod yn "disgwyl i'r achosion gyrraedd penllanw ym mis Medi".

Wrth i'r galw am y brechlyn i'r clefyd gynyddu, mae'n cydnabod fod cyflenwadau "dan bwysau".

Beth yw tafod glas?

Mae feirws y tafod glas (BTV) yn glefyd heintus, sy'n cael ei ledaenu yn bennaf trwy wybed mân brathog.

Mae'n cael effaith ar ddefaid, gwartheg, anifeiliaid cnoi cil eraill fel ceirw a geifr, a chamelidau fel lamas ac alpacas.

Nid yw'n gallu cael ei drosglwyddo rhwng pobl, a does dim risg i iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd.

Gall effeithio ar iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid, ac mewn achosion difrifol mae'n gallu achosi erthyliadau a hyd yn oed marwolaeth mewn anifeiliaid sydd wedi'u heintio.

Mae lliw glas ar dafod anifail yn un o'r symptomau, a hynny oherwydd lefelau isel o ocsigen yn y gwaed.

Buwch yng Ngwlad Belg â'r tafod lasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffermwyr wedi cael rhybudd i fod ar eu gwyliadwriaeth am symptomau yn eu hanifeiliaid

Mae Prys Morgan, cyfarwyddwr cig oen a biff AHDB yn "cydnabod fod hwn yn amser pryderus i fusnesau fferm".

Ychwanegodd y "dylai ffermwyr frechu eu hanifeiliaid ar fyrder yn hytrach nag aros am arwyddion clinigol", gan mai dyma'r amddiffyniad gorau yn erbyn y clefyd.

Mae yna ymdrech fawr yn y diwydiant amaeth i godi ymwybyddiaeth o'r tafod glas.

Dywed Elin Jenkins o'r FUW: "Gydag yr achosion yn codi, mae'n glir iawn ei fod wedi cyrraedd.

"Ma' fe yn achosi salwch yn anifeiliaid, marwolaethau ac erthyliadau. Mae hwn yn rhywbeth i gymryd o ddifri'."

Er bod rhai ffermwyr yn dweud fod brechu yn gostus, mae undebau'n dweud eu bod yn lobïo'r llywodraeth i helpu.

"Ry'n ni yn holi am hyn," meddai Ms Jenkins.

"Ry'n ni hefyd yn holi i 'neud yn siŵr fod digon o gyflenwad o'r brechlyn ar gael."

'Galw am frechlynnau yn uchel iawn'

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine: "Brechu yw'r unig fesur rheoli hirdymor hyfyw ar gyfer y tafod glas.

"Mae'r galw am frechlynnau yn uchel iawn ar hyn o bryd.

"Rydym yn parhau i annog pob ceidwad anifeiliaid sy'n agored i niwed i drafod brechu gyda'u milfeddyg preifat.

"Cynghorir ffermwyr a milfeddygon i archebu brechlynnau nawr er mwyn sicrhau mynediad at gyflenwadau sydd ar gael yn fasnachol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig