Cais cynllunio dadleuol i godi tai yn Aberystwyth wedi'i dynnu'n ôl

Erw Goch
Disgrifiad o’r llun,

Mae porth cynllunio Cyngor Ceredigion yn dangos bod y cais wedi'i dynnu'n ôl ar 1 Mehefin

GanSara Down-Roberts
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yn Aberystwyth, mae cais cynllunio dadleuol ar gyfer datblygiad tai newydd ar dir sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl leol wedi'i dynnu'n ôl.

Roedd Cyngor Ceredigion a Chymdeithas Tai Wales and West wedi gwneud cais i adeiladu mwy na 70 o dai newydd ar gae Erw Goch - cae yn Waunfawr uwchlaw pentref Llanbadarn Fawr.

Pan gafodd y cynlluniau eu cyflwyno'n wreiddiol yn 2021 fe drefnodd pobl a oedd yn byw gerllaw ymgyrch i'w gwrthwynebu, gan ddweud bod y cae yn cael ei ddefnyddio gan bobl leol ar gyfer ymarfer corff a hamdden.

Mewn ymgais i atal y datblygiad tai fe wnaeth y gwrthwynebwyr gais i gael y cae wedi'i ddynodi'n faes pentref (village green) ond cafodd y cais ei wrthod gan Gyngor Ceredigion.

Yn sgil hynny fe anfonodd ymgyrchwyr lythyr at y cyngor yn amlinellu meysydd lle gellir herio'r penderfyniad mewn adolygiad barnwrol.

Bellach mae Cyngor Ceredigion wedi cadarnhau bod y cais cynllunio wedi'i dynnu'n ôl.

Mae porth cynllunio Cyngor Ceredigion yn dangos bod y cais wedi'i dynnu'n ôl ar 1 Mehefin.

Elin Mabbutt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Mabbutt yn byw gerllaw y cae - "ardal werdd sy'n hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol pobl leol", meddai

Mae Elin Mabbutt wedi byw ger Erw Goch ers 12 mlynedd, ac mae'n aelod o'r grŵp ymgyrchu.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd bod y cae wedi bod yn bwysig i'w theulu ers iddyn nhw symud i fyw gerllaw ac felly mae hi'n croesawu'n fawr bod y cais wedi'i dynnu'n ôl ond mae'n rhybuddio bod rhaid bod yn ofalus.

"Rydym wrth ein bodd fod y cais cynllunio wedi ei dynnu'n ôl a bod modd i'r gymuned leol barhau i ddefnyddio a mwynhau cae Erw Goch - ardal werdd sy'n hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol pobl leol.

"Ond mae'n drueni fod Cyngor Sir Ceredigion wedi gwastraffu cymaint o arian trethdalwyr yn brwydro yn erbyn dymuniadau'r gymuned."

Ychwanegodd na ddylid bod yn rhy optimistaidd a bod "pryderon y bydd cais newydd yn cael ei gyflwyno yn y pen draw".

"Ond os daw cais newydd, fe fyddwn unwaith eto, fel cymuned, yn parhau i ymladd er mwyn sicrhau fod yr ardal werdd hon, sydd wedi bod yn lle hamdden i drigolion lleol ers degawdau, yn cael ei hamddiffyn ar gyfer y dyfodol."

ymgyrch
Disgrifiad o’r llun,

Dywed ymgyrchwyr os bydd cais arall y byddan nhw'n ymgyrchu eto

Doedd Cyngor Sir Ceredigion ddim am ymateb i'r sylwadau uchod a doedd Tai Wales and West ddim am wneud unrhyw sylw ar y mater.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig