Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:36 GMT+1 7 Gorffennaf
Dyna ni o sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw.
Diolch am ddilyn - mae gweddill straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw.
Arweinwyr y gwrthbleidiau ac aelodau'r meinciau cefn yn holi Rhun ap Iorwerth yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ymhlith y prynciau sy'n cael eu trafod mae cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant, arian i gynghorau a sefydlu asiantaeth ddatblygu newydd yng Nghymru
Sylw hefyd i fyw o arian ar gyfer ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, gwaharddiad ar ffonau symudol mewn ysgolion a'r GIG yn Lloegr yn codi'r ffioedd ar gyrff GIG Cymru
Dyna ni o sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw.
Diolch am ddilyn - mae gweddill straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw.
Pryd fydd nyrsys a graddedigion bydwreigiaeth yn cael swyddi, gofynna Paul Rock o'r Gwyrddion.
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth gyfarfod ag "etholaethwr mewn gofid mawr" a ddilynodd gwrs nyrsio, ac oedd ar "ddeall" bod angen mwy o nyrsys ar y GIG.
"12 diwrnod yn ôl, dywedwyd wrthi nad oedd swydd iddi," meddai, gan ddweud bod yn rhaid i'r etholwr gymryd benthyciad o ganlyniad.
"Erbyn pa ddyddiad ddylwn i ddweud wrth fy etholwr y bydd hi'n derbyn y cynnig gwaith?"
Dywedodd ap Iorwerth ei fod yn poeni'n "fawr" am y mater, ond dywed nad oes "ateb cyflym", a dywed ei fod yn "broblem" a "etifeddwyd".
Mae pryderon yn cael eu codi ynghylch gostyngiad mewn gwelyau GIG ym Mhowys gan James Evans o Reform a Jane Dodds o’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywed Evans "rydym yn clywed trafodaethau posibl am gau ysbytai a gostyngiad mewn capasiti gwelyau".
Mewn ymateb i Evans, dywedodd ap Iorwerth: "Mae angen i ni ddod o hyd i ffordd i sicrhau nad oes unrhyw ran o Gymru yn teimlo ei bod yn colli allan".
Mae AS Plaid Cymru yn honni bod y GIG yn Lloegr yn codi'r ffioedd ar gyrff GIG Cymru am ddefnyddio ei wasanaethau - gan arwain at broblemau ym Mhowys.
Nid oes gan yr ardal ei hysbyty cyffredinol ei hun ac mae'n dibynnu llawer ar wasanaethau dros y ffin.
Honnodd Elwyn Vaughan ei fod yn "codi ffioedd uwch a ffioedd sy'n uwch na chwyddiant", ac mae'n galw am arian gan Lywodraeth y DU i adlewyrchu effaith hyn.
Dywed Rhun ap Iorwerth "na ddylid gohirio unrhyw driniaeth oherwydd ansicrwydd neu amwysedd o ran pa gorff sy'n gyfrifol am ariannu gofal iechyd".
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesHonnodd Elwyn Vaughan ei fod yn "codi ffioedd uwch a ffioedd sy'n uwch na chwyddiant", ac mae'n galw am arian gan Lywodraeth y DU i adlewyrchu effaith hyn
Mae Cai Parry-Jones, AS Caerdydd Ffynnon Taf dros Reform, yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu asiantaeth ddatblygu yng Nghymru.
Dywed Rhun ap Iorwerth: "Rydym wedi cyhoeddi ein targedau i haneru bwlch cynhyrchiant Cymru gyda gweddill y DU yn y deng mlynedd nesaf. Bu galwadau eang am asiantaeth ddatblygu newydd i helpu Cymru i ymdopi â'r her honno. Bydd gweinidog y cabinet [Adam Price] yn gwneud datganiad am y camau nesaf yn ddiweddarach y prynhawn yma".
Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo yn ei maniffesto i, dolen allanol sefydlu “Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd i Gymru, sy’n cael ei harwain gan fusnesau a’i rhedeg hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru”.
Dywed Cai Parry-Jones ei fod yn pryderu y bydd "gennym ni nifer o gwangos yn dyblygu ymdrechion yn aneffeithlon".
Dywed arweinydd Senedd y Torïaid, Darren Millar, na fyddai'n costio "ceiniog" i'r prif weinidog i gyflwyno gwaharddiad ar ffonau symudol mewn ysgolion.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau statudol i wahardd ffonau symudol mewn ysgolion, meddai.
Mae'r rhan fwyaf o'r gweithlu eisiau gwaharddiad statudol, dadleua - "pam ydych chi'n llusgo'ch traed," gofynna Millar.
Dywed Rhun ap Iorwerth fod y gweinidog addysg wedi bod eisiau cyflwyno canllawiau statudol "i gyflawni'r nod" y mae Millar yn dweud ei fod "eisiau ei gyflawni".
"Mae angen i chi fwrw ymlaen ag e," ateba Millar mewn ymateb.
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Elliw Gwawr
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Mae Llafur unwaith eto yn pwyso am fwy o arian ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r cyn weinidog addysg Lynne Neagle a nawr yr arweinydd dros dro Ken Skates wedi codi'r mater yn y Siambr heddiw.
Mae'r Prif weinidog yn dadlau eu bod nhw'n cymryd golwg mwy hir dymor ar ariannu ADY, ac nad arian yn unig yw'r ateb.
Ond mae'n edrych yn debygol iawn y bydd rhaid iddyn nhw ganfod rhywfaint o arian ar gyfer y flwyddyn ariannol hon os ydyn nhw am sicrhau cefnogaeth Llafur i'w cyllideb atodol. Mae yna drafodaethau yn cael eu cynnal gyda Llafur ar hyn o bryd.
Ond gyda phleidlais ar gynlluniau gwariant Plaid Cymru ymhen wythnos, does dim awgrym o gytundeb eto.
Ffynhonnell y llun, Senedd cymruKen Skates
Yn y trydydd cwestiwn gan Dan Thomas, mae'n dweud ein bod ni hanner ffordd drwy 100 diwrnod cyntaf Plaid Cymru a'r "cyfan a welwn ni yw adolygiadau, grwpiau arbenigol, archwiliadau, cynlluniau ar gyfer cynlluniau, datblygiadau strategol yn hytrach na gweithredu go iawn".
Mae'n dweud bod y gyllideb atodol mewn "perygl gwirioneddol o gael ei phleidleisio i lawr".
Mae Thomas yn awgrymu nad yw'r llywodraeth wedi dechrau'n dda, ond mae'r prif weinidog yn dweud eu bod nhw wedi "cychwyn ar y gwaith ar unwaith".
Mae'n dweud eu bod nhw "newydd ddechrau fel llywodraeth".
"Mae'n llywodraeth sy'n cydnabod ein bod ni mewn lleiafrif," meddai'r prif weinidog - cyfeiriad tebygol arall at y ffaith bod angen cytundeb ar y blaid ar gyfer y gyllideb atodol dydd Mawrth nesaf.
Mae arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, yn gofyn a yw Rhun ap Iorwerth wedi siarad ag Andy Burnham, cyn neu ar ôl ei sylwadau ef ar ddatganoli.
Mae'r prif weinidog yn tynnu sylw at y ffaith nad Burnham yw prif weinidog y DU. Dywed nad arweiniodd ei sgwrs gyntaf gyda Keir Starmer at gyfarfod oherwydd "anhrefn yn San Steffan".
Mae Thomas yn cymryd hynny fel nad oedd cyfarfod wedi'i drefnu gan ap Iorwerth, ac yn mynd ymlaen i ddweud nad yw Llywodraeth y DU yn cymryd Llywodraeth Cymru o ddifrif. Ni fydd "mynnu arian yn unig" yn agor drysau, dadleua.
Mae ap Iorwerth yn dweud nad ei fai ef yw bod "llanast yn San Steffan" ac yn dweud y gallai hynny weld arweinydd Thomas yn camu i lawr am 14:00. (Nid ydym yn gwybod eto beth mae Nigel Farage yn bwriadu ei ddweud)
Dywed Tom Montgomery, o Reform, ei fod yn "pryderu yn fawr" am lefelau'r benthyca gan gynghorau, a chostau ariannu'r ddyled.
Dywed y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth fod benthyca yn offeryn pwysig i lywodraeth leol - ac mae'n dweud bod gan gynghorau fwy o bwerau na Llywodraeth Cymru.
Dywed hefyd ei fod yn ymddiried mewn cynghorau i wneud penderfyniadau benthyca doeth drostynt eu hunain.
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesMae Tom Montgomery, AS Clwyd dros Reform, yn gofyn "pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cynghorau lleol yn cael eu hariannu'n ddigonol?"
Dywed Rhun ap Iorwerth, yn wyneb y "pwysau ariannol sy'n wynebu llywodraeth leol, rwy'n falch ein bod wedi sicrhau £112.8 miliwn ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol yng nghyllideb 2026/27.
"Roedd hynny'n golygu bod pob awdurdod wedi derbyn cynnydd o leiaf 4%. Byddwn yn ystyried cyllid yn ystod y flwyddyn ac ar gyfer 2027/28 fel rhan o gynllunio cyllideb arferol."
Mae tua chwarter cyllideb Llywodraeth Cymru, dolen allanol ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd yn cael ei ddyrannu i lywodraeth leol – dim ond iechyd sy’n derbyn mwy.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif bod grantiau Llywodraeth Cymru (gan gynnwys y Grant Cymorth Refeniw) yn cyfrif am oddeutu, dolen allanol 70% o gyfanswm refeniw y cyngor.
Mae’r gweddill yn cynnwys trethi annomestig wedi’u hailddosbarthu (ardrethi annomestig, a elwir hefyd yn drethi busnes), y dreth gyngor, ac incwm arall, fel ffioedd parcio.

Cynghorau sy'n gyfrifol am bethau fel ariannu ysgolion, gwasanaethau gofal, casglu sbwriel a rhai gwasanaethau trafnidiaeth fel bysus
Daw'r cwestiwn cyntaf gan Carrie Harper, AS Fflint Wrecsam dros Blaid Cymru.
Mae'n gofyn "pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi ar gyfer cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant?"
Dywed Rhun ap Iorwerth: "Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a thîm Cais Wrecsam. Rydym yn cydnabod y manteision economaidd, diwylliannol a chymdeithasol y gall statws Dinas Diwylliant eu dwyn. Ac ar ben y £60,000 a ddyrannwyd yn 2026/27 tuag at gefnogi datblygiad y cais, rydym yn mabwysiadu dull trawslywodraethol i gefnogi'r cais cyn i Wrecsam gyflwyno ei gais llawn erbyn y 10fed o Awst."
Mae Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr hir i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029.
Ar y rhestr hir mae naw lleoliad, ac mi fydd pob un yn derbyn £60,000 i ddatblygu cais llawn.
Yr wyth lleoliad arall sydd wedi cyrraedd y rhestr ydy Blackpool, Inverness-Highland, Ipswich, Middlesbrough, Milton Keynes, Portsmouth, Sheffield a Swindon.
Bradford oedd enillydd y teitl llynedd.
Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/ Eisteddfod Genedlaethol CymruDaeth Wrecsam yn ddinas swyddogol ar 1 Medi 2022, a dyma'r unig ddinas yng Nghymru sy'n ymgeisio am y teitl yn 2029
Mae sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn dechrau am 13:30.
Mae modd gwylio'r cyfan trwy glicio ar yr eicon "Gwylio'n fyw" ar frig y llif byw.
Croeso i Gwestiynau i'r Prif Weinidog - cyfle wythnosol yn y Senedd i'r gwrthbleidiau ac ASau meinciau cefn i holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Mae'r rhan fwyaf o gwestiynau yn cael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot.
Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.
Ar ôl cwpl o gwestiynau sydd wedi'u cyflwyno ymlaen llaw, byddwn yn clywed gan Dan Thomas o Reform, Ken Skates o'r blaid Lafur a Darren Millar o'r Ceidwadwyr.
Ffynhonnell y llun, Getty Images