Rhestr aros ganolog ar gyfer deintyddiaeth y GIGwedi ei gyhoeddi 14:27 GMT+1 23 Ebrill 2024
Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am "restr aros ganolog ar gyfer deintyddiaeth y GIG, sy'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth yw'r galw, eich bod chi'n gwybod beth yw'r angen ac felly rydych chi'n gallu ymateb".
Mae Mr Gething yn ateb "dyna lle mae Llywodraeth Cymru eisiau cyrraedd".
Ychwanegodd, "mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn siarad â mi yn rheolaidd am yr angen i sicrhau bod gennym fwy o fuddsoddiad yn ein systemau digidol a data o fewn y GIG fel eu bod yn addas i'r diben.
"Gallant helpu'r ddau berson, yr ymarferwyr ond hefyd y person unigol, i gymryd rhan yn eu triniaeth a’u gofal eu hunain ac i ddeall lle mae’r cyfleoedd hynny’n bodoli i wneud yn well”.

Jane Dodds


