Gwobr Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru: Geraint Thomas

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae chwe enw ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.

Y pêl-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker, y para-athletwr Aled Siôn Davies, y chwaraewr rygbi Jonathan Davies, yr ymladdwr Judo Natalie Powell a'r seiclwr Geraint Thomas sydd ar y rhestr fer.

Presentational grey line

Coronodd y seiclwr Geraint Thomas y flwyddyn 2017 drwy fod y Cymro cyntaf erioed i arwain y Tour de France a gwisgo'r crys melyn enwog.

Dechreuodd y gŵr 31 oed y flwyddyn drwy fod y Prydeiniwr cyntaf erioed i ennill Taith yr Alpau, cyn arwain Team Sky yn y Giro d'Italia - un o'r tair Grand Tour ynghyd â'r Tour de France a'r Vuelta a Espana.

Mis Gorffennaf oedd mis y Tour de France, ac roedd Thomas eto yn rhan o Team Sky o dan arweinydd y tîm, Chris Froome.

Enillodd Thomas y ras yn erbyn y cloc yn Dusseldorf ar y diwrnod agoriadol gan arwain y ras, a daliodd ei afael ar y crys melyn am dri chymal arall cyn i Froome gamu i'r blaen.

Roedd y Cymro yn dal yn ail cadarn, ac roedd llawer yn meddwl y gallai cryfder cynnar Thomas arwain at le ar y podiwm ar y llinell derfyn ym Mharis.

Ond wrth seiclo lawr allt ar y nawfed cymal, torrodd Thomas bont ei ysgwydd ar ôl cael ei daro oddi ar ei feic gan Rafal Majka o Wlad Pwyl.

Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas yw'r Cymro cyntaf i wisgo crys melyn y Tour de France

Aeth Thomas i Ysgol Uwchradd Eglwys Newydd, oedd hefyd yn hen ysgol i gapten Y Llewod, Sam Warburton ac un arall sy'n cael ei enwebu ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru 2017, y pêl-droediwr Gareth Bale.

Daeth talent Thomas i sylw'r cyhoedd pan enillodd Bencampwriaeth Ieuenctid y Byd a Paris-Roubaix yn 2004, ac fe wnaeth y llwyddiannau hynny arwain at ennill Gwobr Ieuenctid Carwyn James yng ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2004.

Fe wnaeth Thomas gystadlu yn y Tour de France am y tro cyntaf yn 2007 - pan oedd y seiclwr ieuengaf ar y Tour a'r Cymro cyntaf i gymryd rhan ers 40 mlynedd - ac ar y trac bu'n fuddugol ym Mhencampwriaethau'r Byd ym Mallorca, Sbaen, fel rhan o garfan ymlid tîm Prydain.

Blwyddyn yn ddiweddarach fe roddodd rasio ffordd i'r neilltu er mwyn helpu pedwarawd ymlid tîm Prydain ennill dau aur ar y trac ym Mhencampwriaethau'r Byd 2008 a Gemau Olympaidd Beijing.

Derbyniodd Thomas MBE yn 2009 ar restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ac enillodd deitl Ras Ffordd Genedlaethol Prydain yn 2010.

Presentational grey line
Presentational grey line

Ym mis Mai 2011 dathlodd ei fuddugoliaeth broffesiynol gyntaf ar y ffordd yn y Tour of Bavaria a gwisgodd y crys gwyn fel y seiclwr ifanc gorau am saith cymal yn y Tour de France y flwyddyn honno.

Yn 2012 enillodd Prydain aur arall ym Mhencampwriaethau'r Byd a'r Gemau Olympaidd am ymlid tîm, ond yn dilyn hynny rhoddodd Thomas fwy o bwyslais ar rasio ffordd.

Yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 enillodd Thomas fedal efydd yn y ras yn erbyn y cloc ac aur yn y ras ffordd - llwyddiannau arweiniodd at ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn 2014.

Y flwyddyn ganlynol enillodd Thomas ei deitl Volta ao Algarve cyntaf ac yna ef oedd y seiclwr cyntaf o Brydain i ennill ras Harelbeke E3 yng Ngwlad Belg, cyn helpu Froome i ennill y Tour de France.

Daliodd Thomas ei afael ar deitl Volta ao Algarve yn 2016, a dilynodd hynny drwy ennill ras Paris-Nice a helpu Froome i sicrhau ei drydydd teitl Tour de France.

Yng Ngemau Olympaidd Rio cafodd ddamwain yn y ras ffordd wrth geisio cipio medal, gan orffen yn 11eg, a daeth yn nawfed yn y ras yn erbyn y cloc.

Presentational grey line

Bydd y bleidlais ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn agor am 08:00 fore Llun, 27 Tachwedd, ac yn cau am 18:00 nos Sadwrn, 2 Rhagfyr.

Fe fydd y manylion pleidleisio llawn ar wefannau Chwaraeon BBC Cymru a Cymru Fyw wedi i'r bleidlais agor.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, 4 Rhagfyr.

Gwobr ar gyfer Cymru'n unig yw hon, a does dim cysylltiad rhyngddi a Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y DU.

Straeon perthnasol