"Mae llawer o fy ngwaith yn cael ei ddylanwadu gan dirwedd hardd Gorllewin Cymru.

"Seiliwyd fy sylwadau ar agweddau o'r hyn sydd o'm cwmpas ar y pryd, yn amrywio o strwythurau map a dynnwyd o'r Map Ordnans lleol i fanylion lleiaf arwynebau paent ag ôl y tywydd arnynt sydd i'w gweld ar waelod cychod. "Fy nod yw dehongli dau fath o dirwedd. Un sy'n deillio o ffynhonnell gychwynnol natur ei hun a'r ffurf llai amlwg o'i effaith ar waith dyn, tra bod y llall yn cael ei dynnu'n uniongyrchol o fapiau.
"Mae'r dehongliadau hyn ar ffurf darnau tecstil wedi eu hargraffu a'u pwytho lle mae'r portread o dir natur yn y tu blaen a'r cyfeiriadau at fapiau a thir dyn o'r golwg yn bennaf, ond yn sgubo'n gynnil drwy'r gwaith ac yn tra-arglwyddiaethu arno.
"Prif syniad fy ngwaith, yn syml, yw'r cydbwysedd rhwng dyn a natur a sut y mae olion ein degawdau o anwybodaeth yn dechrau dod i'r wyneb, gan beri i ni gymryd golwg fanylach ar sut yr ydym yn trin ein planed."