"Mae ffurf fy ngwaith yn rowlio ar draws cyfryngau a deunyddiau gwahanol yn cynnwys argraffu, paent, collage a chyfryngau digidol.

"Yr hyn sy'n dwyn y gwaith ynghyd yw'r ymdrech i greu cydbwysedd greddfol rhwng yr organig a'r mecanyddol; y trefol a'r gwledig; trefn ac anhrefn. "Weithiau bydd y canlyniad terfynol yn teimlo fel tapestri wedi ei weu'n drwchus - patrymau syml dros wead cymhleth neu, efallai wedi'r cyfan, dim ond ychydig o bwythau wedi eu gollwng.
"Nid yw fy narnau gwaith yn teimlo fel lluniau o neu symbolau o rywbeth. Mae eu gwreiddiau'n fwy rhydd, yn fwy aneglur.
Maent yn cynnwys unrhyw un o filoedd o ddechreuadau a diweddebau, a wnaed pan na fo unrhyw ddatganiad llafar yn hawdd neu'n angenrheidiol.
"Ond o dan yr holl ddarlleniadau ar yr wyneb, gallwch ddod o hyd i naratif."