Mae'r gwaith yn archwilio'r tir sy'n llythrennol ar ffin tirlun a'i draddodiadau. Drwy dynnu lluniau o'r tirwedd ar ymyl y ffordd rwy'n portreadu tirwedd sy'n haws ei gyrraedd.

Swyddogaeth y delweddau hyn yw i fwrw o'r neilltu yr angen i gyrraedd golygfa hardd neu dirlun teilwng', i ddangos i'r gwyliwr y gall harddwch y tir gael ei weld yn y mannau mwyaf annisgwyl ac nid yn y mannau hynny a 'gofnodwyd' yn olygfeydd yn unig.Wedi tynnu eu lluniau o ddiogelwch y car, maent yn dwyn i gof yr emosiynau sy'n perthyn i deithiwr goddefol sy'n synfyfyrio. Maent yn dal yr eiliadau hynny pan fo'r cyffredin yn troi'n hardd yn y tirwedd gwibiol, rhywbeth sy'n fwy ingol nag erioed yn ein cymdeithas wastraffus ni heddiw.
Maent yn anfarwoli'r eiliadau hynny sydd yn mynd heibio ni heb i ni sylwi arnynt gan amlaf. Mae'r printiau digidol naturiol, a gymerwyd o bytiau o fideo eglurder isel, yn datgelu mecanwaith y camera, yn edrych ar wyneb y ddelwedd yn ogystal â'r testun tra'n datgelu ei driciau.