Gall y dyfyniadau hyn helpu rhywun i ddeall gwaith Audrey Searle.

'Anhrefn yn gorffwys am dro yw gwareiddiad,''Dyfeisiodd dyn bethau drwy osod siap ar natur. 'Darganfyddodd dyn bethau drwy ddatgelu patrwm natur'
(Dyfyniad o The Art of Looking Sideways gan Alan Fletcher).
Mae gwrthrychau go iawn ac elfennau naturiol yn cael eu trin yn ddeheuig.
Maent yn cael eu trefnu a'u hailadrodd mewn dulliau gofalus gan gynnig profiad esthetig i'r gwyliwr tra'n ei wahodd i archwilio ymhellach y pethau cynnil nad ydynt yn amlwg ar yr olwg gyntaf yn symlrwydd y ffurfiau.
Mae llosgi'n pwysleisio ffurf yn hytrach na deunydd. Mae'r weithred o losgi'n trawsnewid y deunydd o gyflwr disymud i un mwynol, o goed i garbon.