Cau'r Siop
Fe fydd y siop fach hon yn cau ei drysau yn ystod y dyddiau nesaf. Na phoener - fe fydd y cyfan o'r cynnwys yn cael ei gadw fel archif ac fe fydd archfarchnad swanc newydd yn agor ar yr un safle cyn bo hir.
Oce- rwy'n gor-ddweud. Ni'n ail-addurno'r blog ac ni fydd modd gadael sylwadau am ychydig ddyddiau.
Hyhi
Mae'n ymddangos bod pob copa walltog yn y byd gwleidyddol wedi cael cyfle i ddweud ei ddweud ynghylch y Farwnes Thatcher yn ystod y pedair awr ar hugain diwethaf. Oes yna unrhyw beth ar ôl i ddweud, dywedwch?
Gormod o bwdin dagiff gi ac efallai eich bod wedi cael hen ddigon erbyn hyn ond rwyf am fentro i'r fei unwaith yn rhagor.
Oscar Wilde piau'r geiriau "all men kill the things they love" a'r cwestiwn sy gen i yw hwn - a wnaeth Margaret Thatcher, yn ddiarwybod iddi ei hun, blannu hadau dinistr y wladwriaeth yr oedd hi'n eu llywodraethu drosti ac oedd yn destun ei  gwladgarwch amlwg?
Yr wythnos hon cyhoeddodd Wikileaks lwyth o ohebiaeth rhwng llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain a'r awdurdodau yn Washington. Yn eu plith mae adroddiad o 1976 sy'n dwyn y teitl "The Tories and Devolution" ac yn mynegi pryder ynghylch agwedd Margaret Thatcher, oedd yn arweinydd yr wrthblaid ar y pryd, tuag at ddatganoli grym i Gymru a'r Alban. Dyma mae'n ei ddweud.
"The present difficulty also confirms criticisms of Mrs Thatcher's leadership which were made at the time of her latest shadow cabinet reshuffle, that she was moving the party perceptibly to the right and narrowing the base of the party's appeal... The Tories now appear to be the voice of the English backlash on devolution, increasingly rigid in opposing devolution."
Mae'n anodd credu hyn nawr ond cyn ethol Margaret Thatcher yn arweinydd doedd y Torïaid ddim yn gwbwl penstiff yn erbyn datganoli. Yn wir pe na bai Margaret Thatcher wedi trechu Edward Heath mae'n ddigon posib y byddai Llafur a'r Ceidwadwyr wedi gallu cyrraedd consensws ynghylch datganoli yn y 70au ac y byddai Cynulliadau wedi cael eu sefydlu yn yr Alban a Chymru heb hyd yn oed gofyn i'r cyhoedd l leisio eu barn mewn refferendwm.
Pe bai hynny wedi digwydd ni fyddai cefnogi datganoli wedi troi'n gyfystyr bron a gwrthwynebu Thatcheriaeth yn ystod blynyddoedd ei theyrnasiad. Yn sicr roedd "diogelu Cymru rhag Thatcher arall" yn un o brif ddadleuon ymgyrchwyr dros ddatganoli yn refferendwm 1997.
Yn yr Alban roedd effaith arweinyddiaeth Margaret Thatcher hyd yn oed yn fwy dramatig. Yn Etholiad Cyffredinol 1955 fe enillodd y Blaid Geidwadol dros hanner y pleidleisiau a fwriwyd yn yr Alban. Erbyn hyn mae'n ymylu ar fod yn blaid ymylol - ac yn ystod cyfnod Margaret Thatcher y gwnaed y difrod.
O streic y glowyr i dreth y pen roedd hi fel pe bai Margaret Thatcher yn ceisio cythruddo'r Albanwyr yn fwriadol. Nid dyna oedd ei bwriad ond roedd yn ymddangos felly i lawer. Roedd hyd yn oed yr acen a'r llais yn dân ar groes i rai.
Os ydy'r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth flwyddyn nesaf dyna ddiwedd ar y Deyrnas Unedig ar ei ffurf bresennol. Mae hynny'n os go fawr ond mae'n anodd osgoi'r casgliad na fyddai'r os hyd yn oed yn codi oni bai am Margaret Thatcher.
Oni fyddai'n eironig pe bai'r Farwnes Thatcher yn cael ei chofio yn y diwedd nid oherwydd y Falkands na threth y pen na streic y glowyr ond fel bydwraig annibyniaeth yr Alban ac awdur dinistr y deyrnas ?
Drygioni Deg o Ni
Dyma i chi gyffesiad. Ar y cyfan dydw i ddim yn hoffi newyddiadura ynghylch y cyfryngau na'r Gymraeg. Maen nhw'n  bynciau sy'n rhy agos at adref rhywsut. Serch hynny o bryd i gilydd mae rhywbeth yn fy ngwylltio neu'n fy niddori digon i fy nhemtio i'r meysydd hynny.
Digwyddodd hynny rhai misoedd yn ôl ar ôl i mi gael fy nhrin yn ofnadwy o wael gan yr Office of National Statistics ar ôl gofyn am wasanaeth Cymraeg. Fe sortiwyd y peth gan swyddfa'r Comisiynydd Iaith yn y diwedd ac fe ges i wasanaeth Cymraeg. Dydw i ddim eto wedi derbyn ymddiheuriad gan yr ONS nac hyd yn oed llythyr yn cydnabod y gwyn.
Nawr bant a fi eto. Ydych chi'n cofio'r stori yma o fis Hydref y llynedd?
Roedd hi'n ymddangos yn wirion ar y pryd bod y "Gronfa Loteri Fawr" yn gwrthod rhoi cymorth i bapur bro Cymraeg ar y sail nad oedd ei wefan yn ddwyieithog. Ymddengys bod y gronfa wedi sylweddoli pa mor hurt oedd ei safiad ac yn dawel fach cafodd y penderfyniad ei wyrdroi.
Wrth gwrs cymdeithas fach llaw i geg yw cyhoeddwyr y Gloran. Ydy plismyn iaith y Gronfa Loteri Fawr yr un mor frwdfrydig ynghylch dwyieithrwydd wrth ddelio ac elusennau llawer mwy sy'n gweithio yn bennaf trwy'r Saesneg?
Dim ffiars o beryg.
Derbyniodd elusen "Tenovus" sydd a'i phencadlys yng Nghaerdydd bron i filiwn o bunnau i sefydlu corau i gleifion sy'n brwydro cancr. Mae'n syniad wych. Does dim byd yn fwy Cymreig a Chymraeg na chôr. Beth sydd gan wefan Tenovus  i ddweud am y cynllun?
"Mae Tenovus yn gweithio i'r eithaf i ddarparu gwybodaeth yn y Gymraeg ble bynnag posib, ond ar hyn o bryd nid oes gennym cyllid nag adnoddau i gynnig gwefan dwyieithog."
Et tu, Tenovus?
Rwy'n hoffi Colin hefyd
Mwy na thebyg fe fyddwch wedi darllen blogbost diflewyn ar dafod Leighton Andrews ynghylch Cymdeithas yr Iaith erbyn hyn. Os na ydych chi mae'r cyfan ar gael yn fan hyn ond mae hanfod ei ddadl ar ddiwedd yr erthygl.
"Yn anffodus, mae'n ymddangos bod y Gymdeithas wedi datblygu'n un o'r sefydliadau hynny y rhybuddiais amdanynt yn Strategaeth yr Iaith Gymraeg, nad ydynt eto wedi ymgyfarwyddo â datganoli. Fel S4C cyn penodiad Ian Jones, fel CBAC, fel Prifysgol Cymru, fel y 22 awdurdod addysg lleol ac fel yr Eisteddfod.
Os yw'r Gymdeithas am fod yn rhan o'r sgwrs fawr ar ddyfodol yr iaith, yna mae pob croeso iddynt. Ond allan nhw ddim eistedd o amgylch y bwrdd trafod a cheisio atal eraill rhag gwneud y gwaith y cawsant eu hethol i'w wneud ar yr un pryd.
Mae'r Gymdeithas wedi troi'n hanner cant bellach, ac mae'n bryd iddi dyfu i fyny."
Nawr mae'n anodd anghytuno a honiad y Gweinidog bod meddiannu ei gar swyddogol pan oedd e eisoes wedi cytuno i gwrdd â'r protestwyr i drafod eu pryderon yn beth rhyfedd i wneud. Beth oedd y protestwyr yn ceisio cyflawni? Mae'n anodd gwybod.
Ond i fi nid ymddygiad y Gymdeithas sy'n ddiddorol yn fan hyn ond ymateb y Gweinidog. Yn sicr mae Leighton yn wleidydd sy'n hoff o siarad plaen. Dyw e ddim yn ofni pechu pobol na herio eu rhagdybiaethau. Yn eironig ddigon yr unig wleidydd cyfoes sy'n dod yn agos ato o safbwynt ei barodrwydd i dynnu nyth cacwn i'w ben yw ei elyn pennaf Michael Gove, Ysgrifennydd Addysg Lloegr.
Fel mae Leighton yn awgrymu yn ei bost mae 'na dipyn o hanes rhyngddo fe a fi. Ni'n nabod ein gilydd ers degawdau ac rwy'n meddwl yn ei ddeall yn gymharol dda. Un peth fi'n sicr yn ei gylch yw bod bron popeth y mae Leighton yn gwneud yn cael ei wneud at bwrpas. Nid tynnu blew o drwyn er mwyn gwneud hynny mae'r Gweinidog Addysg.
Sylwch nad yng ngwres y foment y cyhoeddodd Leighton ei sylwadau ond peth amser ar ôl y digwyddiad y mae'n cwyno yn ei gylch. Mae'r lled-fygythiad a'r gwahoddiad wedi eu geirio'n ofalus.
Ac o dderbyn telerau'r Gweinidog beth all y Gymdeithas ddisgwyl? Gwn hyn am Leighton hefyd. Mae'n hael i'r rheiny sy'n derbyn ei gyngor. Y bore yma cyhoeddwyd y gorchymyn fydd yn arwain at uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Casnewydd uniad yr oedd y Leighton yn deisyfu ei weld ac ynghyd a'r gorchymyn cyhoeddiad arall - £24.8 miliwn o gyllid ychwanegol i'r sefydliad newydd.
Fel dywedais i mae Leighton yn hael i'w gyfeillion ac o leiaf mae'n hoffi Colin!
Codi Cwestiwn
Un o'r tasgau lleiaf heriol rwy'n wynebu yn ystod fy wythnos gwaith yw gwrando ar sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog a'i chrynhoi i'r rheiny sy'n gwylio AMPM ar BBC2.
Mae gan y rhaglen gynulleidfa ond mae'n un fechan ac yn llai o dipyn na'r nifer sy'n gwylio fersiwn San Steffan o gwestiynau'r Prif Weinidog bedair awr ar hugain yn ddiweddarach.
Nawr mae'n bosib bod yn well gan y Gynulleidfa Gymreig Andrew Neil na Vaughan Roderick ond esboniad mwy tebygol am y gwahaniaeth yw bod 'na ddiffyg drama yn perthyn i'r croesholi yn y Bae. Mae'r sesiynau'n gallu bod yn ddiddorol ond dyw nhw ddim ar y cyfan yn adloniant da.
Mewn un ystyr dyw hynny o fawr o ots. Atebolrwydd nid adloniant yw'r pwrpas, wedi'r cyfan. Ond mae 'na gred cyffredinol nad yw'r sesiynau'n yn gweithio o'r safbwynt hwnnw chwaith - bod Carwyn Jones yn cael getawe ar bethau byth a hefyd oherwydd cwestiynu llac a'i barodrwydd yntau i droi ei atebion yn ymosodiadau ar lywodraeth David Cameron.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae pobol o bob plaid wedi gofyn i mi beth fyswn i'n gwneud i wella pethau. Mewn gwirionedd does gen i ddim ateb pendant.
Yn rhannol y cast sy'n gyfrifol am fethiant y ddrama. Roedd 'na hen ddigon o wrthdaro a drama yn nyddiau cynnar y cynulliad wrth i Dafydd Wigley ac Alun Michael wynebu ei gilydd yng nghrombil Tŷ Hywel. Os nad yw'r cast presennol yn ddigon siarp ac ysgafndroed i roi her go iawn i'r Prif Weinidog does 'na fawr ddim fydd yn newid hynny.
Serch hynny mae gen i ambell i awgrym strwythurol a allai wella pethau.
Ar hyn o bryd mae'r arweinyddion y tair gwrthblaid yn cael gofyn tri chwestiwn yr un yn y cyfnod a glustnodir ar eu cyfer. Dyw hynny ddim yn ddigon. Yn San Steffan mae Ed Miliband yn cael gofyn hyd at chwe chwestiwn. Mae Andrew RT Davies, Leanne Wood a Kirsty Williams yn cymryd eu tro i agor cyfnod cwestiynau'r arweinwyr. Beth am ganiatáu chwe chwestiwn gan bwy bynnag sy'n mynd gyntaf?
Yr ail beth a allai fod o help fyddai gwahardd aelodau rhag darllen eu cwestiynau. Mae hynny wedi ei wahardd yn San Steffan a dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam y dylai Bae Caerdydd fod yn wahanol.
Yr awgrym olaf sy gen i yw cyfyngu ar y defnydd mae'r aelodau yn gwneud o gyfrifiaduron yn y Siambr. Byswn i ddim yn cael gwared arnyn nhw. Maen nhw'n caniatáu system bleidleisio llawer callach nac un San Steffan ac yn ffordd i aelodau gyfeirio at yr agenda a phapurau perthnasol i'w trafodion. Ond, o ddifri calon, os ydy aelodau'n credu bod hi'n gymwys ddelio a'u post neu bori'r we yn ystod eisteddiad - pa hawl sy ganddyn nhw i gwyno ynghylch diffyg diddordeb ymysg y cyhoedd?
Chwilio am Ffwddog
Es i am dro rai blynyddoedd yn ôl i chwilio am le o'r enw Ffwddog neu Fwthog neu Foothog.  Beth bynnag yw'r sillafiad cywir methais ddod o hyd iddi. Mae hi wedi diflannu naill ai o dan ddŵr cronfa Grwyne Fawr neu goed pinwydd tywyll y Comisiwn Coedwigaeth. Dim ond dau air sy'n addas i'w beddfaen - "Poetic Justice"!
Ynys fach o Loegr wedi ei hamgylchynu gan Gymru yng nghanol y Mynyddoedd Duon oedd Ffwddog. Fe'i dychwelwyd i Gymru gan y "Counties (Detached Parts) Act 1844". Yna diflannodd o hanes. Fel arfer, Cymru gafodd yr ochor waethaf i'r fargen. Fe gollodd Sir Fynwy ei hynys hithau yn Swydd Henfordd - Llangystennin Garth Brenni (Welsh Bicknor) - plwyf llawer mwy sylweddol a ffyniannus.
Rwy'n crybwyll deddf 1844 oherwydd mai honna oedd y newid cyntaf i gyfundrefn llywodraeth leol Cymru ers y deddfau uno. Daeth newid llawer mwy sylfaenol yn 1888 pan gafodd y cynghorau sirol a bwrdeistrefol eu creu. Fe barodd y rheiny tan 1973. Newidiwyd y cyfan eto yn 1996 gan roi i ni'r drefn bresennol o 22 cyngor - trefn sydd, mae'n ymddangos, yn tynnu at ei therfyn.
Tan yn ddiweddar roedd 'na gonsensws yn y Cynulliad ynghylch cyfundrefn llywodraeth leol Cymru. Yn y bôn y consensws hwnnw oedd  "mae'n llanast ond dydyn ni ddim am ei newid hi".
Dyw'r agwedd yna ddim mor hurt ag y mae'n ymddangos. Mae adrefnu llywodraeth leol yn broses gymhleth a chostus ac mae'n gallu esgor ar bob math o deimladau cryfion lleol. Ymgyrch rymus leol wnaeth arwain at greu cyngor Merthyr Tudful - cyngor nad yw hyd yn oed cynnwys etholaeth seneddol gyfan.
Ateb y Llywodraeth oedd ceisio cymell neu orfodi cydweithio trwy rannu swyddogion, sefydlu byrddau a chonsortia ac yn y blaen. Dyw hynny ddim wedi gweithio bob tro. Nid pob Cyngor sy'n dod ymlaen â'i gymdogion ac mae cydweithio o'i natur yn gallu glastwreiddio atebolrwydd.
Efallai oherwydd y problemau hynny neu efallai oherwydd yr hyn maen nhw'n gweld fel potsian diddiwedd y Llywodraeth mae'n ymddangos bod agwedd rhai o fawrion y cynghorau yn newid.
Bythefnos yn ôl galwodd cyn arweinydd y Gymdeithas Lywodraeth Leol John Davies am gyfundrefn newydd wedi ei seilio ar ffiniau'r byrddau iechyd. Gobeithio na fyddai hynny'n arwain at greu Sir Betsi Cadwaladr! Yna ddoe awgrymodd arweinydd Gwynedd taw dwy sir ddylai fod yn y gogledd.
Dyna i chi ddau o'r mawrion sy'n fodlon dweud eu dweud yn gyhoeddus ac yn ôl ffynonellau o fewn Llywodraeth Cymru mae sawl arweinydd Cyngor arall wedi gofyn am adrefnu llawn.
A fydd hynny'n digwydd? Yn hwyr neu'n hwyrach mae'n saff o wneud.
Wedi'r cyfan sut ar y ddaear mae cyfiawnhau sefyllfa lle mae gan Gymru mwy o gynghorwyr na'r Alban a mwy o gynghorau na Seland Newydd?
Cyfrol Goffa
Ar y cyfan dydw i ddim yn ffan o ddyddiau neu wythnosau arbennig. Rwy'n deall yn iawn pam  y mae elusennau a chyrff eraill yn eu clustnodi. Mae'n ffordd hawdd o ddenu sylw a ffocysu gweithgarwch ond erbyn hyn mae 'na gymaint ohonyn nhw nes eu bod mewn peryg o droi'n ddiystyr. Wyddoch chi, er enghraifft, bod Mawrth 1af, yn ogystal â bod yn Ddydd Gwyl Dewi, yn "Ddiwrnod Rhyngwladol Hunan-Niwed" ac yn "Ddwirnod Cenedlaethol y Mochyn" yn yr Unol Daleithiau.
Mae ambell un o'r dyddiau hyn wedi ennill ei blwyf ac mae dau o'r rheiny'r wythnos hon sef Diwrnod Rhyngwladol y Merched a Diwrnod Rhyngwladol y Llyfr. Y llyfrau sydd am fy nenu i heddiw!
Roeddwn i'n trafod pynciau ar gyfer rhaglen "O'r Bae" yfory a chafodd y cynhyrchydd, Glesni Jones, y syniad o ofyn i'r panelwyr pa lyfrau oedd wedi cael y dylanwad mwyaf arnyn nhw. Nid eu hoff lyfrau, sylwch, ond y rhai mwyaf dylanwadol. Syniad da. Gwnawn hynny.
A dyma fi'n gofyn y cwestiwn i mi fy hun a sylweddoli bod un o'r llyfrau cafodd y dylanwad mwyaf arnaf hefyd yn un rwy'n ei gasau!
Llyfr gan hanesydd o'r enw Arthur Mee oedd hwn. Yn ddigon rhyfedd roedd 'na ddau hanesydd a'r enw yna yn ysgrifennu ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Roedd un yn medru'r Gymraeg ac yn arbenigo ar hanes Sir Gar. Roedd y llall yn awdur ar sawl llyfr a chyfnodolyn i blant oedd yn mawrygu Prydain a'i hymerodraeth.
Yr ail un oedd yn gyfrifol am yr "Arthur Mee Book of Heroes" - llyfr yr oeddwn yn pori trwyddo'n aml pan yn blentyn - yn bennaf oherwydd y platiau lliwgar a'r bennod olaf ynghylch arwyr oedd yn "ordinary folk". Roedd y straeon yn y bennod honno yn afaelgar ac yn ysbrydoledig. Roeddent yn llawer mwy diddorol na'r straeon diflas a difflach ynghylch Wellington, Picton, Kitchener a'u tebyg.
Cafodd y llyfr ddylanwad arnaf am ddau reswm. Yn gyntaf fe daniodd diddordeb oes mewn hanes ynghyd ac ymwybyddiaeth bod 'na fwy nac un fersiwn o'r gorffennol. Yn ail, perodd i mi gwestiynu a bod yn amheus ynghylch hierarchaeth a dosbarth. Mae hynny'n reddf ddefnyddiol i newyddiadurwr.
Ymhlith y gwesteion ar "O'r Bae" yfory mae'r hanesydd Elin Jones sydd wrthi'n arwain adolygiad o'r ffordd y mae hanes Cymru'n cael ei dysgu yn ei hysgolion. Mae'r adolygiad bron yn sicr o ddylanwadu ar ba ffordd y bydd cenedlaethau o blant yn gweld hanes eu gwlad a gellir dadlau bod y canfyddiad o hanes yn sylfaen i genedligrwydd.
Oherwydd bod y gwaith ar ei hanner ni fydd modd gofyn i Elin ynghylch yr adolygiad  ond mae'n bosib y bydd ei dewis o lyfrau'n ddadlennol!
Ti, chi a fi
Mae derbyn rhifyn y mis o Barn wastod yn bleser - er taw fy nhasg gyntaf bob mis yw cael cipolwg sydyn i weld os oes 'na straeon neu safbwyntiau i ni eu colli! Dydw i ddim am gyfaddef yn fan hyn a ydy hynny wedi digwydd y tro yma!
Yn hytrach cefais ysbrydoliaeth am bost bach gan golofn Vaughan Hughes lle mae'n cwyno am yr hyn mae'n gweld fel defnydd amhriodol o ti a thithau ar raglenni newyddion Radio Cymru. Dyma ddisgrifiad Vaughan o sgwrs rhwng cyflwynydd â chadeirydd y Bwrdd Iaith.
"Roedd y ti a'r tithau diddiwedd, a chywair dau-fêt-yn-cael-clonc y sgwrs gyfan yn rhoi'r argraff anghysurus i mi fy mod yn clustfeinio ar sgwrs breifat... mae'r defnydd o chi o gymorth i gynnwys y gwrandäwr yn hytrach na'i ddieithrio."
Dydw i ddim yn teimlo'n gryf iawn am y peth ond yn bersonol rwy'n tueddu defnyddio chi gyda ffigyrau cyhoeddus hyd yn oed os ydy'r rheiny'n iau na fi. Ar y llaw arall mae'n gas gen i gael fy ngalw'n chi gan rywun sy'n ti i mi! Safonnau dwbwl efallai - neu arwydd fy mod yn heneiddio!
Ta beth mae'r ddadl ynghylch safonau iaith yn un sy'n digwydd yn gyson yng nghoridorau'r BBC gyda rhai'n adrodd straeon arswyd am grwpiau ffocws yn cael trafferth i ddeall Cymraeg cymharol syml ac eraill yn mynnu bod yn rhaid tynnu llinell yn rhywle. Mae lle mae'r "rhywle" yna yn gwestiwn arall, wrth gwrs!
Fy nghrwsâd arbennig i yw un i achub y ferf gryno. Efallai bod dyddiau "gallaswn" a "gwybuant" wedi mynd ond gwrthodaf dderbyn bod "Mae Dafydd Jones wedi dweud" yn haws i ddeall na "dywedodd Dafydd Jones".  A do, rwyf wedi clywed "mae x wedi dweud" yn cael ei ddefnyddio.
Mewn gwlad sydd wedi methu cytuno'n derfynol ynglŷn ag orgraff ei hiaith ysgrifenedig ar ôl pymtheg can mlynedd efallai ei bod hi'n anorfod bod y darlledwyr yn dal i ymgecru ar ôl cwta dri chwarter canrif!
Mae 'na beryglon wrth symleiddio'r iaith ond ar y llaw arall mae Cymraeg sydd yn orffurfiol ac yn bedantig yn gallu bod yn hyll ac yn ofnnadwy o anodd ei deall.
Roeddwn yn meddwl am hyn wrth wrando ar araith Leighton Andrews yn y ddadl ynghylch safonau iaith ddoe. Roedd hi'n llawn o jargon y gwasanaeth sifil gyda'i geiriau aml sillafog, anghyffredin. Roedden nhw i gyd yna - anghymesuredd, anstatudol, tryloywder a'r gweddill ohonyn nhw.
Mae'r eirfa fiwrocrataidd hon yma'n hyll a chan amlaf yn ddiangen yn Saesneg. Mae ei chyfieithu'n slafaidd i'r Gymraeg ac yna disgwyl i Weinidog sy'n dysgu'r iaith ei defnyddio yn wirion bost.
<object classid="clsid:d27cdb6e-ae6d-11cf-96b8-444553540000" width="512" height="400" id="movie_name" align="middle">
<param name="movie" value="https://nontonwae.pages.dev/emp/worldwide/player.swf"/>
<param name="quality" value="high" />
<param name="wmode" value="direct" />
<param name="allowFullScreen" value="true" />
<param name="allowScriptAccess" value="always" />
<param name="flashvars" value="playlist=http://playlists.bbc.co.uk/democracylive/cymru-21656486A/playlist.sxml&config=https://nontonwae.pages.dev/player/emp/2_0_55/config/default.xml&config_settings_showUpdatedInFooter=true&config_settings_autoPlay=true&enable3G=true&holdingImage=http://news.bbcimg.co.uk/media/images/66218000/jpg/_66218509_66218508.jpg&config_settings_showPopoutButton=false&domId=emp-21656486-146212&config_plugin_fmtjLiveStats_pageType=eav1&embedReferer=https://nontonwae.pages.dev/democracylive/cymru/&config_plugin_fmtjLiveStats_edition=Domestic&fmtjDocURI=/democracylive/cymru-21656486&embedPageUrl=https://nontonwae.pages.dev/democracylive/cymru-21656486&config_settings_suppressItemKind=advert, ident&config_settings_showShareButton=true&mediatorHref=http://open.live.bbc.co.uk/mediaselector/5/select/version/2.0/mediaset/journalism-pc/vpid/{id}&uxHighlightColour=0xff0000&config_plugin_fmtjLiveStats_pageType=eav6&config_settings_autoPlay=false&config_settings_showFooter=true&config_settings_showPopoutButton=false&config_settings_showPopoutCta=false&config_settings_addReferrerToPlaylistRequest=true"/>
<object type="application/x-shockwave-flash" data="https://nontonwae.pages.dev/emp/worldwide/player.swf" width="550" height="400">
<param name="movie" value="https://nontonwae.pages.dev/emp/worldwide/player.swf"/>
<param name="quality" value="high" />
<param name="wmode" value="direct" />
<param name="allowFullScreen" value="true" />
<param name="allowScriptAccess" value="always" />
</object>
Y Llwybr Cul
Rhywle gartref mae gen i lyfr o'r enw "Labour's last chance?: the 1992 election and beyond". Casgliad o draethodau gan rai o'r seffolegwyr gorau Prydain  yw'r llyfr ac mae'r teitl yn esbonio'r cynnwys. Ar ôl colli etholiad 1992 pan oedd bron popeth yn gweithio o'i phlaid oedd modd i'r Blaid Lafur ennill byth eto oedd y cwestiwn. Amwys oedd yr atebion.
Cyhoeddwyd y llyfr ym Mai 2004. Llai na thair blynedd yn ddiweddarach enillodd y blaid Lafur y nifer fwyaf o seddi yn ei hanes ac etholwyd Tony Blair yn Brif Weinidog.
Rwy'n codi'r pwynt oherwydd bod cwestiwn digon tebyg yn cael ei ofyn ynghylch y Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Os nad oedd hi'n bosib ennill mwyafrif yng ngwyntoedd teg 2010 pa obaith yn y dyfodol?
Yr ateb syml i'r cwestiwn yw wrth gwrs bod hi'n bosib i'r Ceidwadwyr ennill mwyafrif. Yn wir, os nad yw'r blaid yn cwympo'n ddarnau mae hi bron yn sicr o ennill un rhywbryd. Serch hynny mae'r llwybr tuag at fwyafrif yn yr etholiad nesaf yn edrych yn gulach ac yn gulach wrth i ddydd y cyfri agosau.
Y dadansoddiad gorau o broblemau'r Ceidwadwyr mi ddarllen yw hwn gan Paul Goodman cyn aelod seneddol Ceidwadol sy'n un o olygyddion gwefan dylanwadol "Conservative Home".
Yn ôl Goodman mae ennill mwyafrif yn 2015 yn amhosib oherwydd pedair ffactor. Methiant y blaid i apelio at leiafrifoedd ethnig, undod yr asgell chwith, rhaniadau ar yr asgell dde ac anfantais strwythurol y map etholiadol yw'r ffactorau hynny.
Mae canlyniad Eastleigh yn cymhlethu'r ddwy ffactor olaf.
Trwy guro'r Ceidwadwyr mae Ukip wedi dwysau'r rhaniadau ar y dde. Mae unrhyw obaith na fydd y blaid honno'n ffactor yn yr etholiad nesaf yn prysur ddiflannu a does dim rhaid iddi wneud chwarter cystal â gwnaeth hi yn Eastleigh er mwyn dylanwadu ar y canlyniadau mewn llwyth o etholaethau ymylol.
O safbwynt y ffactor olaf, y broblem strwythurol, amcangyfrifir y bydd angen i'r Ceidwadwyr bod saith y cant ar y blaen i lafur yn y bleidlais boblogaidd er mwyn sicrhau mwyafrif o un. Mae hynny'n glamp o fynydd - ond mae'r guru etholiadiol Peter Kellner wedi darogan y gallai'r Torïaid sicrhau mwyafrif mewn ras llawer agosach pe baent yn cipio rhyw ddau ddwsin o seddi o'r Democratiaid Rhyddfrydol - seddi tebyg iawn i Eastleigh.
Pa obaith o hynny nawr?
A Oes Heddwch?
Mae rhai o sefydliadau Cymru wedi addasu i ddatganoli yn well na'i gilydd. Nid beirniadaeth yw dweud hynny. Doedd dygymod a bod yn genedl gyda llywodraeth ar ôl saith canrif o straffaglu ymlaen heb un byth yn mynd i fod yn hawdd! Wedi'r cyfan mae'r hyn sy'n ymddangos fel atebolrwydd i wleidydd yn gallu ymddangos fel ymyrraeth wleidyddol yr un sy'n atebol.
Gan edrych o'r tu fas ymddengys i mi fod ambell i sefydliad cenedlaethol wedi dygymod a'r newid yn ddigon hawdd. Rwy'n meddwl am gyrff megis Amgueddfa Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a'r Cyngor Chwaraeon. Gallwn fod yn gwbwl anghywir. Mae'n bosib bod 'na rycsiyns y tu ôl i'r llenni. Os felly clywais i ddim byd amdanynt.
Mae ambell sefydliad wedi methu'r prawf yn llwyr. Prifysgol Cymru yw'r enghraifft amlwg ond dim ond nawr y mae ambell i Gyngor a Choleg yn sylweddoli bod 'na feistr newydd ar y tŷ.
Mae hynny'n dod a ni at benderfyniad y Llywodraeth i gomisiynu adolygiad o'r Eisteddfod Genedlaethol.
O safbwynt y Llywodraeth does 'na ddim elfen o fygythiad yn gysylltiedig â'r peth. Mae'r Eisteddfod yn annibynnol. Os ydy hi'n dewis anwybyddu argymhellion yr adolygiad mae perffaith hawl ganddi i wneud hynny heb unrhyw  gosb ariannol. Os ydy'r wŷl ar y llaw arall yn derbyn y cyfan neu rhai o'r argymhellion yna fe fyddai'r Llywodraeth yn fodlon cynyddu ei chymhorthdal. Pa le sy 'na i boeni? Wedi'r cyfan mae'r rheiny syn cynnal yr adolygiad yn garedigion y Gymraeg.
Nawr edrychwch ar y sefyllfa o safbwynt Eisteddfodwr pybyr - un sy'n ystyried y Brifwyl yn "gaer fechan olaf" i'r Gymraeg mewn môr o Saesneg. Gellir synhwyro ei ofnau.
"Pa mor ddidwyll yw'r llywodraeth mewn gwirionedd? Oes 'na agenda gudd? Onid yw gwneud yr Eisteddfod yn fwy croesawgar i'r Di-Gymraeg yn gyfystyr a glastwreiddio ei Chymreictod?"
"Wedi'r cyfan," medd ein eisteddfodwr dychmygol "mae'r Eisteddfod wedi profi ei bod yn fodlon newid gyda'r amseroedd. Bob blwyddyn cynhelir adolygiad o lwyddiannau a methiannau'r wŷl gydag argymhellion ar gyfer y dyfodol. Mae'r broses yn dryloyw gyda'r cyfan yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod. Pam fod angen adolygiad allanol yn ogystal?"
Ond beth am benaethiaid yr Eisteddfod? Gellir darllen eu tystiolaeth i'r ymchwiliad yn fan hyn. Mae'n ddarn cytbwys iawn o waith sy'n awgrymu bod yr Eisteddfod wedi ymateb yn bositif i'r ymchwiliad - ar gychwyn y broses o leiaf.
Mae'n ymddangos bod pethau wedi suro rhywfaint ers hynny yn bennaf oherwydd pryder tîm rheoli'r Eisteddfod y gallai'r ymchwiliad argymell canoli'r Eisteddfod ar ddau safle parhaol. Yn ôl y Prif Weithredwr, Elfed Roberts fe fyddai hynny'n drychineb a galwodd ar garedigion yr Eisteddfod i ysgrifennu at yr ymchwiliad i ddatgan eu gwrthwynebiad i'r syniad.
Nawr dydi ddim yn bry ar wal yng nghyfarfodydd y grŵp gorchwyl a gorffen. Dydw i ddim yn gwybod felly faint o sail sy 'na i ofnau Elfed a'i dim rheoli.
Gwn hyn. Mae sylwadau Elfed a rhai'r trefnydd Hywel Wyn Edwards ar Bawb a'i Farn rhai wythnosau yn ôl wedi peri siom a syndod i ambell un yn agos at yr adolygiad. Yr ofn yw bod Elfed a Hywel wedi mynd o flaen gofid a'u bod trwy hynny mewn peryg o droi Eisteddfodwyr yn erbyn proses oedd i fod er lles y Brifwyl.
Nid fy lle i yw barnu pwy sy'n iawn ond fe fyddai'n trueni i bawb pe rhywbeth oedd fod yn gyfle yn cael ei weld fel bygythiad.
04, 05 ac ati
Gan amlaf os oes 'na fuddsoddiad mawr o dramor yn dod i Gymru mae'r Llywodraeth yn awyddus iawn i frolio am y peth. Rhyfedd felly oedd dod ar draws buddsoddiad gwerth pum miliwn o bunnau o'r Dwyrain Pell na chlywyd siw na miw amdano. Buddsoddiad mewn addysg bellach yw hwn ac rwy'n amau taw'r rheswm am y distawrwydd yw nad yw'r Llywodraeth hyd yn oed yn gwybod ei fod yn digwydd.
Pam felly? Wel oherwydd taw utgyrn Seion ac nid utgyrn Sony sy'n seinio!
Mae'r stori'n dechrau yn ôl ar ddechrau'r ugeinfed ganrif gyda glöwr o Frynaman o'r enw Rees Howell. Go brin fod yr enw yna'n golygu rhyw lawer yng Nghymru'r dyddiau hyn. Mae'n annhebyg y bydd y ffilm yma'n ymddangos yn Odeon, Llanelli na Cineworld, Llandudno yn y dyfodol agos!
Chwi synhwyrwch efallai bod Rees Howell o hyd yn cael ei ystyried yn ffigwr o bwys mewn ambell i fan!
Cenhadwr oedd Howell oedd wedi ei danio gan y diwygiad mawr olaf yn 1904-05. Ar ôl cyfnod yn cenhadu yn Ne Affrica dychwelodd i Gymru gyda'r syniad o agor coleg i hyfforddi myfyrwyr o'r holl genhedloedd i ledaenu'r gair ar ôl dychwelyd adref. Prynodd plasty Derwen Fawr yn Abertawe ac agorodd "Coleg Beibl Cymru" ei ddrysau yn 1924.
Fe ddenwyd myfyrwyr o bedwar ban byd. Yn eu plith roedd meibion ymerawdwr Ethiopia, Haile Selassie. Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd i'r meibion hynny pan gafodd yr ymerawdwr ei ddyrchafu'n dduw gan y Rastaffariaid!
Ta beth am hynny am dri chwarter canrif roedd Coleg Beibl Cymru yn lle pwysig a dylanwadol i'r rheiny o gwmpas y byd oedd yn hoff o ffydd cymharol ddigyfaddawd.
Daeth tro ar fyd ac ar ddechrau'r ganrif hon penderfynodd ymddiriedolwyr y Coleg newid yr enw i "Trinity" a symud yr holl siabang i ganolbarth Lloegr. Ac eithrio'r plasty ei hun gwerthwyd y cyfan o'r safle i ddatblygwyr.
A dyna fyddai diwedd y stori oni bai am ŵr o'r enw Yang Tuck Yoong sy'n weinidog ar eglwys â rhai miloedd o aelodau yn Singapore.
I ddefnyddio geirfa'n cyndadau derbyniodd alwad i achub Derwen Fawr. O fewn byr o dro llwyddodd i godi'r £5 miliwn angenrheidiol o'i ffyddloniaid yn Singapore i brynu ac adfer y plasty ac fe fydd y Coleg yn ail agor ei drysau rywbryd eleni.
Pam gwneud hynny? Dyma'r esboniad ar wefan y prosiect.
"The revival that broke forth in the principality of Wales in 1904 is of special importance because of the power and influence that it generated...  We have this prophetic sense that somehow, what God did in that revival in Wales... is going to have a profound effect on us, 100 years later."
Oes 'na wers i Lywodraeth Cymru yn fan hyn? Wel, dim ond un fach efallai.
Honnir yn aml bod proffil rhyngwladol Cymru lawer yn is na rhai'r Alban ac Iwerddon. Mae hynny'n wir. Does gan y Cymry ddim delwedd ym meddyliau tramorwyr fel sydd gan ein cefndryd Celtaidd. Ond efallai bod gennym gysylltiadau diwylliannol a hanesyddol â chymunedau eraill nad ydym yn ymwybodol ohonyn nhw.
Daergryn Bach yn Hampshire
Pethau rhyfedd yw isetholiadau ym Mhrydain. Anaml iawn y maent yn effeithio ar y fathemateg seneddol. Mae'n rhaid i fwyafrif llywodraeth fod yn  hynod fregus iawn megis un Llafur yn Hydref 1974 neu un y Ceidwadwyr yn 1992 cyn i golli ambell i sedd fod yn broblem. Hyd yn oed yn yr achosion hynny fe lwyddodd John Major i gadw i fynd am y cyfan o'i dymor ac roedd Jim Callaghan o fewn ychydig wythnosau i'r pum mlynedd cyn iddo golli pleidlais o hyder.
Eto  i gyd mae isetholiadau'n cael eu trin gan wleidyddion a'r cyfryngau fel rhyw brawf pwysig o gyflwr y pleidiau ac yn arwydd o'r tywydd gwleidyddol. Mae newyddiadurwyr yn tueddu heidio tuag at hyd yn oed yr isetholiad mwyaf di-nod a phan ddaw hymdinger fel Eastleigh mewn lle sy'n gyfleus i Lundain, wel gwyliwch mas pobol fach! Fe fydd na fwy o gamerâu ar eich Stryd Fawr na sy'n ffilmio carped coch y BAFTAS.
Dyw'r cyfryngau Cymraeg ddim yn gwbwl rhydd o'r obsesiwn hwn. Cofiaf i'r Byd ar Bedwar ddarlledu hanner awr gyfan ynghylch isetholiad Bermondsey pan etholwyd Simon Hughes ac roedd 'na gyfnod pan oeddwn i hefyd yn aml yn cael fy nanfon i baratoi adroddiad ynghylch rhyw ornest neu'i gilydd.
Dydw i ddim yn cofio p'un ai y gwnes i ymweld ac Eastleigh yn ystod isetholiad 1994 nei beidio. Rwy'n cofio myn i un Christchurch ychydig i'r gorllewin ac un Newbury ychydig i'r gogledd. Gwnes i elw bychan yn y ddau trwy fentro swllt a'r y rhyddfrydwyr. Tan yn ddiweddar roedd mentro ar y blaid felen mewn is etholiad yn fuddsoddiad wedd gall. Wedi'r cyfan roedd isetholidau yn llythrennol yn rhoi modd i fyw i'r drydedd blaid ac roedd hi'n arllwys popeth oedd ganddi i mewn i'w hennill.
Dydw i ddim wedi bod yn Eastleigh y tro hwn. Peidiwch ddisgwyl i mi ddarogan canlyniad felly. Serch hynny rwyf wneud un pwynt bach o hir brofiad.
Mae momentwm neu ddiffyg momentwm yn nyddiau olaf yr ymgyrch yn hollbwysig mewn isetholiadau ac mae adroddiadau yn y wasg a sibrydion y pleidiau yn awgrymu taw gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol y mae'r momentwm yn Eastleigh.
Mae 'na beryg enfawr i David Cameron yn hynny. Os daw hi'n amlwg i'r etholwyr bod yr enillydd fwy neu lai wedi ei setlo fe fydd y rheiny sy'n tueddu at Lafur, Ukip neu un o'r pleidiau llai yn teimlo'n fwy rhydd i bleidleisio o'r galon. Gallai hynny effeithio ar siâr y Democratiaid Rhyddfrydol o'r bleidlais ond pa ots yw hynny os ydy'r blaid yn fuddugol?
Yn bwysicach gallai diffyg gwasgfa'r "ras dau geffyl" beryglu gafael y Torïaid ar yr ail safle. Fe fyddai colli yn Eastleigh yn anaf i David Cameron - ond cwt fyddai hi nid clais. Fe fyddai dod yn drydydd ar y llaw arall yn gythraul o glatsied.
Ydy hynny'n bosib? Mewn isetholiad mae unrhyw beth yn bosib. Gofynnwch i George Galloway.
Dyrchafaf fy llygaid
Wrth bori trwy ganlyniadau ward wrth ward y Cyfrifiad des i ar draws ffaith fach ddiddorol. O'r deuddeg ward yng Nghymru a Lloegr lle dywedodd y mwyafrif o'r trigolion eu bod heb unrhyw grefydd o gwbwl roedd pump yn Rhondda Cynon Taf.
Efallai nad yw'n syndod bod Maerdy ym mlaen Rhondda fach yn un ohonyn nhw. Wedi'r cyfan adwaenwyd y lle hwnnw fel "Little Moscow" ers talwm. Dydw i ddim yn gwybod faint o fynd sydd ar ddarllen Marx a Lenin yn y lle erbyn hyn ond ymddengys nad oes llawer o fynd ar ddarllen Ysgrythur!
Un o'r wardiau eraill sydd â mwyafrif o anffyddwyr yw Cwm Clydach. Mae hynny o ddiddordeb personol i mi. Roedd fy nhad-cu yn löwr yng ngwaith y Cambrian yn y pentref hwnnw ac mae gen i berthnasau yno o hyd.
Roedd y Cambrian yn un o byllau glo mwya'r de. Cafwyd un o'r damweiniau gwaethaf yn hanes y diwydiant glo yno yn y 1960au a hanner canrif yn gynt yn y pwll hwnnw y dechreuodd yr anghydfod wnaeth arwain at derfysgoedd Tonypandy.
Roedd fy nhad-cu wedi hen adael cyn y naill ddigwyddiad na'r llall. Yn ystod diwygiad 1904-05 fe gasglodd glowyr y Cambrian ddigon o arian i'w ddanfon i Goleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu i astudio i fod yn weinidog. Mae'n amlwg nad anffyddiaeth oedd yn nodweddi Cwm Clydach ar y pryd!
Beth ddigwyddodd felly i droi un o beiriau'r diwygiad yn un o'r llefydd mwyaf digrefydd yng Nghymru a Lloegr?
Mae cyfrolau cyfan wedi eu hysgrifennu i geisio ateb y cwestiwn hwnnw ond go brin fod modd datgysylltu'r hyn ddigwyddodd i Anghydffurfiaeth yn y Rhondda a llefydd tebyg, a'r hyn a ddigwyddodd i'r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny.
Efallai'n wir bod y ddau beth mor glwm â'i gilydd nad oes modd eu datod. Beth am beidio ceisio gwneud?
Mae 'na ddau bwnc wedi bod yn codi eu pen yn weddol gyson yn y Cynulliad yn ddiweddar.
Wrth drafod yr iaith mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi bod yn son yn gyson am yr angen i roi cyfleodd i ddisgyblion yr ysgolion Cymraeg ddefnyddio'r iaith y tu hwnt i furiau'r ysgol ac ar ôl ei gadael. Sut mae cyflawni hynny?
Ym maes treftadaeth cafwyd ambell i ddadl a sawl cwestiwn ynghylch diogelu o leiaf rhai o addoldai anghydffurfwyr Cymru ar ôl i'w drysau gau. Ffawd capel Pisgah yng Nghasllwchwr wnaeth ysbarduno'r drafodaeth ond mae 'na ddegau os nad cannoedd o gapeli yng Nghymru sydd o werth hanesyddol neu bensaernïol y byddai'n cael eu diogelu mewn byd delfrydol. Sut mae gwneud hynny? Wedi cyfan does dim modd troi pob capel sy'n cau yn ganolfan dreftadaeth!
Efallai bod modd cyfuno'r ddau bwnc at ateb y ddau gwestiwn trwy edrych ar esiampl Canolfan Soar ym Merthyr lle mae'r fenter iaith leol wedi defnyddio arian Ewropeaidd i ddatblygu canolfan i fywyd Cymraeg yr ardal a'r celfyddydau a thrwy hynny sicrhau dyfodol i un o adeiladau mwyaf nodedig y dref.
Roedd Soar eisoes wedi cau pan lansiwyd cynllun y fenter - ond onid oes modd llunio cynlluniau tebyg lle y gallai cynulleidfaoedd barhau i addoli yn yr adeilad yn rhydd o'r baich o'i gynnal?
Nid capeli trefol yn unig a allai fod o ddefnydd i ddyfodol y Gymraeg. Oni fyddai capeli fel Blaencaron, er enghraifft, yn ganolfannau awyr agored perffaith i ysgolion Cymraeg y de diwydiannol?
Dim ond gofyn ydw i ond hytrach nac eistedd yn ôl a disgwyl i'r drysau gau efallai y dylem ni fel Cymry Cymraeg, ac nid y capelwyr yn unig, ddyfalu a allai 'na fod dyfodol defnyddiol i'r adeiladau a fu'n gartrefi i'n diwylliant gyhyd?
Mewn a Mas
Dyma i chi gyfaddefiad. Rwyf wedi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ers oeddwn i'n fach iawn. Tua wyth neu naw oed oeddwn i pan ddechreuais i gymryd diddordeb rwy'n meddwl.
Coeliwch neu beidio doedd hynny ddim yn anarferol iawn ar y pryd. Wedi'r cyfan roedd plant y chwedegau yn tyfu lan yn negawd Kennedy a King, Fietnam a Prague, Caerfyrddin a Chymdeithas. Anodd oedd peidio talu sylw.
Roedd oes y cyfarfod cyhoeddus wedi dechrau dirwyn i ben ond doedd hi ddim wedi darfod yn llwyr. Rwy'n cofio clywed Jo Grimmond yn siarad yn Neuadd Cory, Ted Heath ym Mhafiliwn Gerddi Soffia a Harold Wilson ym Mharc Ninian, o bobman.
Does un o'r tair mangre yn sefyll heddiw ond roedd y cwestiwn mwyaf yr oedd y tri yn ei drafod yn un digon cyfarwydd - Ewrop - mewn neu mas?
Heno ar CF99 fe fyddwn yn trafod y tebygrwydd rhwng y sefyllfa wnaeth arwain at refferendwm Ewrop yn 1975 a'r sefyllfa heddiw.
Mae 'na un gwahaniaeth pwysig wrth gwrs. Yn ôl yn y saithdegau ac eithrio ambell i ffigwr fel Enoch Powell roedd y dde yn unedig o blaid aelodaeth Prydain o'r farchnad Gyffredin fel y'i galwyd ar y pryd.
Y chwith oedd yn rhanedig. Roedd yr undebau a ffigyrau fel Michael Foot a Tony Benn yn gwrthwynebu bod yn aelod o "glwb cyfalafol" tra roedd y rheiny wnaeth adael Llafur i ffurfio'r SDP ddegawd yn ddiweddarach yn frwd o blaid Ewrop.
Roedd Wilson ei hun rhywle yn y canol yn ceisio cadw ei blaid yn unedig. Er mwyn gwneud hynny fe luniodd fformiwla ryfeddol o debyg i un David Cameron - refferendwm ond dim ond ar ôl cyfnod o ail-negodi.
Yn achos David Cameron mae pwyslais sylwebwyr yn tueddu bod ar yr addewid o bleidlais yn hytrach na'r ail-negodi. Roedd hynny'n wir yn ôl yn saithdegau hefyd ond yr ail-negodi oedd yn allweddol.
Gorau po fwyaf o gonsesiynau y gallai Ewrop eu rhoi o safbwynt canlyniad y refferendwm ond prynu amser oedd Wilson mewn gwirionedd. Hanfod ei gambl oedd y byddai ofnau'r etholwyr ynghylch ffawd Prydain y tu fas i'r farchnad yn drech na'u rhwystredigaeth a biwrocratiaid Brwsel - ond roedd angen amser i'r ofnau hynny ddatblygu.
Dyna'n union a ddigwyddodd gyda busnesau mawrion a chyrff fel y CBI yn rhybuddio am broblemau. Mae'r un actorion yn mentro i'r llwyfan unwaith yn rhagor a phe bawn i'n gorfod proffwydo nawr beth fyddai canlyniad refferendwm byswn i'n mentro swllt - ond dim mwy - y byddai mewn yn trechu mas unwaith yn rhagor.
Roedd hi'n ddiddorol gweld yr arolwg barn gyntaf i awgrymu canlyniad o'r fath yn cael ei gyhoeddi dros y Sul.
Beth sy'n rhaid i'r rheiny sy'n dymuno gweld Prydain yn gadael yr Undeb wneud i ennill refferendwm? Y peth pwysicaf, dybiwn i, yw cynnig darlun eglur ac atyniadol o ddyfodol Prydain tu fas i'r Undeb Ewropeaidd. Dyw cyfeiriadau annelwig at Singapore a 'phont ar draws Fôr Iwerydd' ddim yn debyg o fod yn ddigon.
Mae gobaith yn gallu trechu ofn weithiau ond rhaid esbonio beth union yw'r gobaith hwnnw.
Dafydd a Jonathan
Clywais rhai dyddiau yn ôl bod Jonathan Evans AS wedi penderfynu peidio sefyll yng Ngogledd Caerdydd yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Cafwyd cadarnhad o hynny heddiw.
Fe fydd sinigiaid yn rhuthro i ddatgan bod Jonathan wedi dod i'r casgliad nad oedd modd iddo gadw'r sedd. Wedi cyfan mwyafrif o 194 oedd ganddo yn etholiad 2010.
Am unwaith dydw i ddim yn un o'r sinigiaid! Wedi'r cyfan dyw Jonathan ddim yn ddyn i gefnu ar frwydrau anodd. Yn 1987 collodd i Richard Livsey o 56 pleidlais ym Mrycheiniog a Maesyfed. Yn hytrach na chwilio am sedd fwy addawol safodd eto yn 1992 gan ennill o 130 o bleidleisiau.
Pam rhoi'r ffidl yn y tô felly? Mae'r esboniad yn ei ddatganiad yn sicr yn rhan o'r peth. Mae Jonathan yn chwedeg dwy oed a chyda hyd senedd bellach wedi ei bennu o flaen llaw byddai ennill yn 2015 yn golygu gwasanaethu tan 2020 pan fyddai'n 70.
Dyw 70 ddim yn oedran afresymol i wleidydd y dyddiau hyn ond mae'n amlwg bod Jonathan yn teimlo bod ganddo bethau amgenach i wneud a'i amser.  Mae'n weithgar mewn sawl elusen ac un o brif leygwyr yr Eglwys Gatholig yng Nghymru. Fe fydd ganddo hen ddigon o bethau i lenwi ei ddyddiau ac ar ôl gyrfa ddisglair ym myd y gyfraith a busnes teg yw synhwyro nad yw'n brin o geiniog neu ddwy.
Efallai eich bod yn synhwyro bod 'na "ond" ar y ffordd. Rydych yn llygad eich lle!
Rwy'n fodlon derbyn y cyfan o'r esboniad yn natganiad Jonathan ond mae'n anodd gen i gredu na fyddai wedi oedi tan yn agosach at yr etholiad cyn penderfynu ynghylch ei ddyfodol pe bai wedi cael ei ddyrchafu'n weinidog gan David Cameron.
Wedi'r cyfan roedd y Ceidwadwyr yn brin o weinidogion profiadol yn 2010 ar ôl tair blynedd ar ddeg ar feinciau'r wrthblaid. Pam peidio manteisio ar brofiad gwr oedd wedi gwasanaethu yn yr Adran Ddiwydiant a'r Swyddfa Gymreig oedd yn amlwg ddeallus ac yn gyfathrebwr effeithiol?
Gellir ateb hynny mewn un gair sef Ewrop.
Ar ôl colli Brycheiniog a Maesyfed yn 1992 etholwyd Jonathan i Senedd Ewrop ac ef oedd arweinydd y grŵp Ceidwadol yno. Ymladdodd brwydr ffyrnig yn erbyn cynlluniau David Cameron o orfodi i'r Ceidwadwyr adael y grŵp canol-dde er mwyn sefydlu grŵp newydd oedd yn ewro-sgeptig ei hanian. Collodd Jonathan y frwydr honno ond mae'n ymddangos i mi nad oedd David Cameron yn barod i faddau ei safiad.
Ydy hi'n gyd-ddigwyddiad bod Jonathan wedi rhyddhau ei ddatganiad ar drothwy araith fawr David Cameron ar Ewrop? Cewch chi farnu - rwy'n gwybod beth yw fy marn i!