CF99 - yn fyw heno
Eluned Morgan (yr aelod seneddol ewropeaidd llafur) a'r ceidwadwr Guto Bebb fydd yn cadw cwmni i mi yn oriel y cynulliad heno. Wrth i Gordon Brown bacio'i fag i fynd i Lisbon i drafod y cytunded ewropeaidd fe fyddwn ni'n gofyn pa mor bendant ydi llinellau coch Prydain ac i ble aeth yr addewid yna gan Tony Blair i gynnal refferendwm.. ?
A hefyd fe fyddwn ni'n edrych ar brinder prentisiaethau (dipyn o lond ceg!) yng Nghymru,  ac fe fydd Dewi Knight o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymuno a ni i drafod pam bod pawb i weld yn ymddiswyddo o frig y blaid..
Oes oes ganddo chi gwestiwn i'r gwesteion heno, gadewch sylw ar y blog neu ebostiwch ni CF99@bbc.co.uk
CF99 yn fyw o'r senedd heno am 9.30 ar S4C.
Dryswch ar y brig..
Wel wel - erbyn canol Rhagfyr fe fydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol arweinydd newydd. Eisioes ma 'na  ddau geffyl blaen.. Chris Huhne, llefarydd y blaid ar yr amgylchedd, cyn ddyn busnes a newyddiadurwr ddaeth yn ail i Syr Ming y tro diwetha ydi'r naill..a'r llall a ffefryn y bwcis ar hyn o bryd ydi llefarydd y blaid ar faterion cartref, Nick Clegg. Mae'r cyn aelod seneddol ewropeaidd yn gyfaill a chydweithiwr agos iawn i Syr Ming. Yn wahanol i Mr Huhne, fe ddewisodd Mr Clegg  beidio mynd am y swydd y tro dwetha ..Pam? Wel, yn gyhoeddus,  pryder ei gefnogwyr, a fo, oedd ei fod yn rhy ifanc, yn ddi-brofiad ac yn rhy brysur fel tad  i deulu ifanc. Yn breifat,  y gofid oedd ei fod yn edrych ac yn swnio llawer yn rhy debyg i  David Cameron.
Yn ol y son fe ddaeth i "ddealltwriaeth"  gyda Syr Ming y byddai'n ei gefnogi yn lle ei herio ac o ganlyniad yn cael swydd flaenllaw fyddai'n ei baratoi am yr ornest y tro nesa... Rhyw sgwrs debyg i honno gafodd Gordon Brown a David Miliband y llynedd mae'n siwr.. Ar ben hynny,  roedd Mr Clegg a'i gefnogwyr yn hyderus iawn ar y pryd y byddai David  Cameron wedi hen fynd erbyn i Syr Ming roi'r gorau iddi ac felly y byddai'r broblem fawr wedi diflannu - rhyfedd o fyd!
Hyd yma mae Nick Clegg yn ystyried maint ei gefnogaeth ac yn gwrthod cadarnhau y bydd yn sefyll am y swydd  - efallai ma'i arwydd cyntaf ei fod ar fin gwneud hynny fydd rhyw unrhyw ymgais ar "makeover" - steil gwallt newydd falla neu bar sydyn o sbectol - unrhyw beth i osgoi cael ei gymharu a'r gelyn..!
CF99
CSR,PBR, fformiwla barnett, Mr Pioden  ..wedi drysu? wedi laru? Cofiwch am CF99 heno pan fyddwn ni mynd i'r afael a'r diweddara o Fae Caerdydd a San Steffan yng nghwmni llwyth o siocled... o ac ambell i wleidydd hefyd .. Llywydd y Cynulliad Dafydd Elis Thomas, aelod Llafur yn y cynulliad, Alun Davies ac Eleanor Burnham ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn fyw o'r Senedd heno am 9.30 ar S4C.
Atyniad grym
Felly dim etholiad ... ond doedd hynny ddim yn ddigon i atal Vaughan rhag dianc i ymchwilio'r sedd ymylol allweddol honno yn Malasyia am bythefnos a 'ngadael i yng ngofal ei flog.... ac CF99. Ati'n syth felly at faterion mwyaf dwys y dydd..
Ar ol deffro am bedwar ar fore hyll i gyflwyno Good Morning Wales  - braf oedd cael cadarnhad cynnar bod gwleidyddiaeth Cymru dal yn secsi.. ac i un o aelodau cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins, mae'r diolch. Hi yw'r unig wleidydd i gyrraedd rhestr y Western Mail o 50 o ferched mwyaf deniadol Cymru. Ymhlith y WAGs a'r divas, mae Bethan yn hawlio rhif 49, rhwng Gabby Logan a Fiona Phillips o GMTV.. A dyma gofio'n sydyn yn y swyddfa ei bod hi nol ym Mis Mawrth wedi cyrraedd rhif 19 yn rhestr Wales on Sunday o "Bachelorettes" y flwyddyn. Felly dyma fynd ati i ddadansoddi arwyddocad y newid yma yn y polau piniwn..  ..Un esboniad posib - mae Plaid Cymru bellach mewn grym ac felly roedd Kissinger yn anghywir pan awgrymodd "Power is a great aphrodisiac". Esboniad arall yw nad ydi gwleidyddion Cymru yn cymryd digon o sylw o gyngor "What not to Wear" Helen Mary Jones sydd i'w gael yn glir iawn yng nghylchgrawn Adran y Menywod Plaid Cymru "Jemeima"...O wel 'sgwn i lle fydd aelodau gwrywaidd y cynulliad arni pan aiff y Western Mail ati i restru dynion dela Cymru tro nesa ...? Vaughan - brysia nol!