The Reporters: Vaughan Roderick

Codi Cwestiwn
Dyma'r diweddariad o'r post diwethaf;

"Mae'r aelodau seneddol Llafur newydd ofyn yn swyddogol i Rhodri drafod a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd yr ASau weld y cytundeb arfaethedig rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Y refferendwm, mae'n debyg, yw asgwrn y gynnen."

Nawr darllenwch hwn o flog Peter Black;

"The Welsh Liberal Democrat Group met last night and agreed to wait a bit longer so as to allow Plaid Cymru to make up their minds. We were united however in agreeing that Mike German should approach Rhodri Morgan if the so-called rainbow coalition ceased to be an option. An urgent National Executive meeting will be called to endorse this action if necessary."

Ydy Plaid Cymru yn wynebu dewis rhwng yr enfys a bod yn wrthblaid- ac ai dyna oedd bwriad Ieuan o'r cychwyn?

Y ddinas fawr ddrwg
San Steffan heddiw, trip am ddiwrnod i'n prifddinas arall. Cant a deugain o bunnau am docyn rheilffordd. Oedd y tren yr oeddwn i eisiau yn rhedeg? Nac oedd. Nid yw geiriau yn gallu cyfleu maint fy nghariad tuag at Network Rail a First Great Western!

Mae'n rhatach ac yn haws y dyddiau hyn i deithio o Gaerdydd i Prague neu Barcelona nac yw hi i Lundain ac efallai bod hynny'n rannol esbonio'r ymbellhau rhwng y sefydliadau gwleidyddol yn y ddwy ddinas.

Ta beth, cafwyd dau ddatblygiad hynod ddiddorol heddiw. Yn gyntaf, wrth gwrs cafwyd pleidlais unfrydol annisgwyl yn y cynulliad i sefydlu comisiwn i edrych ar fformiwla Barnett a  phwerau trethi i'r cynulliad. Roedd comisiwn o'r fath bron yn sicr o ddigwydd o ganlyniad i ba bynnag cytundeb clymblaid sy'n enill y dydd ond mae  penderfynniad unfrydol ar yr union foment hon yn arwyddocaol.

Mae'n anodd i mi gyfleu i chi cymaint oedd y dirmyg gan rai yn San Steffan wrth ymateb i'r newyddion. “Blydi nonsens...does dim byd yn mynd i ddod o hwn” oedd un o'r ymatebion mwy poleit. Wrth gwrs cafwyd ymatebion tebyg gan yr un bobol pan sefydlwyd Comisiwn Richard.

Wrth i mi adael San Steffan roedd Rhodri mewn cyfarfod o'r aelodau seneddol Llafur a phan drodd Arglwydd Kinnock i fyny roedd hi'n weddol amlwg ei fod yn wynebu dipyn o job i ddarbwyllo'r aelodau o rinweddau clymblaid coch/gwyrdd. Mae rhai aelodau yno'n deisyfu arno i fynd yn ôl i drafod da'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae Rhodri'n amharod i wneud hynny gan synhwyro efallai y gallai'r cam hwnnw adfywio'r enfys.

Mewn un ystyr roedd heddiw yn fy atgoffa o wleidyddiaeth oes y Tuduriaid a'r Stiwardiaid ond y tro hwn yn lle “Plaid y Senedd” a “Phlaid y Brenin” mae gennym “Plaid y Senedd” a “Phlaid y Cynulliad”. Mae Rhodri druan yn y canol.

DIWEDDARIAD: Mae'r aelodau seneddol Llafur newydd ofyn yn swyddogol i Rhodri drafod a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd yr ASau weld y cytundeb arfaethedig rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Y refferendwm, mae'n debyg, yw asgwrn y gynnen.

Hwn a'r llall
Profiad rhyfedd oedd gwrando cwestiynau’r Prif Weinidog y prynhawn yma. Gyda neb yn gwybod i bwy i fod yn wrthwynebus ac a phwy y maen nhw'n fêts roedd hi'n sesiwn ddigon tawel ond, o bosib, yn fwy aeddfed. Roeddwn i'n ceisio gweld oedd hi'n bosib darllen unrhyw beth o'r ymgiprys rhwng Ieuan a Rhodri. Yn anffodus roedd un o atebion Rhodri yn plesio Ieuan a'r llall ddim. Gem gyfartal felly.

Diddorol oedd gweld y ddau gymydog Gareth Jones (Aberconwy) a Darran Miller (Gorllewin Clwyd) yn cydweithio a'i gilydd yn y siambr heddiw i herio'r llywodraeth ynglŷn â gohirio codi ei phencadlys gogleddol newydd yng Nghyffordd Llandudno. Mae Gareth, wrth gwrs,  yn un o'r aelodau hynny sydd ag amheuon ynghylch clymblaid coch/gwyrdd. Oes 'na enfys fach yn ffurfio ar y Costa Geriatrica?

Cynhadleddau'r bore
Ymddiheuriadau am beidio bostio dim ddoe- y tro cyntaf i fi fethu ers y cychwyn dw i'n meddwl. Roedd 'na reswm. Hwyrach wnâi esbonio prynhawn 'ma. Mae'n fore Mawrth ac felly yn fore "briefings" Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Fe fydd y manylion yn ymddangos ar y post yma yn ystod y bore.

10.15 Llafur; Doedd gan Lafur fawr ddim i ddweud am y trafodaethau clymblaid ac eithrio hyn "Rydym yn trafod a Phlaid Cymru a Phlaid Cymru'n unig. Mae'r trafodaethau hynny yn bositif ac yn parhau". Yn y cyfamser mae Llafur yn bwrw ymlaen a'i rhaglen ddeddfwriaethol gan flaenoriaethu mesurau lle mae 'na gonsensws yn y cynulliad.

11.00; Y Ceidwadwyr; Mae Nick Bourne yn gwneud ei orau glas i gadw'r enfys yn fyw. Mynnodd fod y glymblaid honno o hyd yn bosibilrwydd a'i fod yn parhau i drafod a Phlaid Cymru. Mae'r blaid wedi sicrhâi dadl yfory yn galw am osod targedi ar gyfer y defnydd o ynni amgen - pwnc lle mae 'na anghytundeb rhwng pleidiau’r enfys a Llafur. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae aelodau Plaid Cymru'n pleidleisio.

12.00; Plaid Cymru; Roedd Ieuan yn hynod ofalus i beidio pechu unrhyw un o'r arweinwyr eraill gan gesio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng y clymbleidiau posib. "Dw i ddim yn cymryd yn ganiataol y bydd cytundeb a Llafur yn bosib ond yr unig ffordd i weithredu'n effeithiol yn y sefyllfa yma yw trwy ddelio'n gwbwl onest a phawb"

Rhowch i mi hedd....
Roeddwn i wedi gobeithio y byddai'r penwythnos yma yn rhoi terfyn ar y saga! Mae gen i lwyth o eitemau a rhaglenni i'w gwneud ynghylch ymadawiad Tony Blair a dyrchafiad Gordon Brown a fawr ddim wedi ei recordio hyd yma. Fe fydd yn rhaid i mi rwygo fy hun o'r bae yr wythnos yma a heglu hi am San Steffan.

Dw i 'n mwynhau mynd i Westminster ond dw i'n paratoi fy hun yn barod am y cwynion gan Aelodau Seneddol am "blwyfoldeb" newyddiduraeth wleidyddol Gymreig. Yr hyn sy'n eu gwenud yn anhapus, wrth gwrs, yw bod aelodau'r cynulliad yn tueddu cael llawer mwy o sylw na nhw. Mae na rhyw beth eitha eironig ynglyn a gwrando ar drigolion y "Westminster Village" yn cyhuddo eraill o "blwyfoldeb".

Serch hynny, mae'n ffaith wrth gwrs mai San Steffan sydd a'r gair olaf ar rhai o'r pynciau mwyaf sy'n effeithio'n bywydau- rhyfel a heddwch, trethi a chyllid, yr economi a phensiynnau i enwi ond ychydig. Ond cyn i'n haelodau seneddol gwyno gormod rhaid gofyn i ba raddau y mae'r penderfynniadau hynny yn benderfynniadau seneddol erbyn hyn ac i ba raddau mae'r dadleuon seneddol ond yn addurn mewn system sy'n gynyddol arlywyddol.

Unbennaeth etholedig oedd disgrifiad Quentin Hogg o system lywodraethol Prydain ac yn sicr mae hi wedi ymddangos felly ar adegau yn ystod cyfnod Tony Blair.  Efallai y gwnaeth pethau newid o dan Gordon. Fe gawn weld.

Un peth fyddai'n sicr o drawsnewid pethau fyddai senedd grog ac mae'n ddigon posib mai dyna fydd yn bodoli wedi'r etholiad nesaf. Pe bai hynny'n digwydd mae'n debyg y byddai Gordon yn troi at "bartneriaid naturiol" Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol.  Dyna'r rheswm, mae'n bosib, am ddiddordeb cynyddol yr arweinyddiaeth yn y sefyllfa yng Nghaerdydd.

Fe fyddai "enfys" yn gosod cynsail peryglus gyda phlaid y canol yn clymbleidio a'r Ceidwadwyr yn hytrach na'u partneriaid  "naturiol" ar y meinciau Llafur.

Beth bynnag sy'n digwydd yn yr etholiad nesaf mae seneddau crog yn debyg o fod yn gyffredin yn y dyfodol hyd yn oed o dan y drefn bleidleisio fel ac y mae hi. Mae'r canran sydd yn pleidleisio dros y ddwy blaid fawr wedi bod yn gostwng ers degawdau ac rydym yn agoshau at drothwy lle fydd hi'n anodd i naill ai'r Toriaid na Llafur sicrhai mwyafrif clir.

Yn 1966 enillodd y ddwy brif blaid 87% o'r bleidlais a 95% o'r seddi yn Nhŷ'r Cyffredin. Erbyn 2005 roedd y canrannau wedi gostwng i 68% o'r bleidlais a 85% o'r seddi. Nid Bae Caerdydd yw'r unig le fydd y pleidiau yn gorfod dysgu sut mae cydweithio!

Gafael mewn enfys
Mae'n bryd i fi rhoi fy mhen ar y bloc. Mae mawrion Plaid Cymru yn cwrdd yn Aberystwyth i gymryd penderfynniad  fydd yn gosod patrwm gwleidyddiaeth Cymru am flynyddoedd os nad degawdau i ddod. Nid gormodiaeth yw dweud mai hwn yw'r cyfarfod pwysicaf yn hanes Plaid Cymru.

Pedair awr ar hugain yn ol roeddwn yn teimlo mai cytundeb rhwng Llafur a Phlaid oedd y penderfynniad mwyaf tebygol. Erbyn hyn dw i'n meddwl bod yr enfys yn dechrau disgleirio eto.

Mae na ddau reswm am hynny. Yn gyntaf mae'n gymharol eglur erbyn hyn y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio sicrhai cytundeb a Llafur os ydy Plaid Cymru'n gwrthod yr enfys. Mae hyd yn oed Peter Black y gwr wnaeth arwin y gwrthwynebiad i glymbleidio a Llafur bellach yn ail-feddwl. Mae'n dweud hyn "We have though now come too far for me to be able to revert to my original refusnik role."  Does na ddim sicrwydd felly y byddai clymbalid coch/gwyrdd yn dod i fodolaeth.

Mae'r ail reswm am ffarfrio'r enfys yn deillio o'r Blaid Lafur. Dw i'n gwbwl sicr y byddai cynhadledd arbennig yn cefnogi clymblaid o fwyafrif sylweddol ond mae sicrhai y byddai'r peiriant Llafur yn gweithio am bleidlais "Ie" mewn refferendwm yn beth gwahanol. Heb addewid o'r fath beth yw pwynt bod yn ail mewn clymblaid yn lle bod yn brif blaid?

Mae'n ddigon posib fy mod yn gwbwl anghywir ond dw i'n disgwyl i Blaid Cymru estyn an yr enfys heddiw.

Diweddariad; Diwrnod cyfan o drafod a'r penderfynniad... i drafod ymhellach a Llafur ond gan gadw'r "enfys" wrth gefn. Beth fydd ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol  tybed?

Pen yr enfys
Wrth i bwyllgor gwaith y Blaid Lafur gwrdd i drafod y glymblaid bosib a Phlaid Cymru mae'n werth cofio nad ydym wedi gweld pen ar yr enfys eto. Wrth reswm ar drafodaethau Llafur a Phlaid mae'r sylw wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf gyda rhai'n awgrymu bod yr ansicrwydd ynglŷn â symudiadau'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwthio'r ddwy blaid yn agosach at ei gilydd.

Serch hynny, mae'r enfys o hyd yn hofran uwch ein pennau a dw i'n ddigon parod i gredu mai hi fydd dewis Plaid Cymru ar ddiwedd y dydd.

Mae 'na sawl reswm am hynny ond y pwysicaf yw hwn- tawlwch, mudandod hyd yn oed, y rheiny o fewn y blaid sy'n gwrthwynebu clymbleidio a Llafur. Mae'r grŵp hwn yr un, os nad yn fwy, niferus na'r rheiny oedd gwrthwynebu'r "enfys" fel mater o egwyddor.  Eto tra  roedd Helen Mary a'i dilynwyr yn gweld yr angen i leisio ei hamheuon yn gyhoeddus  mae'n amlwg bod y gwrth-lafurwyr yn gobeithio ennill y ddadl y fewnol.

Yn y bôn mae dadl gwrthwynebwyr llywodraeth coch/gwyrdd yn un syml. Dyma hi. "Yr unig beth y gall Llafur gynnig nad yw'n bosib ei sicrhâi trwy'r enfys yw refferendwm. Ydych chi'n fodlon derbyn ei gair ynglŷn â hynny?"

Rhowch i'm fy hyfryd got...
Mae'r gystadleuaeth i ddewis Joseff newydd Andrew Lloyd Webber wedi dod i ben ond mae'n anodd cael yr hen gan yna allan o'm mhen. "Pan af yn ôl at y dechreuad...".

Gadewch i ni gofio lle roedden ni chwe wythnos yn ôl. Roedd  canlyniadau'r etholiad yn amwys a'r dyfodol yn ansicr. Y senario debycaf oedd clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dw i ddim am ail adrodd popeth sydd wedi digwydd ers hynny ond dyma ni ar drothwy rhyw fath o gytundeb gyda Phlaid Cymru yn gorfod penderfynu rhwng yr enfys a llywodraeth coch/gwyrdd.

(Penderfyniad Plaid Cymru yw hwnnw, gyda llaw. Er cymaint y geiriau croes yn Westminster a'r Rhondda mae Rhodri a Gordon yn benderfynol o gadw grym yng Nghymru beth bynnag yw barn yr Aelodau Seneddol ac Ysgrifennydd Cymru. Mae penderfyniad Rhodri i gefnogi Harriet Harman yn y ras am ddirprwy arweinyddiaeth ei blaid yn adrodd cyfrolau am bwy sydd ar ben arall y ffon yn Llundain...ac nid Peter Hain yw hwnnw. Fe fyddai cynhadledd Lafur yn cefnogi clymblaid a Phlaid o fwyafrif llethol beth bynnag yw safbwyntiau trigolion swigen San Steffan.)

"Ond awn yn ôl hyd y dechreuad...". Ers i mi bostio, yn hanner gellweirus, ddoe ynglŷn â'r posibilrwydd  y gallai Mike German godi'r ffon i Rhodri Morgan mae ambell i un yn y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi crybwyll y posibilrwydd o ail- agor trafodaethau rhwng y ddwy blaid.

Dw i ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd, ond  er mwyn ei rhwystro dw i'n amau na fydd grŵp cynulliad a phwyllgor gwaith Plaid Cymru yn chwalu'r enfys yfory. Y disgwyl oedd y byddai cyfarfodydd Plaid yfory yn dewis rhwng coch/gwyrdd a'r enfys. Dw i'n amau y gallai'r cyfarfodydd benderfynu cadw'r ddau bosibilrwydd yn fyw er mwyn cadw'r cadwynau ar Mike German.

Pell Pell i ffwrdd roedd rhai yn cysgu...

Diweddariad; Ers i mi sgwennu'r uchod mae cyfeillion o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol wedi awgrymmu i mi na fyddai cadw'r ddau gynllun yn fyw yn llehai'r pwysau ar Mike German i siarad a Llafur. Fe ddaw'r pwysau hynny gan bobol sydd yn teimlo ei bod hi'n iawn i nhw siarad a phawb os ydy Plaid Cymru yn gwneud hynny.

Os felly (a dw i'n tueddu derbyn y ddadl) mae'n bosib y bydd yn rhai i Blaid Cymru neidio i'r naill gyfeiriad neu'r llall yfory neu wynebu dychwelyd i'r sefyllfa oedd yn bodoli ar Fai'r 6ed pan oedd yr opsiynnau i gyd yn agored. Yn ol at y dechreuad mewn geisiau eraill!

Meddwl am Mike
Wrth grwydro'r senedd heddiw roedd hi'n rhyfeddol gweld cymaint o'n gwleidyddion mewn hwyliau da. Efallai bod gwybod y bydd na derfyn ar yr holl helynt cyn gwyliau'r haf yn donic i bawb ond mae na resymau eraill i aelodau tair o'r pedair plaid fod yn llon eu byd.

O safbwynt Llafur mae'n ymddangos bod dihangfa wyrthiol yn bosib, gall aelodau Plaid Cymru fod yn sicr y byddant mewn llywodraeth o fewn ychydig wythnosau tra bod y Torïaid yn saff o fod yn rhan o lywodraeth neu'n brif wrthblaid.

Mae hynny'n gadael y Democratiaid Rhyddfrydol. Beth sy'n wynebu nhw fel Plaid? Blynyddoedd yn yr oerfel o bosib, gyda thair o'u pedair sedd o dan fygythiad yn yr etholiad cyffredinol. Mae ei seren ifanc Kirsty Williams wedi pechu rhannau helaeth o'r blaid ac yn annhebyg o esgyn i'r arweinyddiaeth a mae ei harweinydd presennol yn y penawdau yn gyson am y rhesymau anghywir.

Fe fydd na fawr ddim cydymdeimlad gan y pleidiau eraill sy'n beio'r Democratiaid Rhyddfrydol am wneud llanast o'r broses o ffurfio llywodraeth ond oes 'na unrhyw beth y gall y blaid ei hun wneud i osgoi pedai blynedd arall fel gwrthblaid ymylol?

Does bosib. Na. Dw i'n gwrthod hyd yn oed meddwl am y peth. Byse hynny byth yn digwydd.

Ond beth os oedd Mike German yn codi'r ffon i Rhodri?

S4C2
Dyma drefn darlledu gwasanaeth BBC Cymru o'r Cynulliad Cenedlaethol ar S4C2 yr wythnos nesaf:

Mawrth 19eg o Fehefin

1345-1730	Sesiwn Lawn

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Datganiad Busnes a Chyhoeddiad

Datganiad am y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol - Newid Gwyrdd

Mercher 20fed o Fehefin

1229-1730	Sesiwn Lawn

Busnes y Llywodraeth 12.29 – 1400:

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd (Edwina Hart)

Cwestiynau i Weinidog yr Economi (Brian Gibbons)

Busnes heblaw busnes y Llywodraeth 1400 – 1730:

Dadl Plaid Cymru: Cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau

Dadl y Ceidwadwyr: Torri Allariadau Carbon ac Ynni Adnewyddol

Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol: Pwerau ariannol a chyllido Llywodraeth Cynulliad Cymru

Y Ddadl Fer:  Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yr Angen am Ysbyty Llwynhelyg

Iau 21 Mehefin

Dim busnes ffurfiol

Poeni am bleidlais
Cefais fy synnu y bore ma wrth gyrraedd y gwaith. Nid gan y datblygiadau gwleidyddol diweddara- dw i y tu hwnt i syndod cyn belled ac mae'r rheiny yn y cwestiwn- ond gan sylwadau dau o'm cydweithwyr ynglŷn â'r posibilrwydd o refferendwm.

Roedd y ddau yn gwbwl argyhoeddedig nad oedd modd yn y byd y byddai etholwyr Cymru yn cefnogi cynyddu pwerau'r cynulliad mewn pleidlais -hynny er gwaetha'r ffaith bod pob un arolwg barn yn awgrymu'r gwrthwyneb.  Yr un yw'r gri gan nifer o aelodau seneddol ac mae Peter Hain wedi dweud hynny ar goedd droeon.

Beth yw'r sail i'r gred hon? Yn sicr mae profiadau 1979 a 1997 yn rhan ohoni. Yn y ddau refferendwm roedd y bleidlais negyddol llawer yn fwy na phroffwydoliaethau'r polau piniwn. Yn fwy cyffredinol mae'n deg i ddweud bod hi'n gythreulig o anodd i lywodraethau ennill pleidleisiau sydd yn aml yn cael eu defnyddio gan yr etholwyr i roi cic i ba bynnag plaid neu bleidiau sydd mewn grym.

Am y rheswm hynny byswn yn disgwyl y byddai unrhyw gytundeb rhwng Llafur a Phlaid yn cynnwys rhyw fath o "get out clause" i alluogi i lywodraeth Coch/Gwyrdd ohirio'r bleidlais os nad oedd hi'n bosib ei hennill.

Yn bersonol dw i ddim yn rhannu barn fy nghydweithwyr a'r aelodau seneddol. Yn gyntaf roedd cost cynulliad yn ffactor allweddol yn 1979 a 1997.

Arf fwyaf effeithiol Neil Kinnock yn '79 oedd y ddadl bod prynu peirannau arennau yn bwysicach na chreu "siop siarad" yng Nghaerdydd. Roedd yr un fath o ddadl yn thema gyson i Nick Bourne, Tim Williams a Betty Bowen yn '97. Ni fydd y ddadl honno'n berthnasol y tro nesaf gan fod y cynulliad eisoes yn bodoli. Y cwestiwn fydd yn cael ei ofyn yw pa set o wleidyddion ddylai deddfu ynglŷn ag ysbytai ac ysgolion Cymru- y trigain aelod Cymreig yn y cynulliad neu'r chwe chant o wleidyddion Prydeinig yn San Steffan?

Mewn cyfnod lle mae'r canran sy'n pleidleisio yn etholiadau'r cynulliad ar gynnydd a'r diddordeb yn etholiadau San Steffan yn pylu dw i'n meddwl bod hi'n fwyfwy amlwg pa gorff etholedig sy fwyaf perthnasol i'w bywydau yng ngolwg etholwyr Cymru.

Cymhellion cymysg
Mae'r pwysau am gynhadledd arbennig gan aelodau Llafur Cymru yn hynod ddifyr. Yr hyn sy'n ddiddorol yw pwy sydd y tu ol i'r galw.

Ar y naill ochor mae rhai o'r datganolwyr mwyaf pybur am weld cynhadledd i sicrhai nad yw'r blaid yn gallu cefnu ar yr addewid o refferendwm. Mae eraill yn gobeithio y byddai cynhadledd yn gwrthod clymblaid neu y byddai'r peryg o hynny yn darbwllo Plaid Cymru i gerdded i ffwrdd o'r trafodaethau. Rhain yw'r bobol (bach eu nifer) sy'n ystyried purdeb yn bwysicach na'r gallu i gyflawni ( mae 'na bobol felna ym mhob plaid!).

Ta beth mae'r posibilrwydd o "super-Saturday" wedi ail-ymddangos gyda'r Gynhadledd Lafur (mwy na thebyg) ar yr un diwrnod a Chyngor Cendlaethol Plaid Cymru.

Rhodri yn ffau'r llewod
Fe fydd Rhodri Morgan yn cwrdd ag Aelodau Seneddol Llafur Cymru yn San Steffan y prynhawn yma i geisio eu hargyhoeddi o'r angen am glymblaid a Phlaid Cymru. Mae'r dasg yn un anodd gyda'r nifer o aelodau'n gwrthwynebu unrhyw amserlen ar gyfer cynnal refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad. Mae agwedd yr aelodau yn hollbwysig gan fod Plaid Cymru ym mynnu cael addewid pendant y byddai'r Blaid lafur gyfan yn ymgyrchu dros bleidlais "Ie" mewn refferendwm- syniad sy'n wrthun i rai yn Llundain.

Mae rhai Aelodau Seneddol hefyd yn bwriadu mynnu bod unrhyw gytundeb a Phlaid Cymru yn derbyn sêl bendith trwch y blaid er na ddigwyddodd hynny yn achos y cytundeb a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Hwn a'r llall
Y tu ôl i'r llenni y mae pethau'n digwydd heddiw cyfle i ni ddal i fyny ac ychydig o straeon eraill felly.

Gydag etholiadau'r cynulliad drosodd mae'r pleidiau wedi dechrau dewis ymgeiswyr seneddol. Draw yng Ngorllewin Abertawe mae 'na frwydr ffyrnig i olynu Alan Williams fel ymgeisydd Llafur. Mae pob math o gyhuddiadau yn cael eu gwneud ond yn sicr mae gan yr aelodau lleol ddigon o ddewis yn eu plith dwy o ymgeiswyr aflwyddiannus y cynulliad sef cyn aelod Preseli Tamsin Dunwoody ac ymgeisydd Gogledd Caerdydd Sophie Howe.

Parhau mae achos enllib Martyn Jones AS yn erbyn y Mail on Sunday. Cewch wybod sut mae Martin yn clymu ei fow-tei yn fan hyn.

O gwmpas y blogs. Mae Jill Evans ASE yn herio agweddau'r Torïaid ynglŷn â'r iaith. Mae Peter Black , Glyn Davies, Sanddef a blog "Y Byd" i gyd yn trafod y sefyllfa wleidyddol ddiweddara.

Diwedd y gem
Mae Ieuan Wyn Jones newydd ddweud hyn ar Radio Cymru. "Dw i'n addo i bobol Cymru y bydd gan Gymru lywodraeth sefydlog erbyn yr haf."

Mae'r llinell derfyn o fewn cyrraedd felly er bod y canlyniad o hyd yn ansicr.