Blog Radio Cymru Feed

Ffeinal y Talwrn: y Gorau o'r Gweddill
A dyna gyfres arall o’r Talwrn
wedi dod i ben.

A hynny mewn steil yn y Babell Lên ar ddydd Sadwrn cynta’r
Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych.

Aberhafren aeth â hi. Ond dim ond marc oedd rhyngddyn’ nhw
â’r Cŵps ar ddiwedd gornest gystadleuol, a selogion y Babell a’r gwrandawyr
gartre wedi cael modd i fyw: chwerthin braf ac ochneidiau o ias yn gymysg oll i
gyd, yn ôl y disgwyl.

Y Meuryn gyda Rhys Iorwerth a'i dlws am gywydd gorau'r gyfres

Ond, i mi, beth bynnag, uchafbwynt yr ornest oedd cywydd ysgubol Rhys Iorwerth ar y testun ‘Sgwrs’, cywydd a enillodd iddo nid yn unig ddeg marc ond hefyd Dlws Coffa Dic Jones am gywydd gorau’r gyfres.

Ac roedd yn braf hefyd cael cyflwyno Tlws Coffa Cledwyn am
delyneg orau’r gyfres i Dafydd John Pritchard o dîm y Cŵps am y gerdd ‘Hwyrach’
a weithiwyd ganddo ar gyfer rownd gyntaf y gyfres eleni – er mae’n deg dweud
bod ei delyneg e ac un Mari George (Aberhafren) ar y testun ‘Eli’ hefyd wedi
bod yn gyfraniadau gwych i’r rownd derfynol.

Caed yn ogystal eiliadau o ddatguddiad: a wyddoch chi, er
enghraifft, fod gan dîm Aberhafren stelciwr, a hwnnw’n gyn-archdderwydd? A beth
am ferched y Ddawns Flodau yn anffurfio’r Brodyr Celtaidd? A feddyliais i
erioed chwaith, hyd nes i fi glywed penillion Llion Pryderi Roberts ac Arwel
‘The Rocket’ Jones, fod torheulo yn weithred mor amheus! Ewch i wefan Y Talwrn, da chi, i gael pip ar fywydau
a meddyliau arswydus y beirdd hyn!

Ond, am y tro, beth am fwynhau rhai o’r cerddi hynny nas
cafwyd eu darllen yn yr ornest? Y cwpledi hyn, er enghraifft:

Pam fod
seidar mor barod

i'n hala ni dreiglo'n od?

Dafydd John
Pritchard

Pa raid dweud o gopa’r
das
mai dethol yw cymdeithas?

Aberhafren

A beth am y cyngor ymarferol hwn i ddarpar eisteddfodwyr gan
Llion Pryderi:

Boed bobol pafiliwn,
stondinau neu’r bar,
jest cofiwch lle’n union
y parcioch chi’r car.

A meddyliwch bod y ddau gywydd rhagorol hyn ddim ond yn ail
ddewis y tro hwn:

Sgwrs

(ar wyliau yn Gourville)

Bore Sul, a’i lwybrau sydd
yn ferw ddileferydd
hyd y rhiw, a’r blodau’n drwch
o wahoddiad llawn heddwch;
pader Ffrengig, unig ŷnt
di-ddweud o weddi ydynt.

Ond ym mreichiau erwau’r haf
yn dawel, pan wrandawaf
drwy’r heulwen, fe ddaw’r gwenyn
i ddweud eu dweud gyda hyn,
ac yn neithdar eu siarad
berw hwy mae hen barhad.

Aron Pritchard (Aberhafren)

Sgwrs

(Mae Esgobaeth Mynyw yn benderfynol o ddymchwel Eglwys Gwenfrewi a Mair yr
Angylion yn Aberystwyth, a hynny'n groes i ddymuniad mwyafrif llethol o'r
plwyfolion. Er holi sawl gwaith, ni chafwyd cyfle i siarad â'r Esgob ers
misoedd lawer.)

Annwyl Esgob,
â'th bobol
hyd yn hyn heb glywed nôl,
d'wed y doi; a dywed, Dad,
a oes awr inni siarad?
Awr â'i lle mewn calendr llawn;
awr yw'r gofyn, awr gyfiawn.

Fe gei di glywed wedyn
y gwir sydd i'n dagrau syn
a chei weld pob Henffych Well
ein cau allan fel cyllell;
gweddwon yw'n gweddïau ni
gan fraw, heb nawdd Gwenfrewi.

Dafydd John Pritchard (Y Cŵps)

A 'drychwch ar ddyfeisgarwch Aron Pritchard eto fyth yn yr
englyn canlynol. Y gofyniad oedd i’r beirdd lunio englyn yn cynnwys enw un o
gymeriadau’r Mabinogi:

Hen Gapel

Drwy’r waliau brau, dim ond brân
ddiflino
yw’r eco sy’n crawcian
yno mwy, a’r adar mân
o’u hadfail wedi hedfan.

Aron Pritchard

Fe fyddwch chi flogddarllenwyr llengar wedi sbotio enw’r
cymeriad yn englyn Aron yn syth, wrth gwrs. Ond buodd y Meuryn yn araf iawn i weld taw Brân (hynny
yw, Bendigeidfran) oedd yn cuddio ar ddiwedd y llinell gyntaf!

Dwi’n edrych ymlaen at gyfres 2014 yn barod...

I glywed ffeinal Y Talwrn a holl raglenni cyfres ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Blogiau blaenorol Ceri Wyn Jones

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 14
Ym mlog cynta’r gyfres, honnodd y Meuryn taw camp tîm yw camp Y Talwrn yn y bôn. A byddech yn disgwyl taw’r tîm sydd yn cynnwys y nifer mwyaf o feirdd disglair sydd yn siŵr o ennill bob tro. Ond nid felly y mae hi.

Ac mae’r ddau dîm a gyrhaeddodd yr ornest gyn-derfynol hon heno, sef Y Cŵps a’r Tywysogion, yn dimau difyr i’w hystyried yng ngoleuni’r paragaraff blaenorol.

Hwn oedd yr ail dro yn unig i’r timau gwirioneddol dalentog hyn gyrraedd y rownd gyn-derfynol, ac mae hwnnw’n destun syndod. Wedi’r cwbwl, mae gan Y Cŵps ddau brifardd yn eu mysg (sef Huw Meiron Edwards a Dafydd John Pritchard) tra bod gan Y Tywysogion dri phrifardd (Twm Morys, a oedd yn Washington ar adeg ricordio’r rhaglen hon, Mei Mac a Siôn Aled). Ac mae gweddill aelodau’r ddau dîm hwythau yn feirdd i’w hystyried o ddifri, goron neu gadair neu beidio.

Pam, felly, y diffyg llwyddiant (cymharol)? Ai’r gwaith tîm sydd yn ddiffygiol? Neu’r uchelgais? Neu’r Meuryn,wrth gwrs?

Neu, ai adlewyrchiad o ffyrnigrwydd y gystadleuaeth yn gyffredinol yw hyn?

Wedi’r cwbwl, nid ar chwarae bach yn y blynyddoedd diweddar y mae curo timau fel Y Glêr, Aberhafren, Caernarfon a’r Tir Mawr, heb sôn am Crannog a’r Rhelyw.  A beth am dimau mwy newydd fel Y Ffoaduriaid ifainc, a Tir Iarll a Hiraethog? Neu rai mwy sefydliedig, fel Tanygroes a Criw’r Ship a’r Manion o’r Mynydd a’u tebyg?

Y gwir yw bod angen i bawb yn y tîm fod ar dân pan ddowch chi benben â thimau fel y rhain, a hir y parhaed hynny.

A hir y parhaed i dimau fel y Cŵps a’r Tywysogion i roi gwefr ac adloniant i ni fel y gwnaethant heno. Ac unwaith eto’r wythnos hon mae’r cerddi nas darlledwyd yn adrodd cyfrolau am gryfder y ddau dîm.

Beth am y cwpled caeth hwn gan Dafydd John Pritchard, cwpled yn cynnwys y gair ‘paid’?

Dwedyd paid yw dweud y pen,
Herio rheol wna'r awen.

Neu, yn wir, englyn yr un bardd i unrhyw gêm blant?

Pob dydd fel chwarae cuddio yn fy mhen,
gan fy mod yn chwilio
enwau coll cyrion y co’,
dyna benyd neb yno.

Ac o bosib tasg yr englyn oedd un o gystadlaethau gorau’r noson, gydag Iwan Bryn James o’r Cŵps yn cynnig hwn i ‘Snakes and Ladders’:

Er esgyn fyny'r ysgol - ar ein hynt
Tua'r nod terfynol,
Yn hawdd gallwn lithro'n ôl
I lain arall flaenorol.

Ac fe ganodd Y Tywysogion hwythau un englyn i’r un gêm:

Fe lamaf, y cyflyma, – i esgyn
pob ysgol i’r copa:
ond sarff hy fy nenu wna
ar ras i’r sgwariau isa!

Ewch, serch hynny, at wefan Y Talwrn i ddarllen englyn ysgubol Huw Meirion i’r un gêm eto fyth. Mae’n berl.

Cofiwch, fel sy’n nodweddu timau talwrn da, nid yr awen ddwys yw unig dant y Cŵps na’r Tywysogion. Beth am y limrig hwn (yn cynnwys y llinell ‘Petaswn i’n dalach ryw fymryn’) gan Geraint Williams o’r Cŵps?

Petaswn i’n dalach ryw fymryn,
Ac eto’n fwy cydnerth o dipyn,
A taswn dan swyn
A’m gwnâi yn llai mwyn,
Fe sychwn fy nhrwyn â Mei Macyn.

Ac, fel sydd hefyd yn nodweddu timau da, roedd ymwybyddiaeth o’r byd cyfoes yn amlwg yn y cynhyrchion heno. Mor amserol, er enghraifft, oedd y pennill ymson hwn, pennill wrth agor ebyst:

Ein cyfrinach fach ni a neb arall
Yw cynnwys y neges fach hon,
Rhai pethau na allen ni gadw
Yn ddiogel o dan ein bron.
’Sdim diben i mi chwalu’r neges,
Cadw copi mewn drôr yn y seld,
Bydd eraill cyfrinachol yn rhywle
Yn barod wedi mynnu ei weld.

Y Tywysogion

Y Rownd Derfynol sydd nesaf, a honno rhwng Aberhafren a’r Cŵps. Ac er mod i heb weld sgap o’r cynnyrch eto, mae’n argoeli’n glasur!

Mae Rownd Derfynol y Talwrn yn cael ei darlledu o'r Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych am 18.30, nos Sadwrn, Awst 3, 2013.

I glywed rhaglen ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Blogiau blaenorol Ceri Wyn Jones

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 13
Y rownd gyn-derfynol gyntaf, 21 Gorffennaf 2013: Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Ble mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth?

Dyma’r cwestiwn oedd ar wefusau tîm talwrn y Tir
Mawr yr wythnos hon, a’r rheini heb Myrddin ap Dafydd wrth y llyw (yn
llythrennol) y tro hwn.

Daethpwyd o hyd i Aberystwyth yn gymharol ddidrafferth,
mae’n debyg. Ond mwy cyndyn oedd yr ysgol enwog honno, sef lleoliad y ricordiad
heno, i ddatguddio’i hun i’r beirdd coll. A bu’n rhaid aros ac aros dan haul
treuliedig Gorffennaf hyd nes i’r drindod faen lwybreiddio i’r neuadd.

Ond roedd yn werth aros, fel ag erioed yn hanes y
Tir Mawr, oherwydd fe gawsant ornest i’w chofio yn erbyn Aberhafren.

Gosodwyd y safon gyda’r dasg gyntaf un, wrth i’r
ddau dîm sgorio deg marc yr un am eu cwpledi caeth yn cynnwys y gair ‘ots’.

Yn wir, fe ddyfarnwyd deg marc bedair gwaith heno,
ac ymhlith y beirdd a elwodd ar haelioni (neu haul-ioni, o bosib) y Meuryn oedd
Rhys Iorwerth (Aberhafren) a’i gywydd yn gwahodd Russell Goodway i Ffair Tafwyl
, ynghyd â Mari George (Aberhafren) am ei thelyneg ‘Trwsio’.

Mwy na hynny, fe gafwyd gan y ddau dîm ymdrechion
wrth gefn a fyddai wedi bod yn ddewisiadau cyntaf gan y rhan fwyaf o dimau.

Cangen Aberystwyth o Ferched y Wawr oedd wedi
gwahodd Y Talwrn yr wythnos hon, ac fe
fentrais osod ‘Mae Merched y Wawr yn difaru’ fel llinell i’w chynnwys yn
limrigau’r timau. A chan wybod taw Jôs (Gareth Jones) a fyddai’n datgan limrig
y Tir Mawr, roedd gan Aberhafren y limrig hwn wrth gefn:

Roedd Merched y Wawr wedi mynnu
cael ‘motto’ gan fardd gorau Cymru,
ond Jôs o’r Tir Mawr
a’i sgwennodd, a nawr
mae Merched y Wawr yn difaru.

Ond roedd gan Jôs yntau ymdrechion ychwanegol, hon
er enghraifft:

Mae Merched y Wawr yn difaru
Cael noson atgofion am garu:
Bu Efa Ty’n Pant
Yn rhestru’i holl blant
A dechrau esbonio pwy ddaru.

Peth prin ond comig iawn yw odl ddwbwl Gymraeg, ac
mae’n talu ar ei chanfed o’i defnyddio yn y man iawn ac ar yr adeg iawn!

Er taw ‘Hysbyseb i’r Sioe Frenhinol’ oedd testun y drydargerdd,
nid y Sioe Amaethyddol oedd pwnc cerddi’r Tir Mawr ar y dasg hon. Sioe
frenhinol o fath arall aeth â’u bryd nhw:

Perfformiad
bythgofiadwy
Gawn
gan y wraig a’i gŵr;
Yn
cychwyn naw mis union
O’r
dydd cyn tyrr y dŵr.

Ie,
perfformiad!

Nid ar chwarae bach
mae curo’r Tir Mawr, ond wrth ddarllen telyneg Owain Rhys ‘Trwsio’, mae rhywun
yn dod i ddeall pam taw Aberhafren a gariodd heno, a pham eu bod nhw yn un o
dimau mwya dansierus y blynyddoedd diweddar.

Ymddiheuriadau felly i Owain na
chefais gyfle i grybwyll y gerdd ganlynol yn ystod y rhaglen. Os yw’n unrhyw
gysur iddo, byddai hon hefyd wedi haeddu marciau llawn:

Roedd dy weld yn annisgwyl,

yn
anorfod,
ein
cyfarch yn atsain
fel tafarn
wag,
yr
hergwd-gwtsh ’na
sydd rhwng
dynion
yn
lletchwith gysurus.

Holi hynt
hwn a’r llall.
“A
thithau?”
“Ti’n
gwbod...”

A’r
dagrau’n rhedeg.

Ro’t ti’n
dda’n rhedeg –
rhedeg
rhag dy dad
a rhedeg
rhag dy frodyr.

Ac yn dy
lygaid simsan
rwy’n
gweld eu dyrnau, a gwaeth.

Es i gyda
thi, weithiau,
i furddun
ein haf,
i draeth
oedd yn llawn cariadon,
i ben
draw’r byd
ac yn ôl,
ond ddim
ers sbel.

Rhwygo
rhifau ar bapur,
ac addo
ffonio,
i bwytho
amser,
gan wybod
fod y
niwed
wedi’i
wneud.

Ymlaen ag Aberhafren felly i’r rownd derfynol am y pedwerydd
tro yn y bum mlynedd diwetha. Tipyn o record.

I glywed rhaglen ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Blogiau blaenorol Ceri Wyn Jones

Pwyso a mesur Llyfr y Flwyddyn 2013
Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2012 ac un o'r awduron ar restr fer y wobr Saesneg eleni, Jon Gower, sy'n pwyso a mesur enillwyr 2013 a gwerth y wobr sy'n rhoi "hwb creadigol aruthrol" i awduron.

Wedi beirniadu'r gystadleuaeth hon unwaith yn y gorffennol dwi'n gwybod yn union pa mor anodd yw dewis enillydd, yn enwedig o gofio bod yn rhaid pwyso a mesur rhyddiaith yn erbyn barddoniaeth a barddoniaeth yn erbyn sgrifennu creadigol ffeithiol.

Ond hawdd deall yr unfrydedd ar ran y beirniaid eleni wrth iddynt ddewis Yr Erlid gan Heini Gruffudd, yn enwedig o'i glywed yn esbonio taw nid fe oedd gwir awdur y gwaith, ond yn hytrach y cwmwl tystion, aelodau o'i deulu megis ei fam Kate wnaeth ddioddef cymaint dan gysgod Hitler adeg y rhyfel, yn ystod ymosodiadau Kristallnacht, yn y gwersylloedd dieflig neu wrth ffoi i lefydd megis Cymru.

Mae'n dipyn haws na deall sut yr oedd dyn "gwaraidd" yn yr Almaen yn medru gwrando ar Beethoven, neu ddarllen Goethe cyn mynd i'w waith bob dydd yn erchylltra gwersylloedd megis Ravensbruck neu Auschwitz.

Llyfrau chwaraeon

Haws oedd cytuno gyda'r dewis yma na gyda dadl cadeirydd y beirniaid, Alun Gibbard, y dylid ystyried mwy o gofiannau a 'sgrifennu am chwaraeon yn y gystadleuaeth, oherwydd bod y rhain yn gwerthu'n dda a bod 'na ddim perthynas rhwng gwerthiant a chystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn ar hyn o bryd.

Mae hynny'n ddigon gwir ond nid yw gwerthiant yn unrhyw warant o safon, yn enwedig yn y mathau yma o sgrifennu yn y Gymraeg.  Prin iawn yw'r esiamplau disglair yn fy mhrofiad i.

Canfod llais

Rhyfedd oedd gweld y cyflwynydd teledu siriol Aneirin Karadog heb wên ar ei wyneb yn derbyn y wobr am farddoniaeth, nes sylweddoli taw syfrdandod oedd yn achosi hyn, a'r bardd ifanc, hyderus hwn wedi dod yn agos iawn at ennill sawl cystadleuaeth yn y gorffennol.

Ond yn O Annwn i Geltia mae ei lais yn glir ac yn gyhyrog a rhythmig: 'Canfyddais fy llais a dyma fe' fel mae'n dweud yn y rhagair.  Enillydd pum-ieithog a haeddiannol iawn.

A da oedd gweld Manon Steffan Ros yn gwenu'n ffit i ddau wrth dderbyn y wobr am y ffuglen gorau, yn enwedig oherwydd bod ei nofel yn un darllenadwy a hynod boblogaidd yn barod, un o'r llyfrau prin hynny sy'n sgubo'r darllenydd ymlaen.

Doniol a deifiol

Ond nid oedd hyd yn oed ei gwên hi'n cymharu gyda'r un llydan iawn ar wyneb Rhian Edwards, enillydd nid yn unig gwobr barn y bobl am ei chyfrol ddoniol a deifiol Clueless Dogs, ond hefyd gwobr Roland Mathias a'r wobr fel Llyfr y Flwyddyn yn Saesneg.  A hithau'n disgwyl babi cyn hir roedd ennill y wobr ariannol yn hynod amserol, meddai.

Mae unrhyw un sydd wedi clywed y berfformwraig yma o Ben-y-bont yn darllen ei gwaith, ac yn canu i gyfeiliant iwcalili yn gwybod yn iawn yn union sut ddawn sydd ganddi, ac ansawdd y suo-ganeuon sydd i ddod!

A rhaid imi longyfarch fy ffrind John Harrison enillodd y categori ffeithiol greadigol yn Saesneg eleni gyda'i lyfr am arloeswyr yr Antarctig.  Yn gynharach eleni bu'n brwydro cancr.  Nes ymlaen eleni bydd yn dilyn llwybr Cortez ar draws Mecsico.  Mae'n ddyn hynod o gryf ac yn awdur arbennig iawn, iawn.

Hwb creadigol

Beth yw gwerth y gystadleuaeth?  I mi, roedd ennill llynedd wedi rhoi hwb creadigol aruthrol a dwi wedi cychwyn sgrifennu nofel newydd sydd, yn fy mhen o leiaf, yn hirach nac unrhyw un o lyfrau Wil Garn!  Mae'n uchelgeisiol mewn ffyrdd eraill hefyd, gan ddilyn y prif gymeriadau o America Ganol i Alasca ac yn ôl i Arizona ac mae'r uchelgais a'r hunangred i fentro'r fath gyfrol yn tarddu'n uniongyrchol o ennill Llyfr y Flwyddyn, a chlywed beirniadaeth hael a deallus ar y noson.

Ond mae hefyd wedi helpu gwerthiant, gan y bydd y nofel yn siŵr o werthu ddwywaith neu deirgwaith y nifer o gopïau yn sgil y wobr, efallai dwy fil yn y pen draw.

Cefais wahoddiad i recordio'r llyfr ar gyfer y deillion a phleser digamsyniol oedd recordio pob gair yn ei stiwdio fach ym Mangor, gyda ffrind newydd, Bryn, wrth y controls. Ac mae 'na bleser hefyd cwrdd â darllenwyr – a gwrandawyr hefyd – ar hyd a lled Cymru sydd wedi ei mwynhau hi, ac un yn arbennig, sef fy ngwraig Sarah, wnaeth gwpla darllen neithiwr.   Diolch fyth wnaeth hi fwynhau.

Mae'r sustem newydd o ddosbarthu'r rhestr fer i dri chategori wedi dechrau setlo, er bydd mwy o gyfrolau rhyddiaith i'w didoli bob blwyddyn na barddoniaeth, sy'n dod a'i fath arbennig o anhegwch.

Efallai mai'r ffordd ymlaen yw cael rhestr hir o 10 cyfrol, gan rhoi hawl i'r beirniaid i ychwanegu un cyfrol i unrhyw gategori.

Ond nid nawr yw'r amser i gecru na chwyno na diwygio. Neithiwr gwelsom pa mor gyfoethog a chyhyrog a chyfoes yw cynnyrch ein sgwennwyr yn y ddwy iaith.  Mae 'na hyder yn y dweud, a gwirioneddau i'w darganfod ar y tudalennau.  Mewn cyfnod pan mae adolygu yn crebachu mae pwysigrwydd y math yma o ffenest siop, i arddangos cyfoeth o awduron, yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn.

Gwrandewch eto ar raglen Stiwdio yn fyw o'r seremoni nos Iau, Gorffennaf 18 2013

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 9
Rhaglen gyntaf rownd yr 8 olaf, 23 Mehefin 2013: Neuadd Llanystumdwy

Roedd talyrna yn Llanystumdwy yn esgus i’r Meuryn fynd am
dro i’r gorffennol heno.

1975 oedd y flwyddyn.  A’n teulu ni (am y tro cyntaf a’r tro olaf) yn
cael wythnos o wyliau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a oedd yn cael ei chynnal
y flwyddyn honno yng Nghricieth ym Mro Dwyfor.

Wythnos mewn carafan ym Morfa Bychan (er nad oeddem yn
berchen ar garafan!), a hynny yng nghwmni sawl teulu ifanc arall o Aberteifi.
Wythnos o fellt a tharanau.

Dyna oedd fy ymweliad cyntaf i â’r ‘Gogledd’, ac ymysg y llefydd
ecsotig roedd yn rhaid talu gwrogaeth iddyn nhw’r wythnos honno oedd
Llanystumdwy, a bedd David Lloyd George
yn benodol, er nad oeddwn i (a minnau’n saith a hanner oed) yn arbennig o impressed a dweud y gwir.

Beth felly oedd uchafbwynt yr wythnos honno? Ai awdl
fuddugol Gerallt Lloyd Owen ar y testun ‘Afon’ (testun addas iawn o gofio’r
tywydd mawr)? Nage.  Ai rhyfeddod y
machlud dros Benrhyn Llŷn? Nage wir. Uchafbwynt yr wythnos i ni blant oedd
gweld Mr Alun Tegryn Davies yn ei dryncs (rhai marŵn) wrth i’r teuluoedd fynd i
nofio y peth cynta bob bore.

A pham fod hyn yn uchafbwynt? Wel, Alun Tegryn oedd ein
prifathro ni i gyd yn Ysgol Gynradd Aberteifi ar y pryd, a go brin y gwelsom ni
ef erioed mewn unrhyw beth heblaw siwt a thei!

A beth sydd a wnelo hyn â thalwrn rhwng timau’r Tywysogion a
Hiraethog? Dim rhyw lawer, mae’n debyg. Yr unig gysylltiad o bosib oedd y
ffaith i ni ricordio’r ornest yn Neuadd Llanystumdwy, neuadd a agorwyd yn
swyddogol yn Hydref 1912 gan neb llai na’r Lloyd George hwnnw y bûm yn ymweld
â’i fedd e 38 o flynyddoedd yn ôl!

Roedd un o drigolion amlyca’ Llanystumdwy yn aelod o dîm Y
Tywysogion heno, sef y Prifardd Twm Morys, yr hwn sydd yn hel ei bac tua Gŵyl
Werin y Smithsonian yn Washington cyn bo hir.

Ond rwy’n siwr y byddai Twm yn
barod i ildio fod ’na aelod hyd yn oed yn bwysicach nag e yn y tîm heno, a
hwnnw oedd Guto Dafydd, enillydd coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir
Benfro 2013, neu Eisteddfod Genedlaethol Clwb Rygbi Crymych a’r Fro ar lafar
gwlad.

Mae Guto wedi bod yn curo ar ddrysau tebyg ers blynyddoedd,
a chanddo ef y ces i un o’r cyfaddefiadau mwya doeth a gonest ag a glywais gan
awdur ifanc erioed: ‘Dwi’n falch mod i heb ennill tan nawr’, gan ei fod e
gymaint yn falchach o’r gwaith a ddanfonodd i’r gystadleuaeth eleni na’r hyn a
weithiwyd ganddo yn y gorffennol. (Mae’n debygol taw ‘rŵan’ nid ‘nawr’ a
ddyweddodd e go iawn, dwi’n cyfadde!)

Beth bynnag, o ran yr ymdrechion nas dewisiwyd i’r
darllediad, roedd y cwpledi hyn gan Ffion Gwen a John Glyn Jones:

Fy her sy’n haf i eraill
am mai poen i mi yw
paill.

Hiraethog

Un gafod o baill gyfyd
Y bardd yn brifardd rhyw bryd.

Hiraethog

Mae’r cyntaf yn cynnwys, yn ôl arfer Hiraethog erbyn
hyn, y gair bach llawer-rhy-gyfleus-a-hollgynhwysol
-ei-ystyr-a-honedig-ddibendraw-ei-arwyddocâd, sef ‘her’, tra bod llinell gyntaf
yr ail yn cynnwys y bai cynganeddol a elwir proest i’r odl (‘gafod’/’gyfyd’).
Does dim hawl cynganeddu dau air sydd yn gorffen â’r un cytseiniaid os yw
llafariaid eu sillaf olaf o’r un hyd, yn yr achos hwn ‘od’ ac ‘yd’. Dwi’n
difaru sgrifennu’r frawddeg ola’ ‘na’n barod!

Beth am orffen â rhywbeth mwy gwamal:

Gofynnais yn gwrtais i’r plismon
“Lle gebyst aeth Castell Caernarfon?”
“Pan glywodd criw'r Blac
fod ail Arwisgo on-trac
mi
ddymchwelon nhw’r cyfan, y cnafon!”

Y
Tywysogion

I
glywed rhaglen ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi
ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio
Cymru.

Blogiau blaenorol Ceri Wyn Jones

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 8
Rownd 1, rhaglen 8, 16 Mehefin 2013: Neuadd Ffostrasol

Peth
peryglus iawn yw i fardd fod yn absennol o ricordiad Y Talwrn.

Wedi’r
cwbwl, onid haws i feuryn di-asgwrn-cefen ymosod yn ddidrugaredd ar gerddi’r
bardd hwnnw yn ei gefen nag yn ei ŵydd?! Yn enwedig pan ddaw’r meuryn gwan hwnnw
i wybod taw yn Eastbourne mae’r bardd absennol y noson honno!

Roeddwn
i nôl yn Ffostrasol yr wythnos hon, ac roedd capten tîm Ffostrasol – sef un o’r
timau sydd wedi bod yn cystadlu ar Y
Talwrn ers 1979 – Dai Rees Davies yn Eastbourne.

Mae
Dai yn un o feirdd mwyaf poblogaidd y gylchdaith darlyrnol, yn lleol a
chenedlaethol, ond rwy’n ofni fod ei glustiau e’n llosgi’n ddiogel heno gyda’r
math o dynnu coes iach sy’n nodweddiadol o dimau talwrn y parthau hyn.

Gwrthwynebwyr
y tîm cartre oedd Tanygroes a’r Ffoaduriaid ac fe gawsom ornest dda iawn.

Yr
uchafbwynt, mae’n siwr, oedd cwpled deg-marc Gruffudd Owen o’r Ffoaduriaid, ond
roedd englyn a chywydd Philippa Gibson o dîm Tanygroes ddim yn bell ar ei ôl e.

Roedd
gan Emyr Jones, Oernant, yntau gywydd da ar y testun ‘Rhigol’:

Gwelaf ryw fân rigolau
Yn y llwch yn ymbellhau,
Yno’n rheng maent mewn pared
O rigol dant yr oged.
Llawn o nwyd o’r pridd llwydwyrdd
Fry i’r gad mewn lifrai gwyrdd.
Dônt ‘dros y top’ yn sopen
A phob llanc yn ifanc hen.
Dônt mewn ffydd ar hwyrddydd ha’
Yn filwyr i ryfela
Ar y llain, i safio’r llu
Hunanol rhag newynu.

Tan-y-groes

Ond
mae cynganeddwyr disglair yn nhîm y Ffoaduriaid hefyd, fel y mae’r cywydd
canlynol gan Llŷr Gwyn Lewis, cyflwynydd newydd y rhaglen Stiwdio ar Radio Cymru, yn tystio:

(Dyn y traeth)

O’r garafan, bob
trannoeth,
cyn bod gwên y
bore’n boeth,
gwyliem gêm hen
ddyn o’i go,
rhubanwaith ei
gribinio.

Gwaith oesol ei
gaethwasiaeth
ydoedd hau
patrymau’r traeth,
cyn dôi’r haid
a’u cinio’n drên
i strywio ei gystrawen.

Yna’n ddof, ar
ben ei ddydd,
wedi heidiau’r
diwedydd,
dôi, erioed,
drachefn i drin,
y gŵr heibio â’i
gribin.

Y
Ffoaduriaid

Roedd
Llŷr yn credu bod hwn yn drech cywydd na’r un o’i eiddo a ddewisais i ar gyfer
y darllediad. A phwy a ŵyr nad oedd e’n iawn, oherwydd po fwyaf y darllenwch
chi hwn, y mwyaf eglur y daw’r darlun o’r hen ddyn truenus hwn wrthi’n ymroi i
dasg sydd yn ofer ond (iddo e) yn angenrheidiol.

Un
o sgîl-effeithiau anffodus y gohirio a fu ar gyfres Y Talwrn eleni yw’r ffaith ein bod ni wedi gorfod colli rownd gyfan
o ornestau. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi
golygu colli nifer o dimau da iawn ar ôl un ornest yn unig eleni, ac mae’n
chwith gen i na chlywn ni eto eleni gyfraniadau timau fel Y Glêr (pencampwyr
2012) a’r Ffoaduriaid a Ffostrasol ayyb.

Yn
wir roedd gan Danygroes gwpled o anogaeth i holl feirdd Y Talwrn – y sawl sy’n cystadlu eleni, y sawl a benderfynodd gael
hoe am wahanol resymau eleni, ac, rwy’n mawr obeithio, y sawl sydd yn awyddus i
ffurfio tîm i gystadlu yn y gyfres nesaf (ac os ydych yn ystyried gwneud hynny,
cofiwch gysylltu â chynhyrchydd y rhaglen, sef Catrin Huws, yn y BBC):

Rhown yn hael i’n Talwrn hy
rhag ofn bod rhai ar gefnu.

Nid bod yr
ansoddair ‘hy’ yn talu am ei le, ond mae’r ergyd gyffredinol yn glir.

Ond, fel sy’n draddodiadol bellach pan ddaw timau Ffostrasol
a Thanygroes i’r un neuadd, rwy am gloi gyda limrig un o gyn-aelodau dawnus
Tanygroes, sef Ken Griffiths, Ken y Graig:

Aeth beirdd Tanygroes a Ffostrasol
fel uned i ornest dalyrnol
Ac wedi peth dadlau
fe unwyd eu henwau
a’u galw yn dîm Tanyrasol.

I glywed rhaglen ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Blogiau blaenorol Ceri Wyn Jones

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 7
Rownd 1, rhaglen 7, 9 Mehefin 2013: Neuadd Ffostrasol

Heno oedd ymweliad cyntaf Y Talwrn erioed â Neuadd Ffostrasol.

O leia dyna ddwedodd aelod o bwyllgor y neuadd wrtha’i funudau cyn cychwyn ricordio. Ac fe gyhoeddais hynny i’r dorf frwd a lenwai’r neuadd yn gyfforddus.

Ond, yn ôl y modd yr oedd gwraig un o dalyrnwyr mwya' profiadol y parthau hyn yn ysgwyd ei phen, mae’n bosib nad gwir y gair!

Ta waeth am hynny, un o dimau mwya’ profiadol y gyfres, sef Crannog, oedd yn feistri corn heno.

Nid pob tîm fyddai wedi llwyddo i oroesi’r golled a gawsant bedair blynedd yn ôl pan fu farw un o’u haelodau mwya’ disglair, ac un o ddynion mawr y Gymru Gymraeg, sef Dic Jones.

Roedd Dic yn dalyrnwr dansierus, yn gystadleuol wrth reddf, ac yn brawf digamsyniol nad cyfres i brentisiaid yn unig mo’r Talwrn.

Ac roedd Cymro mawr arall yn destun i gywydd tîm Crannog heno, sef y Dr Meredydd Evans, cywydd deg-marc y byddai Dic ei hun wedi bod yn browd ohono.

Roedd awdur y cywydd hwnnw, Idris Reynolds, wedi gweithio cywydd arall ar gyfer yr ornest hefyd.

Gwaetha’r modd, at dasg y gerdd rydd neu gerdd mewn mydr ac odl y gweithiodd e’r ail gywydd hwn, a hynny ar y testun ‘Ysgol’:

(Y model Scandinafaidd o Ysgol y Goedwig lle dysgir y plant yn yr awyr iach)

Yn y coed ' sdim drws yn cau
Na welydd i feddyliau
Mewn ysgol a leolwyd
Hwnt i gloriau llyfrau llwyd,
A chae o weld o'i chylch hi
Sy' heddiw'n gampws iddi.

Un ddôl o stafelloedd yw,
Un goedwig o ddysg ydyw.
Mae sgrifen yn amgenach
Ar bedwar mur awyr iach
Ac ar lwyfan y canu
Y sgwlyn yw'r deryn du.

Mae i'r gwersi storïwr,
Gyda'i chwedlau gorau gŵr,
A rhamant chwedel felen
Ddaw â lliw i dirwedd llen.
O gainc i gainc deffro gwig
A wna Gwydion y Goedwig.

Crannog

Cafodd y Meuryn a’r Prifardd o Frynhoffnant sgwrs ddiddorol iawn cyn yr ornest, a minne’n gorfod esbonio nad oeddwn i’n derbyn cerdd mewn mesur caeth (fel cywydd Idris) mewn cystadleuaeth a oedd yn nodi’n benodol fod angen naill ai cerdd rydd neu gerdd mewn mydr ac odl.

A bu Idris yn tynnu coes y Meuryn gan ei atgoffa o gerddi buddugol y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala ym 2009!

Ond fe ddwedodd e hefyd: ‘Ti yw’r Meuryn!’  Ac, i’r Meuryn hwn, beth bynnag, nid cerdd mewn mydr ac odl yw cerdd yn y mesurau caeth.

Mae cerdd mewn mydr ac odl yn cynnwys mydr sydd yn guriad rheolaidd o fewn llinell, a thros uned o linellau e.e.

‘Mae DAIL y COED yn YSTRad FFLUR’ (sillaf 1 yn wan, sillaf 2 yn gryf; 3 yn wan, 4 yn gryf ayyb).

Mae hawl, wrth gwrs, cynnwys cynghanedd mewn llinell fydr-ac-odl, e.e.

‘Mae DAIL y COED am ADael CÂN’.

Ond afreolaidd drwyddi draw yw patrymau curiadau’r mesurau caeth. Discuss!

Cafwyd sawl cynnig ychwanegol gan Crannog, ond doedd y ddau dîm arall, sef Talybont a Tanau Tawe (ie, tanau, nid tannau!) heb fod yn segur chwaith.

Hoffais i ergyd y pennill hwn o gyngor i gynghorydd:

Os wyt yn annibynnol,

Ag egwyddorion dethol,

Dilynna nico dros y dŵr,

Ti’n siŵr o gael dy ethol.

Talybont

Tra bod un o’r englynion ychwanegol i ‘Cystadleuaeth’ yn trin y testun gosod mewn modd annisgwyl a thrawiadol:

Dros ŵr a’i iachawdwriaeth – y diafol

a’r dwyfol fyn gecraeth.

Ni fusgrell; er gwell, er gwaeth,

glynwn wrth Groes Rhagluniaeth.

Tanau Tawe

A dyna gynnig dehongliad newydd i ni ar y ‘tanau’ yn eu henw!

I glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Blogiau blaenorol Ceri Wyn Jones

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 6
Rownd 1, rhaglen 6, 2 Mehefin 2013: Neuadd Bancffosfelen a Chrwbin

Talwrn difyr dros ben heno o Neuadd
Bancffosfelen a Chrwbin. (Gweler blog wythnos diwetha am berorasiwn y Meuryn ar
hyfrydwch cynhenid [a tharddiad] y gair ‘Crwbin’.)

Difyr hefyd oedd cwrdd ag aelod o’r
gynulleidfa a oedd – a hithau dros ei 90 oed – yn gallu dyfynnu stribed o
englynion ar ei chof, a’r rheini wedi eu dysgu pan oedd hi’n ddisgybl yn yr
ysgol gynradd leol, diolch i’w hathro, Mr John Emanuel.

O na byddai athrawon ar hyd a lled y
wlad wedi gallu gwneud hyn ar hyd y blynyddoedd! O ddewis yr englynion ‘iawn’,
oni byddai dysgu un yr wythnos (a) yn werthchweil (b) yn waith hawdd? Ni byddai
raid sôn am na chynghanedd na thechneg na dim oll arall. A dweud y gwir, dylsid
osgoi hynny o fwriad. Dim ond mwynhau’r sain a’r ystyr sydd ei angen, a pheidio
gwneud big deal ohono!

Ac roedd mwynhau sain ac ystyr yn
orfodol yr wythnos hon wrth i dimau Beirdd Myrddin, Y Cŵps a Thir Iarll herio’i
gilydd.

Ymysg y pethau a wnaeth fy nghoglish i
oedd penderfyniad Geraint Williams o dîm y Cŵps i ailfrandio Dewi Llwyd fel y
Jeremy Kyle Cymreig a Chymraeg.

Annisgwyl hefyd oedd gweld rapiwr gorau
Pontyberem, Aneirin Karadog o dîm Tir Iarll, yn troi’n lladmerydd ar ran yr
henoed hynny na allant hawlio’u taliadau pensiwn oherwydd nad oes ganddynt y
gallu cyfrifiadurol i’w hawlio.

Llai hyfryd, serch hynny, oedd parodi comig
Ynyr Williams ar emyn Eifion Wyn ‘Un fendith dyro im’!

Ond, i mi o leia, cywydd deg-marc Huw
Meirion Edwards a cherdd ddeg-marc Dafydd John Pritchard, ill dau o dîm y Cŵps,
oedd uchafbwyntiau’r ricordio o Fancffosfelen.

O blith yr ymdrechion nas dewiswyd ar
gyfer yr ornest, roedd y cyfaddefiad hwn gan Iwan Bryn James mewn cwpled yn
cynnwys yr ymadrodd ‘ar goll’:

Caled yw gwneud cwpledi –
Nefi wen, ar goll wyf i.

Y
Cŵps

Druan ag e!

Ac nid annhebyg oedd
cyfaddefiad Aled Evans, er bod ei ieithwedd ef ychydig yn llai ymatalgar:

Yr wyf ar goll yn hollol:
Ar awr wan daeth bygyr ôl.

Beirdd
Myrddin

Roedd yn braf cael croesawu talyrnwr
newydd i’r gyfres heno, sef Meirion Wynn Jones o dîm Beirdd Myrddin. Ef oeddd
enillydd Tlws y Cerddor yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011. Ei hawl-i-fawl diweddara
yw ei fod ef yn gyfeilydd Côr y Wiber, a enillodd gystadleuaeth Côr Cymru
eleni, a hynny gyda rhaglen gwbwl ddigyfeiliant!

Mae gan y tîm hwn Meirion Jones arall
yn eu rhengoedd, ac ro’n i’n edmygu’r cywydd Pasg y Meirion hwnnw ar y testun
‘Cynnig’, yn enwedig felly y pennill olaf gonest a thrawiadol:

Daw’r groesbren eto ‘leni
rywfodd fewn i’m hanfodd i,
a gwn fod yna fedd gwag
un annwyl, ond beth bynnag
ni welais unrhyw hoelion
nag affliw o friw ar fron.
Ac erbyn hyn sut all neb
ildio i’w dragwyddoldeb?

Eto’i boen sy’n fy mhoeni,
mae o hyd yma i mi
yn Dduw er fy nghalon ddu,
yn Geidwad er y gwadu.

Beirdd Myrddin

Pan nad yw’n goruchwylio cynhyrchu Pobol y Cwm, mae Ynyr Williams yn fardd
dansierus, fel mae’r englyn ‘Ffurflen’ yn dangos yn glir.

(I Alun Davies A.C.)

Nid drwy ffurflen a'i llenwi y gwêl hwn
gefn gwlad; sut mae cyfri
sawl oen ei phris eleni?
Mae'r inc dros fy Nghymru i.

Tir Iarll

O.N.

Pleser arall yr wythnos hon oedd cael
cwmni Catrin Huws, cynhyrchydd Y Talwrn,
drwy gydol y ricordiad. Wythnos diwetha, bu rhaid iddi, ar ôl llond dwrn o
dasgau yn unig, adael y llwyfan yn sydyn ac yn derfynol am iddi ddechrau peswch
a pheswch a pheswch, druan.

I glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Blogiau blaenorol Ceri Wyn Jones

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 5
Rownd 1, rhaglen 5, 19 Mai 2013: Neuadd Bancffosfelen a Chrwbin

Mae rhai enwau llefydd yn codi gwên.

A bob tro y byddwn ni’n eu gweld nhw ar arwyddion neu ar
fap, neu’n eu clywed nhw ar y newyddion neu mewn sgwrs, ry’ ni’n profi rhyw
foddhad anesboniadwy. Neu efallai taw dim ond fi yw hyn.

Plwmp. Slebech. Betws Bledrws. Ydy’r rhain yn eich
coglish chi? Neu beth am Bodorgan, Brechfa neu Abercwmboi?

O blith yr enwau annwyl ac ecsotig sy’n nodi hyd a lled
ein cymdogaethau ni ymhob un gilfach gefn o’r wlad hyfryd hon, mae gen i
ffefryn bach personol...

Crwbin. Ie, Crwbin. Pentre bach ar lethrau bryn serth
sy’n codi uwchlaw’r afon Gwendraeth Fach yw Crwbin. Ystyr y gair ‘crwbyn’ yw
‘bryncyn’ ac mae’n tarddu o’r gair ‘crwb’, sef ‘lwmpyn’. Ond fe all hefyd
olygu ‘rhywun cefngrwm’. A hawdd gweld, felly, o ble daeth yr enw ‘crwban’ (yn
wir, mae cofnod o 1831 sy’nodi enw’r pentre hwn fel ‘Crwban’!).

Ond beth sydd a wnelo hyn ag awen a marciau?

Wel, yn Neuadd Bancffosfelen a Chrwbin yr oedden ni’n
ricordio’r Talwrn yr wythnos hon
(neuadd sydd, mae’n ddrwg gen i ddweud wrth bobol Crwbin, yn gyfangwbwl ym
Mancffosfelen). Ac roedden ni yno ar wahoddiad Crwydriaid Crwbin, cymdeithas (o
ddynion yn unig) sydd, yn ôl un o’r talyrnwyr y bûm i’n sgwrsio ag e dros
frechdan borc-ac-afal, yn nodedig am eu hoffter o gwrw a diwylliant – yn y
drefn honno!

Ac fe gafodd y Crwydriaid dalwrn gwerthchweil heno, un
â’u cadwodd allan o’r dafarn, o leia. Timau Aberhafren, y Cnape a Glannau Teifi
oedd wrthi, ac ymysg yr uchafbwyntiau oedd ‘Diogi’, cywydd deg-marc y Prifardd
Rhys Iorwerth o dîm Aberhafren.

Ac fe gafodd Mari George (Aberhafren) ac Elin
Meek (Y Cnape) hwythau gryn hwyl famol gyda’r testun ‘Weithiau’, Mari â’i
cherdd yn y wers rydd ac Elin â’i soned.

Ond beth am y gorau o’r gweddill?

Peth personol iawn yw hiwmor, wrth reswm (gweler frawddegau
agoriadol y Blog hwn). Ac er ‘mod i’n teimlo ‘mod i’n ffyddiog o wybod pa fath
o hiwmor fydd yn fy nghoglish i, y gwir yw bod rhai pethau yn apelio heb fod
rheswm yn y byd am hwnnw. Fel cwpled Rhys Iorwerth yn cynnwys yr ymadrodd ‘ar
ben’:

Ofni ei bod hi ar ben
yn y môr wna maharen.

Aberhafren

(Nid bod defaid yn boddi yn destun digrifwch ohono’i hun,
rwy’n prysuro i ddweud.)

Oni bai bod hwn yn gwpled cynganeddol, mae’n debyg na
fyddai wedi codi gwên, h.y. y wisg gain o eiriau difrifol sy’ wedi ei gosod ar
y pŵr dab gwlanog, pedeircoes sy’n chwerthinllyd.

Rhag ofn, gyda llaw, bod yr anoracs yn tybio iddyn’ nhw
sbotio gwall yn llinell gynta’r cwpled, teg dweud bod rhaid ynganu ‘bod hi’ fel
ymadrodd diacen (‘BODhi’) – fel sy’n arferol ar lafar, beth bynnag – i bontio’r
gynghanedd sain. Mae ‘ofni’ felly yn odli gyda ‘bod-hi’ sydd yn ei dro yn
cynganeddu gyda ‘ben’.

Cafwyd sawl englyn da ar y testun ‘CV’. Ffurflen ymgeisydd aflwyddiannus a gawson ni gan Geraint Volk,
a’r trosiad yn magu nerth wrth fynd rhagddi:

Dyrys ei gymwystere, - un llinell
Unig o brofiade;
Un go gul yw ei gae e
Yn wir, a’r chwyn yn chware.

Glannau Teifi

Ie, ‘un go gul yw ei gae e’. Cynnil iawn.

Petaswn i
wedi cael y dewis, yr englyn hwn o waith Elin Meek fyddai wedi mynd â hi ar y
noson, serch hynny:

Rhown sêr ein
cymwysterau a galaeth
golud ein
profiadau
mor gelfydd;
yn gudd rhaid gwau’n
hanallu rhwng
llinellau.

Y Cnape

Oes, mae camp mewn cuddio ein
ffaeleddau mewn CV, fel yng nghwrs
ein bywydau yn gyffredinol.

I glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Blogiau blaenorol Ceri Wyn Jones

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 4
Rownd 1, rhaglen 4, 12 Mai 2013: Maes-y-waun ger y Bala

Fel roeddwn yn awgrymu’r wythnos dwetha, peidiwch, da chi, â
chredu popeth sydd ar y we, y we honedig fyd eang.

Ces brawf digamsyniol o hyn wedi i mi deipio ‘Neuadd
Maes-y-waun Y Bala’ i mewn i Google, a hynny cyn gwneud y daith ddwy-awr-a-hanner(ish)
o Aberteifi i’r Bala i ricordio talyrnau’r wythnos hon a’r wythnos dwetha.

Y nod oedd cael hyd i gôd post, a gadael i’r TwmTwm wneud y
gweddill.  Simples, chwedl Williams-Parry.

Cofiwch, dwi i a’r satnav
ymhell o fod yn ffrindiau gorau. Ac fe fydd rhai o selogion Y Talwrn yn gwybod i mi gael peth
ffwdan wrth geisio dod o hyd i Lansannan yn ystod cyfres y llynedd oherwydd i
mi ymddiried yn llwyr yn anffaeledigrwydd y teclyn hwnnw.

Fe’m danfonodd y
noson honno, ynghanol niwl mis Chwefror, hanner ffordd lan Mynydd Hiraethog,
cyn iddo ddatgan (yn smyg reit, os cofia’i’n iawn): ‘You have arrived at your
destination’.

Wedi i mi, yn hwyrach y noson honno, gyrraedd Llansannan
(sydd ddim, gyda llaw, hanner ffordd lan Mynydd Hiraethog o bethe’r byd), bu
raid i mi weithio englyn i waredu’r rhwystredigaeth ac embaras, englyn yn
cyfarch y lloeren a’m harweiniodd i ar gyfeiliorn:

Er i’th
DomTom faentumied ei fod ef
wedi diâll y
blaned,
nid oedd,
mwy na’r Meuryn, dwed,
y TomTom
werth un tamed!

Beth bynnag
am ‘llynedd, fe wglais ‘Maes-y-waun’ ‘leni. A chael yr ateb anfarwol, yr union
ateb yn wir ag a ddisgwyliech ei gael gan tobacconist
diog: ‘No matches found’.

Es wedyn i’r AA Route Planner, ond roedd hwnnw
hefyd yn gwadu bodolaeth y gymdogaeth fach hon yn Sir Feirionnydd (rhwng
Rhyduchaf a Llidiardau).

Ond, yn y
pendraw, diolch i ddau fap a dau brifardd, cyrhaeddais!

I beth,
meddech chi, dwi’n ailgynhesu’r hen, hen hanes hwn. Wel, oherwydd taw prin iawn
oedd ymdrechion ychwanegol beirdd Penllyn, Y Glêr a Hiraethog ar Y Talwrn yr wythnos hon.

Dim ond un
cynnig yr un ar bob tasg a gafwyd ganddynt y tro hwn, a hynny’n gwneud gwaith y
Meuryn ymlaen llaw gymaint â hynny’n haws, ond yn gwneud ei waith o gyfansoddi
blog o dan y teitl ‘Y Gorau o’r Gweddill’ yn broblematig!

Dwi’n dweud
celwydd nawr. Mi roedd ’na un cynnig ychwanegol gan y tîm lleol, sef Penllyn,
ar y dasg agoriadol, sef cwpled yn cynnwys yr enw ‘San Siôr’, a dyma hwnnw i
chi:

Wedi  yfed ’da Ifor
Meg sy’n sick ym mog San Siôr

Penllyn

Pwy yw Ifor,
meddech chi, yr hwn oedd ei wrhydri a’i wydryn yn drech na Meg druan? Pwy yw
Meg? Pwy neu beth yw (neu ble mae) San Siôr a’i fog? Dyma rai o’r cwestiynau
nad oes neb sydd â hanner bywyd ganddo neu ganddi yn eu gofyn, gobeithio!

Roedd yr
ornest heno yn un dda (unwaith eto): cywydd Rhys Dafis o dîm Hiraethog yn
glasur o ddoethineb a gonestrwydd telynegol.

Cywydd da hefyd gan Eurig
Salisbury o dîm y Glêr, er ‘mod i wedi gorfod cyhuddo Eurig, yn gyhoeddus, druan,
o’r bai trwm ac ysgafn yn y llinell gyntaf, sef ‘As if ar wyneb FIFA’. (Chi sydd ddim yn hoff o anoraciaeth
cynganeddwyr, drychwch i ffwrdd nawr.) Nid yw’r sain ‘iff’ sydd yn y gair
Saesneg ‘if’ yn odli gyda’r sain
‘îff’ sydd yn sillaf olaf ond un y gair ‘FIFA’, er eu bod nhw’n edrych yr un
peth ar bapur. (Drychwch nôl nawr.)

I glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Blogiau blaenorol Ceri Wyn Jones

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 3
Rownd 1,
rhaglen 3, 5 Mai 2013: Maes-y-waun ger y Bala

Roedd
adnoddau daearyddol y We yn amau bodolaeth Neuadd Maes-y-waun, lleoliad
ricordio’r Talwrn heno. Felly dyma
fi’n ffonio fy nghyfaill tra gwybodus, y Prifardd Tudur Dylan Jones, am
gyfarwyddiadau. Roedd hwnnw ar y ffordd i Old Trafford, ond fe addawodd
ffonio’n ôl – a hynny ar ôl iddo gysylltu â’r Prifardd Elwyn Edwards (neu Swêl
ar lafar gwlad), yr hwn sydd ganddo wybodaeth gyfrin (a lleol!).

A, do wir (a
diolch i’r ddau brifardd), cafwyd cyfarwyddiadau i’r dim. Ac mae’n amlwg bod
criw go lew o’r bobol leol hwythau wedi cael cyfarwyddiadau tebyg, yn ôl y dorf
frwd a diwylliedig a ddaeth ynghyd i wrando ar gampau’r beirdd ac i yfed te.

Siom fawr y
noswaith oedd fod tîm Ysgol Dyffryn Conwy wedi gorfod tynnu allan o’r ornest, a
hynny oherwydd cyfuniad o anawsterau.

O
wybod am y pwysau sydd ar athrawon a myfyrwyr fel ei gilydd, mae’n gamp eu bod
nhw, fel tîm Ysgol y Berwyn yn wir, yn llwyddo i gefnogi’r gyfres gystal o
flwyddyn i flwyddyn.

Edrychwn ymlaen at gael cwmni Andrea Parry a’i chriw yn
ystod y gyfres nesaf, ac, o bosib hefyd, os yw’r sïon i’w coelio, gael cwmni
tîm ysgol arall.

Cafwyd
gornest dda rhwng y ddau oedd yn weddill, sef Criw’r Ship a’r Manion o’r
Mynydd, ac er cystal oedd yr englyn ar y pryd a gawsom gan y Manion  ar ddiwedd yr ornest, roedd ffraethineb  beiddgar tasgau ysgafn Criw’r Ship wedi
sicrhau y byddai hanner marc o fwlch rhyngddyn’ nhw â’u gwrthwynebwyr. Na
ddiystyrrwch yr awen lawen.

Yr oedd
aelod newydd ifanc yn rhengoedd y Manion, sef Ioan Gwilym, un a fu yn astudio
Ysgrifennu Creadigol yn Lerpwl hyd at yn ddiweddar, ac roedd yn braf cael ei
gwmni.

Ychydig ar ôl y darllediad, dyma ddod i ddeall taw mab y diweddar
Phyllis Evans ydoedd, a hithau wedi bod tan llynedd yn un o aelodau’r Manion.
Yn wir, rhaglen er cof am Phyllis oedd y darllediad hwn.

Cymharol
ychydig o gynigion ychwanegol a gafwyd gan y timau ar bob tasg yr wythnos hon,
ond, yn eu plith, roedd sawl un gogleisiol.

Dewisodd
Gari Wyn ein hatgoffa o’r rheswm y bu gohirio ar y gyfres bresennol o’r Talwrn o gwbwl:

Ie'n ddi os,
Eos ddaeth
a'i 'Na'n
herio Corfforaeth.

Criw’r Ship

(Faint ohono’ chi, anoraciaid yr acen, sy’n derbyn yr ail linell fel
un gywir? A oes hawl cynnwys dwy ‘n’ wreiddgoll? Neu ai cyfri’r ddwy yn un a
wneir? Rwy’n cofio’r Prifardd Idris Reynolds yn cloi englyn ar Y Talwrn gyda’r llinell ‘Yn un maen, yn
glawdd mynydd’...)

Cwpled
crafu-pen a gafwyd gan Nicci Beech wedyn.

Y 'na' sydd
yn synnu un
a'r 'ie'n synnu rhywun.

Criw’r Ship

Am wn i nad
yw hi’n dweud bod barn groes ar bopeth dan haul (gan gynnwys ar gerddi beirdd Y Talwrn!)

Mae lladd ar
eich gwrthwynebwyr ar lawr y talwrn yn draddodiad anrhydeddus. Ond mae iddo ei
beryglon, fel y bu i’r Manion ddarganfod:

Hanner
tabled fach wnaiff godi
Cân beirdd
Manion i’ch sirioli,
Cân Criw’r
Ship a Chonwy ddaru
Yrru Ceri
Wyn i gysgu.

Manion o’r
Mynydd

Gwaetha’r
modd, doedd y Manion ddim i wybod wrth lunio’r pennill difyr hwn na fyddai tîm
Ysgol Dyffryn Conwy yn bresennol ar y noson!

Roedd yn
chwith gen i beidio â chynnwys y gerdd rydd nesaf hon yn y ricordiad, oherwydd
mae rhywbeth ffres amdani, o ran ei dweud a’i phwnc:

Diosg

Un gyda’r
nos
annisgwyl
obeithiol,

llwyddodd
dau
i ddatod
pwythau plentyndod
a gadael i’r
defnydd brau
lithro’n
ofalus
tua’r llawr

a
chofleidio’n
gyffyrddus

gyffrous.

Manion o’r
Mynydd

O.N. Nid y
We yn unig sy’n cael trafferthion daearyddol. Roedd Blog y Talwrn wedi awgrymu
wythnos dwetha taw yn Nhwrci y mae Marrakech.
Er mawr ryddhad i’r ddinas honno, mae’n para i fod ym Morocco.
Ymddiheuriadau!

I
glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi
ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio
Cymru.

Blogiau blaenorol Ceri Wyn Jones

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 2
Rownd 1, rhaglen 2, 28 Ebrill 2013: Llan Ffestiniog

Rywsut, dyw’r geiriau ‘talwrn’ a ‘Turkish bath’ ddim yn cadw cwmni â’i gilydd mewn brawddeg yn amal.

Ond pe na bai am gywydd Marc Lloyd Jones i gefnogwyr Wrecsam yn palu llwybr drwy’r eira i gyrraedd Wembley eleni, dyna fyddai wedi digwydd yn Llan Ffestiniog heno!

Timau Tegeingl, Bro Alaw a’r Tywysogion oedd yn cystadlu am le yn yr wyth olaf, ac yng nghystadleuaeth y cywydd, roedd Tegeingl wedi cyflwyno tri o gywyddau ar y testun ‘Awyr Iach’, a’r Meuryn wedyn, cyn cychwyn yr ornest, yn gorfod dewis pa un o’r tri y byddai’r tîm yn ei ddarllen ar y noson.

Er nad oedd amheuaeth nad cywydd Marc oedd y gorau o’r tri, roedd rhyw ran fwy drygionus na’i gilydd ohonof yn cael fy nhemtio i adael i Dafydd Evan Morris ddarllen ei gywydd e, er mwyn i’r gwrandawyr gael clywed ychydig o hanes ymweliad Dafydd â Twrci’n ddiweddar.

Nawr, mae ’na draddodiad anrhydeddus, wrth gwrs, o feirdd Cymraeg yn canu i leoliadau tramor yn sgîl eu hymweliadau â’r mannau ecsotig hyn. Does ond rhaid enwi T. H. Parry-Williams a’r ‘Ferch ar y Cei yn Rio’ i’n hatgoffa nad dim ond chwarel a mynydd a chwm a Chilmeri y mae’r beirdd yn eu cyrchu.

Ond, am wn i, cywydd Doctor Dafydd yw’r cyntaf o’i fath i’w leoli mewn baddondy Twrcaidd ym Marrakech.

Awyr Iach  (yn Hammam Marrakech)

Onid hoff yw cofio'n taith
i faddon Hanon unwaith?
Yn undies y baddondy
neu yn noeth yn drachtio'n hy
lond stafell stêm i'n gwella -
berw dwr at 'buro da'
yng nghwmni pobl ddiarth
yn llu twt, anadlu tarth,
Dod allan yn ddyn glanach:
Wele'r hwyl o'r 'awyr iach'.

Tegeingl

Galwch fi’n hen ffasiwn, ond dw i, ar y cyfan, ddim am orfod dychmygu beirdd Y Talwrn a’u cyd-faddonwyr yn eu tronsys (neu yn eu holl ogoniant)! Wedi dweud hynny, mae’n braf cael trawiadau cynganeddol gwreiddiol fel ‘yn undies y baddondy’; yn wir, mae wastad yn braf gweld y gynghanedd yn mynd (yn llythrennol) i fannau sy’n ddieithr iddi.

Mae’r cwpled caeth (dwy linell seithsill o gynghanedd gyflawn sy’n odli â’i gilydd, y naill yn gorffen gyda gair acennog, y llall gyda gair diacen) yn brawf llym, ond er y cyfyngiadau ymddangosiadol, mae’n syndod mor amal mae’r beirdd yn llwyddo i wasgu rhyw wirionedd trawiadol a swynol i’r ffrâm fechan hon.

Weithiau mae’r beirdd yn adrodd stori bersonol, cofiwch, fel yn achos y cwpled hwn (a oedd yn gorfod, yr wythnos hon, gynnwys yr ymadrodd ‘ail law’):

Gwraig ail law waglaw oedd

Ond wedyn fy myd ydoedd.

Bro Alaw

Trueni bod y llinell gyntaf sillaf yn brin.

Dwi’n amau dim na fydd marwolaeth Margaret Thatcher yn cynhyrfu awen beirdd Y Talwrn ar gychwyn y gyfres eleni. Cawsom gerdd grafog gofiadwy gan Y Tir Mawr ar y rhaglen wythnos diwetha. A bron i ni gael y gerdd ganlynol gan Siân Northey ar raglen yr wythnos hon. Ond roedd Siân wedi gweithio cerdd arall ar yr un testun, a honno, yn fy marn i, yn drech.

Sylwch ar y defnydd dyfeisgar o’r testun a’r modd yn mae Sian wedi troi dau o ‘rinweddau’ Mrs Thatcher i’w melin syniadol a thechnegol ei hun:

Cerdd rydd neu mewn mydr ac odl:

Troi a Throsi

Honodd y foneddiges

nad oedd yn un am droi.

A honodd ei ffyddloniaid

ei bod mor wych

mai prin oedd arni angen cwsg.

Gwn y bydd hi heno

yn cysgu mwy na’i phedair awr,

ac mae tamaid brwnt ohonaf

am warafun iddi

esmwyth hun.

Y Tywysogion

I glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Blogiau blaenorol Ceri Wyn Jones

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill
Cyfle arall i'r cerddi na chyrhaeddodd y brig yn rownd gyntaf rhaglen Y Talwrn ar Radio Cymru weld golau dydd wrth i'r Meuryn, Ceri Wyn Jones, ddewis 'y gorau o'r gweddill'.

Rownd 1, rhaglen 1, 21 Ebrill 2013: Llan Ffestiniog

Camp tîm yw camp y talwrn yn y pendraw. Ac, fel ym myd rygbi, er enghraifft, mae safon y rhai sydd wrth gefn ar y fainc yn amal yn tystio i gryfder y tîm sydd ar y cae ar ddechrau’r gêm.

Oherwydd hyn, ac oherwydd disgleirdeb cyffredinol y beirdd sy’n cystadlu o wythnos i wythnos, mae dewis un cynnig ar gyfer pob tasg (o blith nifer o gynigion ar bob un dasg gan wahanol aelodau o un tîm) i gynrychioli’r tîm hwnnw yn yr ornest a ddarlledir yn gyfrifoldeb mawr. A gan amlaf, fy ngwaith i fel Meuryn yw hwnnw.

Hyn oll cyn bwrw ati wedyn i feuryna’r talwrn go iawn rhwng y timau!

Ac felly y bu’r wythnos hon wrth i’r gyfres ailgydio wedi pedwar mis o ohiriad.

Tafarn gymunedol y Pengwern yn Llan Ffestiniog oedd y lleoliad, a’r stafell gefn yn llawn. Oherwydd i’r gyfres golli pedwar mis, bu’n rhaid ailwampio’r rownd gyntaf eleni, a dyna pam y bydd tri thîm, yn hytrach na dau, yn herio’i gilydd bob wythnos, hynny yw hyd nes i ni gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Cawsom dri da i fwrw’r cwch i’r dŵr yn y Pengwern, sef timau Ysgol y Berwyn, Glannau Menai a’r Tir Mawr, a dyma dair o’r cerddi na welodd olau dydd ar y noson.

Testun y pennill ysgafn (ar unrhyw ffurf) oedd ‘Gair o Gyngor i Rywun Enwog’, ac fel y disgwyliech, doedd dim prinder cyngor gan feirdd Y Talwrn i rai o wleidyddion amlyca’r oes, gan gynnwys Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Cymru:

Gair o Gyngor i Alun Davies

Dyro glust i gŵyn amaethwyr
Ac effeithiau llym y lluwch,
Paid troi’n fyddar i fref mamog
A’r diffyg grawn i fwydo’r fuwch.
Gwanwyn cynnar y cynulliad
Hyd yn hyn a gefaist ti,
Ond yn rhewynt etholiadol
Ddydd a ddaw, fe’th gofiwn di

Ysgol y Berwyn

Pennill diffuant ond angerddol yw hwn sydd hefyd yn gwneud defnydd da o ieithwedd y tywydd a’r tymhorau, e.e. ‘rhewynt etholiadol’.

Pennill mwy cyffredinol, ond oesol wir, oedd un Meirion Jones, er ei fod e wedi gweld yn dda i newid y teitl:

Rhybudd i Rywun Enwog

Os wyt ti’n teimlo’n bwysig
Â’th bwer yn ddibaid,
Un gair sydd angen arnat
A hwnnw ydi ‘Paid’.

Glannau Menai

Tîm anodd i’w guro ar y gorau yw’r Tir Mawr. Ac mae’r cywydd isod gan Gareth ‘Neigwl’ Williams – a oedd, yn ôl un beirniad, yn ail am y Gadair Genedlaethol ym Mro Morgannwg y llynedd – yn brawf o gryfder mainc beirdd Pen Llŷn. Roedd yn chwith gen i beidio â dewis hwn fel yr un i’w ddarlledu ar y noson, ond ewch i wefan Y Talwrn i ddarllen cywydd Myrddin Ap Dafydd i deulu Ty’n Ffridd, Cwm Cynfal, ac fe welwch fy nghyfyng-gyngor.

Mae pysgotwyr Llŷn yn ysbrydoli awen Gareth yn amal, ac nid dyma’r cyntaf o’i gywyddau ar Y Talwrn i ddod â seiniau ac oglau unigryw’r cychod a’r dŵr a’r iardiau yn fyw i glustiau a ffroenau’r darllenydd a hynny mewn cynghanedd ffres a diwastraff e.e. ‘Wedi’r pwl dan darpowlin’, a ‘lleuad wen fel swllt o’i ôl’.  Hyfryd hefyd yw’r modd y mae ieithwedd gêr y pysgotwr yn cynnig delweddau iddo, e.e. ’Hel rhwyd i hau chwedlau’r dŵr’.

Ailgydio
(Wil, Gwynfa, un o bysgotwyr chwedlonol Abersoch)

Haul ar war, a gwelir o
Hyd wayw am fordwyo
ar y cei, mor fawr â’r coel –
un o’n hogia’ anhygoel.
Wedi’r pwl dan darpowlin,
Hyd yr iard mae gêr i’w drin,
Hel rhwyd i hau chwedlau’r dŵr,
Capten hirben yr harbwr.
Ac yn iau, yn egnïol
Lleuad wen fel swllt o’i ôl,
Hefo’i llwyth fe’i llywia hi
Oesau’n ôl drwy’r sianeli.

Y Tir Mawr

I glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Mwy o flogiau'r Talwrn