Cymru Feed

PyC - drama newydd aml-blatfform arloesol
Rydw i’n siwr bod nifer ohonoch chi’n gwybod am y Queen Vic a’r Rovers Return. Maen nhw wedi bod yn rhan gyfarwydd o’n bywydau ers degawdau.

Yng Nghymru, mae ganddon ni Y Deri, y dafarn lle mae trigolion pentref dychmygol Cwmderi wedi bod yn dathlu genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ers bron i 40 mlynedd.

Pobol y Cwm yw opera sebon fwyaf hirhoedlog y BBC ar deledu ac mae’n cael ei chynhyrchu yn stiwdios drama Porth y Rhath yng Nghaerdydd a’i darlledu ar S4C.

Mae gan y gyfres ei dilynwyr ffyddlon ond fel nifer o raglenni sefydledig eraill, un her sy’n wynebu Pobol y Cwm ydy sut i ddenu cynulleidfa ifanc tra’n sicrhau bod y gynulleidfa graidd yn hapus hefyd.

Felly, dros y misoedd diwethaf rydw i wedi bod yn brysur yn sefydlu PYC, sef rhaglen ychwanegol i Pobol y Cwm sy’n canolbwyntio ar fywydau rhai o aelodau iau y cast ac yn cyflwyno rhai aelodau newydd hefyd.

Mae hyn wedi bod yn dipyn o her ac efallai mai elfen fwyaf cynhyrfus y prosiect yw mai dyma’r prosiect aml-blatfform cyntaf o’i fath yn yr iaith Gymraeg. Yn hynny o beth, mae wir yn teimlo fel petai Pobol y Cwm, y BBC ac S4C yn gallu cynnig rhywbeth gwirioneddol arloesol i’w cynulleidfa Cymraeg eu hiaith.

Mae PyC wedi rhoi cyfle gwych i’r BBC ac S4C weithio gyda’i gilydd gan ddefnyddio gwahanol dechnegau dweud stori i geisio ennyn diddordeb ein cynulleidfaoedd mewn ffordd newydd. Mae PyC yn dangos ochr mwy pigog, rhywiol Cwmderi.

Mae’n para dros bum pennod sy’n cael eu dangos bob nos rhwng 8fed a’r 12fed o Ebrill.

Bydd y penodau, sy’n cael eu darlledu ar ôl 9pm, yn cael eu dangos ar wefan newydd a fydd hefyd yn galluogi’r gwylwyr i ddod i adnabod y cymeriadau a’r tîm creadigol yn well.

Mae’r wefan wedi ei chynllunio mewn ffordd sy’n caniatáu i bobl sy’n dilyn y gyfres ar eu dyfeisiadau symudol gael profiad sydd llawn cystal â’r rhai sy’n gwylio adref ar eu cyfrifiaduron.

Fel y mwyafrir o bobl ifanc, mae cymeriadau PyC yn gwneud defnydd helaeth o gyfryngau cymdeithasol.

Gallwch sgwrsio, dadlau a fflyrtio gyda’r cymeriadau ar Facebook a Twitter ond, yn bwysicach fyth, mae natur aml-blatffordd y prosiect yn golygu fod llawer o’r stori yn datblygu ar y platfformau hyn hefyd.

Rydw i’n gobeithio y bydd y gwylwyr yn ymgolli’n llwyr ym myd y stori a pho fwyaf o ran y byddan nhw’n ei gymryd yn y prosiect, po fwyaf y byddwn ni’n gallu gwthio’r naratif i gyfeiriadau gwahanol.

Er hynny, gwyddom hefyd na fydd pawb eisiau profiad hollol interactif ac felly mae’r stori’n datblygu dros gyfnod o bum pennod mewn ffordd mwy arferol hefyd.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd PyC yn dod â chynulleidfa newydd i Pobol y Cwm ond hefyd yn gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i’n cynulleidfa bresennol brofi ochr o Gwmderi nad ydyn nhw fel arfer yn medru ei gweld yn ystod y bennod nosweithiol arferol am 8pm.

Felly, os cewch chi gyfle, cymerwch gip ar y wefan - s4c.co.uk/pyc/

Hannah Thomas, Cynhyrchydd PyC

@s4cPyC

Facebook