Archifau 29 Hydref 2009

Anweledig - atgofion?

Categorïau:

Criw C2Criw C2|12:24, Dydd Iau, 29 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Pnawn da bawb!

Dwi'n gweithio ar gyfres o raglenni newydd fydd yn cael eu cyflwyno gan wahanol fandia' - pobl fel Genod Droog, Yr Ods, Topper, Heather Jones, Sibrydion ac Anweledig. Enw'r rhaglenni fydd "/cerddoriaeth", i gyd-fynd hefo gwefan newydd fydd yn rhoi sylw i fandia Cymraeg - tebyg i'r wefan yma.

Ta waeth, Anweledig sy'n cyflwno'r rhaglen gyntaf, ac mi o'n i'n meddwl - oes ganddoch chi atgofion o Anweledig? Gigs? Hoff gan?

Gadewch eich sylwada' yn fama a falla bydd Ceri Cunnington a Gai Toms yn medru ymateb i rai ohonyn n hw ar y rhaglen

Diolch

Gar

C2 Yn Cyflwyno... Yr Ods, Y Niwl ac Endaf Presley

Categorïau:

Criw C2Criw C2|09:52, Dydd Iau, 29 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Ma hi'n wyl Bang Bangor yr wythnos yma Ym Mangor, a heno mi fydda ni draw yn yr Academi yn Undeb Myfyrwyr Bangor yn recordio gig Endaf Presley, Y Niwl a'r Ods. Da ni wedi dechra cael "setlists" gan y bandia. Dyma un Yr Ods:

1. Ffordd Ti'n Troi Dy Lygaid

2. Cerdded

3. City's Heart is Burning

4. Nid Bai Y Teledu

5. Pethau Brau

6. Spin Around With Me

7. Fel Hyn Am Byth

A dyma o bosib y "setlist" mwy od erioed!! Y Niwl:

1. Un

2. Dau

3. Tri

4. Pedwar

5. Pump

6. Saith

7. Unarddeg

8. Chwech

9. Wyth

10. Deg

Os na fedrwch chi ddod draw heno, mi fydd uchafbwyntia'r gig ymlaen ar raglen Lisa Gwilym nos fory am 10pm!

DIWEDDARIAD: Dyma restr caneuon Endaf:

1. Calon Lan

2. Deud Dim, Meddwl Llai

3. Coffa

4. Rhanu Craith

5. Magic Bus

6. Ishtar

7. Why I Love You

8. Ma' Na Reswm

9. Byw Mewn Bwrlwm

10. I Don't Like You

11. Prudd-der

12. I Got A Woman