Archifau 15 Medi 2009

Noson Claddu'r 'Khan

Hefin ThomasHefin Thomas|14:54, Dydd Mawrth, 15 Medi 2009

Sylwadau (0)

Wythnos diwethaf ar sioe Magi Dodd fe wnaeth Ashokan gyhoeddi eu fod wedi chwalu ar ôl 12 mlynedd o gigio, dwy albwm a tua mil o wahanol aelodau. Roedd Magi a Jeni Lyn druan yn eu dagrau wrth glywed Rhys 'Donut' Jones yn cyhoeddi fod taith hir teulu'r Khan wedi dod i ben.



Wel, ges i'r pleser neithiwr (14/9/09) o wahodd, Donut Aled Davies a Marc Real i drafod pam eu bod wedi penderfynu rhoi'r gitar yn y to ac i edrych nol ar rhai o uchafbwyntiau Ashokan. Ymysg y perlau oedd y band yn sôn am eu ffrae gyda rocwyr Penllyn NAR ar maes-e ynglŷn a phwy oedd y band trymaf (Gethin yr allweddellydd gafodd y bai gan y lleill), stori am Alun y prif leisydd yn torri ei fraich hanner ffordd drwy ffilmio'r fideo i'r gan 'Dim Coes, Dim Brec' a stori Marc am gystadleuaeth creu cacen ar Uned 5 aeth o'i le (nath Ashokan ddim cael gwahoddiad yn ôl i stiwdio Uned 5!).

Nath Ashokan ryddhau dwy albym yn 2004. Yn gyntaf 'Diolch am ddal y Gannwyll' oedd yn gymysgedd o draciau pop-ffync gyda elfennau trymach adran rhythm y band yn dechrau amlygu eu hunain (a weithiau'n brwydro yn erbyn y melodïau!). Roedd 'Ashokan 2' dipyn trymach ac yr arddangos dylanwadau metal arbrofol y grŵp oedd erbyn hynny yn rhan amlwg o'u set byw. Ymysg uchafbwyntiau y cyfnod yma yn hanes y band oedd cloi gig Rhyng-gol 2004 yn Aberystwyth, chwarae yn y Carling Arena yn Llundain a cael eu chwarae ar sioe roc Radio 1 ar nifer o achlysuron. Cafodd ail albwm y band ei enwebu am albwm y flwyddyn yng Ngwobrau RAP 2005 hefyd.

Roedd y band wedi mynd trwy gyfnod eithaf tawel ers 2005, gyda Alun y canwr a Slug y drymiwr yn gadael Ashokan yn ystod y blynyddoedd diweddar ond roeddent wastad ar eu gorau pan yn herio'r gynulleidfa neu'r bandiau eraill gyda chymysgedd o hiwmor (nad oedd bob tro yn cael ei werthfawrogi) a chymeryd y mic allan o unrhyw fand neu aelod o'r gynulleidfa oedd eisiau cymeryd yr abwyd. Bydd colled ar ei hol ond gobeithio cawn glywed gan yr aelodau eto yn y dyfodol agos!

Gallwch wrando eto ar y cyfweliad ar yr IPlayer.

Beth yn y Byd

Huw StephensHuw Stephens|13:19, Dydd Mawrth, 15 Medi 2009

Sylwadau (0)

Shwmae. Mae rhaglen newydd Bethan Elfyn ar C2, Beth yn y Byd, yn un arbennig iawn. Fi ddim yn cofio rhaglen fel hyn ar ein tonfeddi erioed; dyma lle mae Beth yn mynd a ni o amgylch y byd trwy ei chasgliad recordiau o wahanol wledydd. Mae'n gwneud gwrandawiad amrywiol a lliwgar, gyda ieithoedd a melodiau, rhythmau a syniadau diarth a gwych yn llenwi awr bob nos Fercher, gwrandewch YMA os chi heb eto.





Ers i mi flogio ddiwethaf dwi wedi bod yn Reading, oedd yn hwyl a sbri fel arfer. Os chi'n chwilio am bron i bob band perthnasol o dan yr haul, dyma'r wyl i ddod iddi. Mae Leeds yr un fath wrth gwrs. Roedd ROC o Gymru yn fwy amlwg nag erioed eleni gyda The Blackout, Funeral For a Friend (albym o'u goreuon mas yn fuan), Kids in Glass Houses (yn agor y prif lwyfan) a Lostprophets yn cloi'r wyl ar lwyfan NME/Radio 1. Yr uchafbwynt i fi oedd gweld Enter Shikari, band metal/electro gwych. Es i i Bestival 'fyd, ar Ynys Wyth. Gwyl Rob da Bank ydi hon, sy'n lliwgar ac yn lot o hwyl. Roedd gweld yr Almaenwyr Kraftwerk yn chware yn uchafbwynt yn sicr.



Sesiwn newydd gan Jen Jeniro ar y rhaglen wythnos nesa, nos Lun i fod yn fanwl gywir. Edrych mlaen, achos mae ei albym cyntaf yn un arbennig, ac yn llwyddo i weu melodiau seicadleig gyda offerynnu diddorol a digon o ddychymyg, heb droi yn blentynaidd. Ife fi yw e, neu oes ne ormod o gerddoriaeth plentynaidd o gwmpas ar hyn o bryd? Mae modd bod yn ddoniol yn glyfar ac yn ddiddorol heb wastad droi a mynd am y gerddoriaeth fwyaf syml, syml eu natur.