Archifau 17 Awst 2009

Norwy, Dyn Gwyrdd a Meistri yn Ffrainc

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|15:14, Dydd Llun, 17 Awst 2009

Sylwadau (0)

Ar ôl hwyl y Steddfod yn Bala, nes i neidio ar fy ngheffyl dychmygol a mynd draw i Norwy. Do'n i heb fod yno o'r blaen, a nes i fwynhau mynd draw i Oslo i weld be oedd yn mynd mlaen. Roedd gwyl Oya mlaen, am yr unfed mlynedd ar ddeg. Amser hir i wyl, ac mae'n un o'r gorau yn Norwy gyda ryw bymtheg mil o bobl yn mynd draw i weld bandie o Norwy (rhan fwyaf) ond hefyd o amgylch y byd.

Roedd Wilco, Band of Horses, Arctic Monkeys a Lilly Allen ymysg y bandie mwy, ond mae bandiau fel Datarock, Ungdomskulen, The New Wine a I Am King o Norwy yn ennu cynulleidfaoedd mawr yno. Mae'r wyl yn para PUMP diwrnod; o nos Fawrth tan ddydd Sadwrn. Amser hir i fod yn gwylio bandiau drwy'r dydd.

Fyddai'n chware rhai o'r uchafbwyntiau ar y rhaglen heno am 10pm, a bydd band newydd Owain Ginsberg, Masters in France, ar y rhaglen heyfd gyda seshwn newydd i'w ddarlledu. Wedyn, pentwythnos yma, gwyl y Dyn Gwyrdd yng Nghrughywel! Fi'n edrych mlaen yn fawr. Drychwch ar y llyn yma yn yr wyl Oya yn Oslo!



photo.jpg

C2 a BBC Introducing... In Wales

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|14:54, Dydd Llun, 17 Awst 2009

Sylwadau (0)

Helo bawb

Cyn i mi fynd ar fy ngwylia, dyma gyfle sydyn i son am rywbeth newydd digon cyffrous fydda i'n ei wneud o ddechrau mis Medi ymlaen. Bob nos Fercher ar raglen BBC Introducing... hefo Bethan Elfyn ar Radio1 yng Nghymru, mi fydd gen i becyn o ryw 5 neu 6 munud i son am be' sy'n digwydd yr wythnos honno yn y sîn Gymraeg. Fe allai fod yn gig/gwyl newydd, yn fand ar fin rhyddhau CD neu am fynd i'r stiwdio, neu unrhywbeth fydda o ddiddordeb. Mae'n gyfle da i roi sylw i gerddoriaeth Gymraeg ar orsaf wahanol, felly os da chi mewn band, neu'n trefnu gigs, gadewch i mi wybod am unrhyw newyddion sydd ganddoch chi.

Fel nes i son, dwi ar wyliau am bythefnos, a Steffan Cravos fydd yma yn fy lle i, felly cofiwch amdano fo am 10pm nos Iau a nos Wener

Hwyl, Lis

x

Jakokoyak, Yr Ods, Cerrig Melys, Georgia Ruth...

Categorïau:

Criw C2Criw C2|10:41, Dydd Llun, 17 Awst 2009

Sylwadau (0)

Helo 'na bawb

Nos Wener dwetha mi gawsom ni raglen anarferol o brysur 'tu ol i'r lleni'. Fel arfer mi fydd Lisa (a finna) wedi dewis y gerddoriaeth a rhoi trefn ar y rhaglen o leiaf awr ymlaen llaw, ond nos Wener ges i ddwy alwad hwyr yn cynnig tracia newydd sbon.

Diolch i ebost ac mp3s, fe ddaeth 'na ganeuon newydd gan Jakokoyak. Roedda ni wedi gwirioni a bod yn onest - fe chwaraeodd Lisa y 'demos' gwreiddiol o'r tracia yma nol yn Nhachwedd 2007, felly mae Rhys Edwards wedi bod yn gweithio arnyn nhw er o leiaf dwy flynedd... Hefyd ar yr ebost fe ddaeth na fersiwn newydd o Gloria Tyrd Adre (Eryr Wen) gan Yr Ods - oedd ddim ond wedi gorffen cael ei gymysgu awr cyn i'r rhaglen gychwyn. Technoleg!!

Hefyd ar y rhaglen, trac gan Cerrig Melys gafodd ei recordio yn '95, ond erioed ei rhyddhau, a chan newydd gan Georgia Ruth Williams. A thrac gan artist electroneg newydd sy'n perthyn i Phil Bradley o'r Brodyr.

Dyma drefn orffenedig y rhaglen - mi oedd hon yn un o fy hoff raglenni fi ers sbel, felly gobeithio gwnewch chi fwynhau gwrando eto!

Hwyl

1 Plant Duw - Byw Ar Gwmwl

2 Cerrig Melys - Hud a Lledu

3 Cymdeithas Yr Hobos Unig - Be Ydy Hyn I Gyd

4 Eitha Tal Ffranco - Sali Ty Gwydr

5 Jakokoyak - See Me Out

6 Sibrydion - Clustiau Cwn

7 Georgia Ruth Williams - Changes

8 Derwyddon Dr Gonzo - Tomi Yn Y Goedwig

9 Cowbois Rhos Botwnnog - Cadfridog Cariad

10 Soft Hearted Scientists - Effervesce

11 Yr Ods - Gloria Tyrd Adre

12 Jakokoyak - Arkangelsk

13 White Overtone Wizard - Plastered