Golwg 360
Mae gwefan newydd Golwg wedi lansio heddiw, ac mae na adran "pop". Mi oeddwn i mewn cyfarfod Sefydliad Cerddoriaeth Cymreig yn ddiweddar, ac mi oedd Barry Thomas yr is-olygydd (sori os dwi di cael dy deitl di'n anghywir Barry) yn son am ei gynlluniau i greu is-wefanau i fandiau Cymraeg fel rhan o'r prosiect - lle i fandiau gael hysbysebu gigs, a gwerthu CDs. Felly os da chi mewn band, ac hefo diddordeb - ebostiwch nhw

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.