Nos Fercher nesa ym Mhwllheli mi yda ni'n recordio noson JyncadelicGai Toms yn Neuadd Dwyfor Pwllheli, felly heno mae'r dyn sain Pete Walton, neu "Funky Pete" wedi mynd i wneud reccy yn y gig gyntaf ym Mae Colwyn hy mynd draw i edrych ar yr ochr dechnegol, siarad hefo Gai a'r criw sain ayyb. Ges i alwad gan Pete rwan, ac fel hyn aeth hi:
Gareth: "Pob dim yn iawn? Dim problema'?"
Pete: "Mae'n edrych yn hollol straight-forward heblaw am y canoe."
Dyna un o'r atebion gorai i gwestiwn erioed!!!
Gar
Mae y siwrne o Gaerdydd i Ogledd Cymru yn warthus. 4 awr i gyrraedd Cyffordd Llandudno a hynny os ydw i'n lwcus i beidio gorfod newid yn Crewe! Er hynny, roedd mynd adref dros y penwythnos o werth oherwydd es i parti penblwydd fy nai Dylan John yn 3 oed. Doeddwn heb ei weld o ers y Nadolig, a mae ei safon cyfathrebu wedi gwella. Roedd yn dweud wrthaf am 'cwch in the sea' a beth oedd eisiau ei weld yn y sw sef llew 'rarr', olphin a bow-wow! Haha! Defnyddiais fy nai fel esgus i chwarae yn y 'jungle jim' yn Llanberis, sef lle llawn peli a sleids. Mwynheais y diwrnod yn fwy na fy nai rwyn meddwl! Hahaha!
Glyn xx
Helo bawb
Huw M fydd artist yr wythnos ar raglen Lisa Gwilym yr wythnos yma. I fod yn gwbl agored, roeddwn i'n meddwl y byswn i'n son yn fama (a bydd Lisa'n yn son ar yr awyr) fod Huw yn gynhyrchydd C2 yng Nghaerdydd!
Er fod Lisa a fi ym Mangor a Huw yng Ngaherdydd, da ni'n amlwg yn ei nabod yn dda iawn, felly dyma esbonio chydig mwy am y rhesymau dros ei ddewis yn artist yr wythnos. Yn syml, mae Lisa'n licio ei gerddoriaeth yn fawr iawn!! Fe gafodd adolygiadau gwych o'i gig yng Ngwyl Swn, ac mae'r senglau sydd wedi ein cyrraedd ni hyd yn hyn wedi bod yn berffaith i'r rhaglen - cerddoriaeth acwstic hyfryd ond hefo elfen 'chydig mwy arbrofol hefyd. Felly dwi'n gobeithio y bydda ni yn chwarae ei gerddoriaeth tasa fo yn aelod o griw C2 neu beidio. Mae hi hefyd yn adeg tawel iawn o ran CDs newydd Cymraeg, felly da ni'n falch iawn o gael cynyrch newydd i roi sylw iddo fo. Os fysa chi'n licio i ni chwarae eich cerddoriaeth chi, gyrrwch o draw ata i!
Cofion
Gar