Archifau 22 Ionawr 2009

'Sori Nia, ti jyst ddim yn gweddu'r fformat!'

Nia MediNia Medi|16:46, Dydd Iau, 22 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Shwmae? Wel dyma fi yn fy nhrydedd wythnos yn cyflwyno C2 ar ol y noson gyntaf o'n i'n siwr y bydden i'n cael yr un profiad a Kelly Brook yn Britiain's got talent', gyda tim cynhyrchu C2 yn dwued 'sori Nia, ti jyst ddim yn gweddu'r fformat!'.

Ond, dwi dal yma ac yn mwynhau mas draw, yn darganfod cerddoriaeth a gwesteion newydd diddorol, a chofio peidio rhegi ar yr awyr...

Dwi wedi dechre ffeindio fy ffordd rownd adeilad BBC yn llandaf erbyn hyn, i ddechrau nes i fynd ar goll yn llwyr, mynd lan a lawr gwahanol liffts, bron a cherdded mewn a thorri ar draws rhaglen Chris Needs a stymblo ar set Pobl Y Cwm.

Fe ofynodd y Cynhyrchydd i fi sgwennu Blog tua wythnos yn ol, a dyma fi o'r diwedd yn eistedd lawr i neud achos fi'n hollol 'pumped up' ar ol neidio ambyty'r lle fel ffwl yn neud 'Pump it up Minsistry of Sound Work Out DVD' a hyn ar orchymyn fy chwaer ar ol iddi hi bwyntio allan mod i'n edrych fel Twba ar ol Nadolig! Ges i ofn ar un adeg mod i'n mynd i syrthio drwy to y lolfa tra'n neud yr ymarfer yn fy 'stafell wely, ond roedd y llawr yn solid chware teg.

Ydy, mae wedi bod yn 3 wythnos gret hyd yn hyn, gyda gwesteion gwych fel Ed Holden i ddechrau (gynt o Pep Le Pew a Genod Droog) wnaeth rhoi gwers Bit bocsio i fi ar yr awyr. Ac er roedd fy nghais i i wneud swn 'Snare drum' gyda fy ngheg yn swno mwy fel rhech mewn bath, roedd Ed yn neis iawn am y peth chware teg! Mae ei EP e fel artist unigol allan yn fuan 'Mor o Miwsig' ac ma' pob swn ar yr EP yn dod o'i geg. Mae e mor dda, o'n i rili yn meddwl fod e'n dweud celwydd...ond dyw e ddim.

Cwpwl o fands hollol gwych a newydd dwi wedi bod yn chwarae ar yr awyr hefyd yw Kiddo 360 a Peggy Reloades. Band Hip Hop-funk-fusion o Abertawe yw Kiddo 360, wnaeth ennill gwobr cerddoriaeth byw Vodafone llynedd gyda bandie fel Take That, Primal Scream a'r Pussy Cat Dolls hefyd yn enillwyr gwyliwch y gofod achos dwi'n meddwl y byddan nhw yn y siartiau Prydeinig o fewn y flwyddyn nesaf. Allwch chi glywed 'i stwff nhw ar www.myspace.com/kiddo360 ac ma'r Trac 'Inside Smiling' yn bownd ogael chi ddanso a chanu'r gytgan ar ol y gwrandawiad cyntaf.

Band arall sydd wedi gwneud argraff enfawr yw 'Peggy Reloades' o ardal Rhydaman. Band Rock eitha' trwm yw'r band yma ond sydd hefyd yn gwneud defnydd o samplau electroneg a chynhyrchu'r math o ganeuon a swn sy'n haeddu arena llawn o miloedd o bobl yn gwrando. Ma'r trac 'Hypnosis' yn cymryd sample o gan 'Sugababes', 'Too Lost' ac ma'r canlyniad yn un fyddde chi fyth yn disgwyl, a chi bownd o gael eich swyno ganddo. Ei myspace nhw yw https://www.myspace.com/peggyreloades ewch yno a rhowch wbod be' chi'n feddwl!

Oherwydd fod gen i duedd i garu cerddoriaeth dawns, ma canwr y band Peggy Reloades (o'r enw Twig, sydd yn digwydd bod yn gynhyrchydd gwych hefyd) wedi cael y dasg gen i i ail-gymysgu caneuon adnabyddus cymraeg ar gyfer rhaglen arbennig fydd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth wedi ei ail-gymysgu. Felly cofiwch wrando ar Nos Iau Chwefror 5ed i glywed y remixes yma am y tro cyntaf ar donfeydd radio -ffili aros am y rhaglen!

Dwi hefyd wedi cael fy ngwahodd i sesiwn C2 na, nid sesiwn ganu na recordio, ond trip i Lundain gyda chriw C2 ddiwedd mis Chwefror i wyl Swn Huw Stephens yn yr ICA. Felly mae'n well i fi fynd nol i'r hen 'Pump it up' nawr, er mwyn i'r caloriau ddiflanu a gwneud lle i'r holl lager fyddai'n fownd o yfed ar y penwythnos honno!

Diolch am ddrallen, diolch am wrando...

Eitha Tal Ffranco

Categorïau:

Gareth Iwan|16:23, Dydd Iau, 22 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Helo

Mae'n werth gwrando ar sesiwn Eitha Tal Ffranco ar raglen Huw Evans ar Radio1 neithiwr - gwych, yn enwedig y fersiwn o Benjamin Bore gan Datblygu.

Mae gan Lisa drac newydd o fath gan Eitha Tal Ffranco ar y rhaglen heno am 10pm - remix Messner o Organ Aur Huw.

Hefyd heno, sesiwn newydd sbon gan Alun Tan Lan

Hwyl

Gar

Bandiau 2009

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|16:05, Dydd Iau, 22 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Helo,

O ni'n meddwl bod hi'n hen bryd i fi sgwennu'r blog yma achos nes i addo g'neud bythefnos yn ôl, ond gan fy mod yn

a) ddiog

b) prysur

c) chwit chwat

ma hi 'di cymryd hyd nawr i'w sgwennu. (Diolch i Siân am fy helpu drwy fygwth y sac os nad o ni'n ei orffen cyn y penwythnos)

Bythefnos yn ôl nath y DJ Esyllt Williams a golygydd cylchgrawn y Selar, Owain Schiavone ddod i stiwdios C2 i adel i ni wbod pa fandie ddyliwn ni edrych mas amdanyn nhw yn 2009.

Dyma'r bandie ma Owain yn meddwl fydd yn fawr eleni:



Zimmermans


Band ifanc o Lantrisant. Nethon nhw sesiwn i

C2 llynedd a oedd yn briliant!

Y band yn gobeithio rhyddhau EP yn fuan yn 2009

Y Promatics

Cyn fand Gwyliwch y Gofod ar C2.

Band ifanc cyffrous 4 aelod o Ddyffryn Nantlle wnaeth sesiwn i C2 llynedd

Just Like Frank

Band 4 aelod o ardal Caerdydd. Hollol carismatic ac yn wych yn fyw.

Cyn fand Gwyliwch y Gofod ar C2



Byd Dydd Sul


Band o ardal Casnewydd sy'n gobeithio ryddhau EP ddiwedd Chwefror.

A dyma'r bandiau ddewisodd Esyllt:

Convoi Exceptionnel

Band roc a hip - hop arbrofol gyda'r aelodau yn dod o Aberystwyth a Glasgow. Eto, un o gyn - fandiau Gwyliwch y Gofod ar C2

Johnny Horizontal

Band 4 aelod o ardal Dinbych a'r cyffiniau a ffurfiodd yn 2005 - Hefin, Dafydd, Guto ac Owain. Am fwy o fanylion.... Gwyliwch y Gofod

Creision Hud

Band ifanc o ardal Caernarfon ffurfiodd ryw 2 flynedd yn ôl. Nath y band ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B yn 2007 ac fel rhan o'i gwobr, nath y band recordio sesiwn . Gafodd ei sengl 1af - 'Ffyrdd Gwyrdd' - ei ryddhau ar label Ciwdod llynedd.



Zimmermans


Ma Esyllt hefyd yn disgwyl pethe mawr gan y band ifanc o Lantrisant