Archifau 19 Ionawr 2009

Shafio yn llwyddiant...

Daniel Glyn|15:38, Dydd Llun, 19 Ionawr 2009

Sylwadau (1)

Shwmae pawb, wi'n teimlo yn smug iawn ar hyn o bryd (smugach nag arfer 'se rhai yn dweud, a pan wi'n gweud 'rhai' wi'n meddwl 'pawb'.) Pam? Achos dwi wedi llwyddo cadw at fy adduned blwyddyn newydd. Dros y dolig edryches i ar fy hun yn y drych a gweld boi byr gyda stubble bler, bol cwrw, a smokers cough. Odd angen tro ar fyd. Edryches i i fyw fy llygaid, ac addo i fy hun mod i am shafio mwy. Dwi nawr wedi bod yn hollol lan ers ionawr y cynta. Rhywun sydd ddim yn lan, ond yn wir yn fudr tu hwnt yw Marc Real, a hir oes i hynny. Fydd e ar fy rhaglen nos Fercher yn tynnu flewyn o drwyn. Y gobaith yw y bydd bach o snot a mymryn o waed ar ben y blewyn, gan taw rhain yw'r rhai sy'n sgorio ucha mewn cystadleuaethau pigo trwyn. Ma'n anodd disgrifio rhaglen nos fercher yma, achos dyw e heb ddigwydd eto, a sa'i moen addo unrhwybeth o flaen llaw. Ond fedra'i eich sicrhau o un peth. Mi fydda'i wedi shafio.



hwyl



Daniel Glyn