Archifau 7 Ionawr 2009

Blwyddyn newydd, a lot o fandiau newydd!

Categorïau:

Robin Owain JonesRobin Owain Jones|16:14, Dydd Mercher, 7 Ionawr 2009

Sylwadau (2)

Helo bawb!

Blwyddyn newydd dda, llond y ty o ffa - blwyddyn newydd ddrwg, llond y ty o fwg... a'i dyna'r dywediad cywir? On i'n siarad am hyn efo Magi ar y rhaglen neithiwr - pam fod cael llond ty o ffa yn flwyddyn newydd dda? Mi faswn i'n casau cael llond ty o ffa - cael dan draed a mewn i bob twll a chornel, a mi faswn i'n eu ffeindio am flynyddoedd wedyn wedi eu stwffio lawr gefn y soffa a ballu!

P'run bynnag, mae 2009 yn argoeli i fod yn flwyddyn wych arall o fandiau newydd cyffrous yma yng Nghymru. Artist Gwyliwch y Gofod cyntaf 2009 oedd Mark Back - canwr-gyfansoddwr ifanc o Gaernarfon, sydd a chaneuon acwstig neis ar ei broffeil myspace. Ewch i adran Gwyliwch y Gofod i ddarganfod mwy!

Na'i ddim dweud gormod, ond mi alla'i addo bod bandiau newydd gwych ar y ffordd dros yr wythnosau nesaf - dwi'n edrych ymlaen yn arbennig i roi sylw i gerddor sy'n byw yn Llundain ar hyn o bryd, ond yn dal i gyfansoddi a recordio caneuon Cymraeg - stwff da iawn.

Dyna ni am y tro, ond cofiwch - os yda chi mewn band newydd sy'n awyddus i gael sylw yn y slot Gwyliwch y Gofod yna cysylltwch a ni trwy e-bostio c2@bbc.co.uk.

Hwyl,

Robin



Lle gai pic'n'mics fi nawr???....

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|15:48, Dydd Mercher, 7 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Hei,

Blwyffyn newyff ffa i chi gyd!

2009... gosh - nag yw amser yn hedfan? Serch yr holl adroddiade' negyddol yn y papure bo'r flwyddyn yma'n mynd i fod yn ofnadwy gyda'r wasgfa ariannol a bygythiad y dirwasgiad - fi'n mynd i drio aros yn bositif. Fi wastad di bod yn sgint felly all pethe ddim mynd lot gwaeth eleni. Ma fy ngwydryn i yn mynd i fod yn hanner llawn yn ystod 2009...

Ond ar ôl dweud hwna fi bach yn gutted bo Woolworths wedi cau. Woolies oedd calon tref Ponty'. Dyna lle o ni gyd y cwrdd ar b'nawn Sadwrn. Dyna lle o ni'n mynd i brynu sengle bob wythnos. O fi'n cal £2 arian poced a bob wythnos o ni'n prynu un sengl ac yn defyddio'r gweddill i brynu pic'n'mics. Yr wye wedi ffrio odd fy hoff pic'n'mics. Reina a'r cola-bottles gyda sigwr arnyn nhw. Ahhh - dyddie syml, dyddie da.

Son am losin, fi a Wisey ar y ffordd i westy yn y Fro i gwrdd â Richard Hughes sy'n hyfforddwr personol i Girls Aloud, Michael Flatley a thîm rygbi y Gleision. Nes i anghofio bo ni'n mydn i weld e - a fi'n gwisgo ffrog sy'n neud fi edrych fel bo fi ar fin cal babi. Ond dydw i ddim yn mynd i gael babi. Fi just yn dew. Ond fi ddim yn mynd i boeni. Ma fy ngwydryn o coca-cola (full-fat) yn hanner llawn....

Chin chin

Magi



Ron Asheton o'r Stooges

Categorïau:

Gareth Iwan|09:41, Dydd Mercher, 7 Ionawr 2009

Sylwadau (2)

Newyddion trist iawn i ffans y Stooges. Bydd Lisa'n chwarae trac ar y rhaglen nos Iau - oes gan unrhywun awgrymiadau am drac y dyle ni chwarae?