Wel helo. Wele fy mlog.
Dyma ni ar ddiwedd (bron iawn) blwyddyn anturus sydd wedi gweld pethau da a pethau drwg yn digwydd I'r byd yn gyffredinol, mae'r rhaglenni ar C2 yn naturiol dueddol o adlewyrchu be sy wedi bod yn dda yn ein byd o gerddoriaeth Gymraeg a rhyngwladol wych.
Cyfle i fwynhau albym cyntaf ag olaf Genod Droog (Ni Oedd Y), The Gentle Good, EP Cate le Bon, Y Diwygiad, albym anhygoel Eitha Tal Ffranco, Messner a gymaint mwy...
Ar yr ochr albyms rhyngwladol, bydde 09 wedi bod yn llymach le heb MGMT, Vampire Weekend, Fleet Foxes a Bon Iver, The Dodos heb os, bob un yn fand o America. Roedd albyms Neon Neon, Wild Beasts, Lykke Li, Los Campesinos a Elbow yn rai hynod o wych hefyd, a'r band Wild Beasts o Leeds yn fand nath ddim torri drwodd ond wedi creu argraff mawr arna i.
Ar fy rhaglenni rhwng nawr a Dolig hefyd gallwch glywed tiwns Nadoligaidd, o'r gwych i'r gwirion. Fi'n casglu nhw drwy'r flwyddyn, felly mae digon i ddewis ohonyn nhw!
Roedd sesiwn diweddar Alun Tan Lani C2 yn wych iawn. Mae Sesiwn newydd gan y Promatics i'w ddarlledu nos Lun nesa (15ed Rhagfyr) - mae hi'n hynod o bwerus hefyd.
Cadwch yn gynnes.
xhx
..wel, am y tro.
Dwi'n drist iawn am ymadawiad yr hogia, am ddau reswm. Y rheswm cyntaf ydy fod 'headliners' Cymraeg yn mynd yn fwy a mwy prin. Heb y Genod Droog a Frizbee, pwy all trefnwyr gigs droi atyn nhw i lenwi gig fawr neu wyl? Pwy alla i a Bandit ffonio yn y gobaith o ychwanegu chydig filoedd o wrandawyr/gwylwyr? Bryn Fon, Sibrydion, Gwibdaith, falle Cowbois? Radio Lux, Euros Childs? Derwyddon hefo dipyn o lwc yn 2009? Mae angen grwpiau poblogaidd arnom ni, ac mi fydd hi'n anoddach ar drefnwyr gwylia heb Genod Droog a Frizbee. Dyna ddiwedd hefyd ar un o'r ychydig grwpiau llawn amser Cymraeg...
Mae'r ail reswm yn fwy personol. Dwi wedi gweithio lot hefo hogia Frizbee dros y 5 mlynedd dwetha, ac yn ddi-ffael, mae nhw wedi bod yn gyfeillgar, hoffus a chwbl broffesiynol. Mae nhw wedi gwneud tri sesiwn i raglen Lisa, ac yn ol yn 2004 roedda nhw'n gefnogol iawn i'r rhaglen pan nad oedd pawb, ac mi ydw i'n ddiolchgar iawn am hynny.
Efallai na wnaeth Frizbee gyrraedd uchelfanau amrywiol cerddorol eu arwyr Supergrass, ond mi oedd Frizbee yn grwp roc gret - ac mi fydd y sin yn dlotach hebddyn nhw.
Gewch chi wrando ar sesiynau Frizbee o 2006 ac o 2008 a gweld os da chi'n cytuno. Fel arfer, plis gadewch sylwadau, ac os da chi isho gyrru neges i Frizbee, fe wna i'n siwr fod yr hogia'n ei dderbyn.
DIWEDDARIAD: Bydd Frizbee hefo Lisa am awr nos Iau 18/12/08 yn edrych yn ol ar eu cyfnod yn gigio a recordio